Skip to main content

Ail gam yr ymgynghoriad ar gyfer Cyllideb 2021/22 wedi dechrau

Budget CYM 2

Heddiw, mae'r Cyngor wedi cychwyn ail gam yr ymgynghoriad cyhoeddus ar ei Gyllideb 2021/22 - gyda thrigolion, busnesau a rhanddeiliaid eraill bellach yn cael eu galw i fwrw'u sylwadau ar y cynigion penodol fel sydd wedi'u nodi yn y ddogfen ddrafft – Strategaeth y Gyllideb.

Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Iau, 28 Ionawr , cytunodd yr Aelodau ar strategaeth gyllideb ddrafft ac amserlen ar gyfer cwblhau'r gwaith ar y Gyllideb 2021/22 ym mis Mawrth 2021 - a rhan bwysig o hyn yw cynnal cyfnod ymgynghori gyda thrigolion. Cynhaliwyd cam cyntaf y broses ymgynghori rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2020, a chasglwyd barn ar flaenoriaethau buddsoddi, Treth y Cyngor ac arbedion effeithlonrwydd, ac mae'r Cabinet wedi ystyried yr adborth gwerthfawr yma wrth gytuno ar strategaeth gyllideb ddrafft.

Cyhoeddwyd y Setliad Dros Dro ar 22 Rhagfyr yn cydnabod y rôl hanfodol y mae awdurdodau lleol wedi'i chwarae mewn ymateb i bandemig COVID-19, ac mae'n cadarnhau y bydd Rhondda Cynon Taf yn derbyn cynnydd o 3.8% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Gan ystyried hyn, yn ogystal â'r adborth yn dilyn y cam cyntaf, rhannwyd Strategaeth Gyllideb Ddrafft ag Aelodau o'r Cabinet. Ei nod yw bod mor deg â phosibl, cyfyngu unrhyw effaith ar ein gwasanaethau gwerthfawr a thargedu adnoddau i feysydd allweddol. Mae'n cynnwys cynnydd arfaethedig o 2.65% yn Nhreth y Cyngor - sy'n debygol o fod y cynnydd isaf yng Nghymru y flwyddyn nesaf, £2.2m ychwanegol ar gyfer y Gyllideb Ysgolion, £4.6m mewn arbedion effeithlonrwydd, dim toriadau mewn gwasanaethau, ac adnoddau wedi'u targedu ychwanegol ar draws sawl gwasanaeth â blaenoriaeth. Mae crynodeb ohoni ar waelod y dudalen yma.

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet, mae ail gam yr ymgynghori â thrigolion bellach wedi cychwyn - a bydd yn para tan ddydd Gwener, 12 Chwefror. Mae modd i breswylwyr gymryd rhan yma: www.rctcbc.gov.uk/ymgynghoriadaupresennol.

Bydd y broses ar-lein yn bennaf oherwydd cyfyngiadau COVID-19 - a bydd yn cynnwys arolwg ar-lein, sesiwn ymgysylltu â'r cyhoedd dros Zoom a chyfle i ofyn cwestiynau i Uwch Swyddogion ac Aelodau o'r Cabinet ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd sesiynau fideo ar-lein hefyd yn cael eu cynnal gyda grwpiau penodol – gan gynnwys Grŵp Cynghori Pobl Hŷn, Fforymau Ieuenctid Rhondda Cynon Taf ac ysgolion lleol, yn ogystal â'r Pwyllgor Craffu – Cyllid a Chyflawniad, Fforwm Cyllideb Ysgolion.

Mae modd i breswylwyr hefyd gymryd rhan trwy ddulliau eraill, gan gynnwys trwy lythyr (Rhadbost) a thros y ffôn. Mae modd i drigolion ffonio 01443 425014 i roi eu barn dros y ffôn, neu i drefnu copi papur o'r wybodaeth a'r holiadur.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: “Ddydd Iau, bu’r Cabinet yn ystyried y Strategaeth Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2021/22, a chytunodd i symud ymlaen i ail gam yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion penodol hyn.

“Diolch i reolaeth ariannol gall y Cyngor, mae'r strategaeth yn targedu buddsoddiad mewn nifer o feysydd blaenoriaeth, yn sicrhau £4.6m mewn arbedion effeithlonrwydd, yn cynnig dim toriadau mewn gwasanaethau ac yn cyflwyno'r hyn sy'n debygol o fod y cynnydd isaf mewn Treth Gyngor yng Nghymru - hyn oll yn erbyn cefndir y pandemig COVID-19.

“Mae'r sylwadau a ddaw i law yn ystod y broses ymgysylltu â'r cyhoedd yn hanfodol bwysig, fel roedd yr ymgynghoriad cyntaf ar y Gyllideb yn dangos pan ddefnyddiwyd y 1,044 o arolygon wedi'u cwblhau fel ystyriaeth allweddol i Swyddogion baratoi'r Strategaeth Gyllideb ddrafft. Er enghraifft, dywedodd 76% o'r ymatebwyr y bydden nhw'n amddiffyn gwasanaethau gyda chynnydd yn Nhreth y Cyngor - ac mae'r cynigion yn cyflawni hyn gyda chynnydd is na'r hyn a oedd yn destun yr ymgynghoriad yn wreiddiol. Y cynigion yw hefyd i ysgolion a maes Iechyd y Cyhoedd dderbyn cyllid wedi'i dargedu, gyda'r rhain ymhlith y gwasanaethau y dywedodd pobl wrthon ni y dylen ni fod yn eu blaenoriaethu.

“Mae cyfyngiadau COVID-19 yn cyflwyno heriau i ymgynghoriadau cyhoeddus - fodd bynnag, bydd y Cyngor yn parhau i geisio cyrraedd cymaint o breswylwyr â phosibl, fel sydd wedi digwydd mewn sesiynau ymgysylltu trwy gydol y pandemig. Bydd yn ymgynghoriad ar-lein yn bennaf, ond gyda darpariaeth bwysig ar gyfer y rhai nad oes modd iddyn nhw gael mynediad i'r Rhyngrwyd, gan fod yr holl ddogfennau ar gael fel copïau caled ar gais, a gall pobl hefyd ddweud eu dweud dros y ffôn neu drwy lythyr.

“Byddwn i'n annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad i helpu i lywio'r broses benderfynu ar gyfer pennu Cyllideb derfynol, a fydd yn cael ei hystyried gan Aelodau o'r Cabinet ym mis Chwefror a'r Cyngor Llawn ym mis Mawrth."

Mae'r Strategaeth Gyllideb Ddrafft, y cytunwyd arni gan y Cabinet ar 28 Ionawr, yn cynnwys:

  • Cynnydd o £2.2 miliwn yn y gyllideb ysgolion gan gydnabod bod ysgolion yn flaenoriaeth allweddol a chan ariannu eu gofynion ar gyfer 2021/22 yn llawn.
  • Amddiffyn gwasanaethau'r Cyngor sy'n golygu ei fod yn gyllideb dim toriadau .
  • Cyflwyno £4.6 miliwn mewn arbedion effeithlonrwydd pellach, ar ben yr arbedion o £6 miliwn y flwyddyn a gyflawnwyd ar draws gwasanaethau'r Cyngor ym mhob un o'r tair blynedd diwethaf.
  • Cynnydd o 2.65% yn Nhreth y Cyngor. Mae hyn yn is na'r hyn yr ymgynghorwyd arno'n flaenorol ac mae'n bosibl mai hyn fydd y cynnydd lleiaf yng Nghymru ar gyfer 2021/22.
  • Parhad y Cynllun Rhyddhad Lleol ar gyfer Ardrethi Annomestig (NDR), a'i gynyddu i £350 i bob busnes cymwys ar gyfer 2021/22.
  • Bydd parcio am ddim ar ôl 3pm yn ystod yr wythnos ac ar ôl 10am ar ddyddiau Sadwrn (yn Aberdâr a Phontypridd).
  • Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon, byddai cyllideb graidd o £100,000 yn cael ei rhoi ar waith i gyflymu'r gwaith yn y maes yma.
  • Rhewi taliadau, ar gyfer Hamdden am Oes, meysydd parcio, caeau chwaraeon,  Lido Ponty/Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Ffioedd Profedigaeth a phrydau ysgol.
  • Adnoddau wedi'u targedu ychwanegol:
    • £200,000 i alluogi'r Cyngor i benodi 6 Swyddog Graddedig yn ychwanegol at yr ymrwymiad presennol a wnaed o dan Gynllun Graddedigion llwyddiannus y Cyngor.
    • £200,000 ar gyfer Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd i gynyddu gwytnwch yn y gwasanaeth a chaniatáu i adnoddau ychwanegol gael eu defnyddio.
    • £50,000 mewn Cymorth Atal Llifogydd ar gyfer adnodd ymgynghorol i roi cymorth i drigolion a busnesau.
    • £50,000 ar gyfer datblygu ac ymestyn rhaglenni cymorth Llesiant ar draws y gweithlu.
    • £75,000 ar gyfer sefydlu Carfan Gordyfiant ychwanegol i wella'r gwaith ymhellach i gadw ein hamgylchedd lleol yn lân ac yn daclus.
    • £500,000 ar gyfer Carfan Ddraenio newydd i wella a chyflymu'r gwaith o atgyweirio a gwella systemau draenio.
Wedi ei bostio ar 29/01/2021