Gallai'r Cabinet gytuno i fwrw ymlaen â'r cynigion mewn perthynas ag ysgol newydd gwerth £8.5miliwn ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yn ei gyfarfod ddydd Iau, 28 Ionawr. Byddai'r cynigion yma'n darparu cyfleusterau sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif ac yn gwella ansawdd addysg gynradd cyfrwng Cymraeg yn ardal Glynrhedynog.
Yn y cyfarfod yma, bydd y Cabinet yn trafod adroddiad sy'n amlinellu cynigion i ddarparu adeilad ysgol newydd erbyn 2024, gan ddefnyddio safle newydd yn ardal Glynrhedynog. Fyddai'r safle newydd yma ddim yn effeithio ar ddalgylch YGG Llyn y Forwyn. Gallai'r Aelodau gytuno i roi cymeradwyaeth ffurfiol sy'n galluogi'r Cyngor i gychwyn y broses ymgynghori mewn perthynas â'r cynigion, a fydd yn cychwyn ym mis Mawrth 2021.
Byddai'r prosiect yn cael ei gyflawni yn rhan o Raglen Moderneiddio Ysgolion y Cyngor. Ar hyn o bryd, mae gan YGG Llyn y Forwyn ddau adeilad Fictoraidd ar safle a oedd yn destun arolwg yn 2019. Roedd yr arolwg wedi nodi gradd 'D' ar gyfer cyflwr a gradd 'C' ar gyfer pa mor addas yw'r safle ('A' yw'r radd uchaf a 'D' yw'r isaf) Ar hyn o bryd, mae gan yr ysgol restr o waith cynnal a chadw gwerth mwy nag £1miliwn.
Roedd arolwg Estyn ym mis Ionawr 2019 wedi nodi bod cyflawniad yr ysgol yn 'dda' ym mhob maes, roedd yr adroddiad wedi nodi safon y mannau awyr agored. Nid yw'r safle presennol yn hygyrch, a dim ond hyn a hyn y mae modd ei wneud i wella hyn ar safle cyfredol yr ysgol. Mae'r mannau chwarae awyr agored ar lethr ac mae hyn yn golygu bod dysgu yn yr awyr agored yn her, a does dim mannau gwyrdd ar gael. Yn ogystal â hyn, does dim darpariaeth parcio i staff ar y safle ac mae'n rhaid i gerbydau cludiant ysgol ddefnyddio'r mannau preswyl ger yr ysgol.
Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae buddsoddiad gwerth £8.5miliwn yn cael ei gynnig ar gyfer safle newydd - er mwyn ehangu cyfleusterau a chreu capasiti ychwanegol. Byddai'n cynnwys mannau dysgu modern a hyblyg, cyfleusterau mewnol ac allanol sy'n hygyrch ac y mae modd i'r gymuned eu defnyddio, mannau awyr agored gwell i gefnogi holl weithgareddau'r cwricwlwm, maes parcio i staff a man gollwng a chasglu ar gyfer cerbydau cludiant rhwng yr ysgol a'r cartref.
Mae'r Cyngor yn cynnig adeiladu'r ysgol newydd ar dir i'r gogledd o'r Ucheldir yng Nglynrhedynog, neu'r 'Chubb Factory' yn lleol. Yn dilyn gwaith gwerthuso mewn perthynas ag 11 safle posibl, cafodd y safle yma'i ddewis am sawl rheswm - mae'n faint addas, mae'n safle gweddol hygyrch ac mae modd ei wella, mae'r safle'n agos i'r ysgol gyfredol ac yn cynnig cyfle datblygu dichonadwy.
Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: "Bydd y Cabinet yn trafod adroddiad sy'n cynnig buddsoddiad sylweddol ar gyfer YGG Llyn y Forwyn, Glynrhedynog. Dyma ysgol sydd yn gwneud yn dda ac a oedd wedi derbyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn yn ystod yr arolwg diwethaf. Fodd bynnag, dim ond hyn a hyn y mae modd ei wneud ar safle cyfredol yr ysgol - gan gynnwys materion sy'n ymwneud ag hygyrchedd a chyfleusterau parcio, mannau gwyrdd a chyfleoedd dysgu yn yr awyr agored. Mae angen cyflawni gwaith cynnal a chadw brys gwerth £1miliwn ar yr adeiladau cyfredol. Mae'r adeilad ysgol yma felly'n cynrychioli un o adeiladu mwyaf tlawd y Cyngor. Byddai'r cyfleusterau newydd sbon yn cymryd lle'r hen adeiladau ac mae'r disgyblion a'r staff yn eu haeddu nhw.
"Mae'r cynnig yma er mwyn darparu cyfleusterau sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif ar hen safle 'Chubb Factory'. Mae'r lleoliad yn addas, a byddai'n haws i'r ysgol a'r gymuned ymdopi â'r 65% o ddisgyblion sy'n defnyddio cludiant ysgol bob bore a phob prynhawn. Bydd y Cyngor hefyd yn adolygu'r llwybrau diogel i'r ysgol lleol, byddai modd i hyn arwain at fuddsoddi mewn llwybrau cerdded, croesfannau a mesurau gostegu traffig ar gyfer y gymuned.
"Y prosiect yma fyddai'r prosiect diweddaraf i ddarparu cyfleusterau newydd sbon, mae gan y Cyngor hanes lwyddiannus o gyflawni rhaglenni Moderneiddio Ysgolion a Rhaglenni Ysgolion yr 21ain Ganrif. Ysgol Gynradd Hirwaun yw'r ysgol ddiweddaraf i elwa o'r rhaglen, ar ôl i adeilad newydd gwerth £10.2miliwn gael ei agor ym mis Tachwedd - mae prosiectau eraill wedi'u cynllunio ar gyfer YGG Aberdâr, Ysgol Rhydywaun a ledled ardal Pontypridd a'r cyffiniau.
"Mae adroddiad arall a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Iau yn amlinellu'r cynnydd da y mae'r Cyngor wedi'i wneud o ran Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, i wella ac ehangu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gyfrannu ar lefel lleol tuag at weledigaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, sy'n ceisio sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg. Mae'r cynnig cyffrous yma ar gyfer Ysgol Llyn y Forwyn yn enghraifft arall o'r ymrwymiad yma."
Wedi ei bostio ar 26/01/21