Mae Prif Weithredwr Valley Veterans, Paul Bromwell, wedi cael ei anrhydeddu yng Ngwobrau cyntaf Pobl Aneurin Bevan y GIG.
Mae Mr Bromwell, sy'n byw yng Nghwm Rhondda, wedi derbyn Gwobr Aneurin Bevan am Ofal yn y Gymuned, i gydnabod ei waith gyda chymuned y Lluoedd Arfog yn Rhondda Cynon Taf.
Yn gyn-filwr gyda'r Gwarchodlu Cymreig a chyn-ymgyrchydd Ynysoedd y Falkland, mae Mr Bromwell yn parhau i fod yn angerddol dros yr angen i gefnogi cyn-bersonél a phersonél presennol y Lluoedd Arfog, a'u teuluoedd.
Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: “Ar ran y Cyngor a’n cymuned Lluoedd Arfog falch, rwy'n llongyfarch Paul ar dderbyn y wobr arbennig yma i gydnabod yr holl waith anhygoel y mae’n ei wneud i fod yn gefn i'r rhai sydd ei angen fwyaf.
“Mawr yw'n dyled ni i'r Lluoedd Arfog, yn y gorffennol a heddiw. Fyddwn ni byth yn anghofio'r aberth maen nhw wedi'i wneud, ac yn parhau i'w wneud.”
Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i gytuno i Gyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012. Ar 2 Mehefin 2018, rhoddodd yr Awdurdod Lleol hefyd Ryddfraint y Fwrdeistref Sirol i Weinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan a holl bersonél yr Awyrlu Brenhinol, o'r gorffennol i'r presennol.
Cefnogaeth i'n Lluoedd Arfog
Sefydlodd Mr Bromwell Valley Veterans gan ei fod wedi dioddef o Anhwylder Straen Ôl-drawmatig (PTSD) yn dilyn ei amser yn y Lluoedd Arfog, ac mae bellach yn gweithio'n agos gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf.
Mae Valley Veterans, sydd wedi'i leoli yn Rhondda Cynon Taf, yn sefydliad sydd wedi’i arwain gan gyn-filwyr gyda chymorth gan y Cyngor. Cafodd ei sefydlu dros 10 mlynedd yn ôl yn grŵp cymorth anffurfiol ar gyfer y sawl a oedd yn dioddef o PTSD. Bellach mae'n ganolbwynt bywiog yn y gymuned gyda mwy na 140 o bobl yn cymryd rhan weithredol.
Yn dilyn diagnosis hwyr dros 20 mlynedd yn ôl, sylweddolodd Mr Bromwell fod yna angen dybryd am ganolbwynt cymunedol i gyd-ddioddefwyr, rhywle lle byddai modd ymgynnull i gyfnewid gwybodaeth a chysylltu â'r rhwydwaith gynyddol ond dryslyd o sefydliadau a gwasanaethau cymorth.
Mae hefyd wedi gwneud cyflwyniad i Fyrddau GIG ledled Cymru i egluro i staff ar bob lefel, o weithwyr cymdeithasol i ymgynghorwyr, beth yw PTSD a'i effeithiau, a sut i wybod a yw rhywun yn cyflwyno gyda PTSD. Mae hefyd wedi ymgyrchu dros “ystafelloedd tawel” mewn ysbytai ar gyfer cyn-filwyr sy'n dioddef o PTSD, yn enwedig mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac adrannau cleifion allanol, i leihau lefelau eu pryder mewn amgylcheddau prysur a phoblog.
Ymhlith y gweithgareddau mae Valley Veterans yn eu cynnal - pan fo cyfyngiadau Llywodraeth Cymru yn caniatáu - mae’r grŵp garddio llwyddiannus a’r Clwb Brecwast, lle mae modd i bobl debyg ddod at ei gilydd i rannu eu profiadau a’u diddordebau a chael yr help sydd ei angen arnyn nhw.
Meddaisylfaenydd Valley Veterans, Paul Bromwell: “Mae'n anrhydedd ac yn bleser i dderbyn Gwobr Gofal gyntaf Aneurin Bevan, a gafodd ei enwi ar ôl y dyn a sefydlodd ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae'n dyled ni i'r GIG yn enfawr, yn enwedig yn ystod y pandemig.
“Sefydlais grŵp Valley Veterans er mwynbod help ar gael i'r bobl oedd ei angen, y bobl hynny a fu’n barod i aberthu eu bywydau i amddiffyn ein gwlad. Roedd yn amlwg i mi fod y bobl yma, a nifer ohonyn nhw'n byw yn ein hardal a'n cymunedau lleol ni, angen ein help a'n cymorth.”
Ganwyd Aneurin Bevan yn un o 10 o blant, yn Nhredegar ym 1897. Cafodd ei ethol i Gyngor Dosbarth Trefol Tredegar ym 1922 a saith mlynedd yn ddiweddarach daeth yn Aelod Seneddol Llafur dros Etholaeth Glyn Ebwy.
Daeth yn Weinidog Tai ac Iechyd ym 1945 ac ym 1948 creodd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan ddod yn Ddirprwy Arweinydd y Blaid Lafur yn ddiweddarach. Bu farw ym 1960, yn 62 oed.
Cafodd Gwobrau cyntaf Pobl Aneurin Bevan y GIG eu cynnal i gydnabod a dathlu gwaith pawb sydd ddim o reidrwydd yn amlwg ond sy'n cael effaith enfawr ar gymunedau ledled Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am Valley Veterans, ebostiwch y grŵp enquiries@valleyveterans.org neu ffoniwch 07733 896 128
Wedi ei bostio ar 16/07/2021