Skip to main content

Rhestr Fer Cyflogwr Prentisiaid y Flwyddyn

App Logo

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau mawreddog Personnel Today 2021, i gydnabod llwyddiant ei Gynllun Prentisiaethau.

Mae Gwobrau Personnel Today, sydd wedi cael eu cynnal ers 23 mlynedd, yn dathlu cyflawniadau eithriadol carfanau Adnoddau Dynol a Dysgu a Datblygu ar draws sectorau cyhoeddus a phreifat y DU, gan wobrwyo sefydliadau eithriadol sy'n rhoi eu gweithwyr wrth galon yr hyn maen nhw'n ei wneud.

Ar ôl trafodaethau dwys gan y beirniaid ynghylch pwy fyddai’n cyrraedd rhestr fer 2021, ac yn dilyn blwyddyn sydd wedi bod yn gythryblus ar y naw i AD, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi’i gynnwys yng nghategori Cyflogwr Prentisiaid y Flwyddyn.

Meddai’r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rwy’n falch iawn bod Cynllun Prentisiaethau rhagorol y Cyngor yn cael cydnabyddiaeth genedlaethol trwy gyrraedd rhestr fer y gwobrau yma.

“Ar ôl mwynhau llwyddiant mawr yn barod eleni yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2021, rwy'n gobeithio y bydd llwyddiant unwaith eto yng Ngwobrau Personnel Today.

“Mae Cynlluniau Prentisiaethau a Graddedigion y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus iawn dros nifer o flynyddoedd, gan helpu cannoedd o bobl i ennill y sgiliau a’r profiadau pwysig sydd eu hangen i gyflawni eu huchelgeisiau o ran gyrfa.”

Eleni, mae Gwobrau Personnel Today wedi'u rhannu'n 24 categori, gan gynnwys Gwobr Pobl a Phwrpas newydd. Mae’r wobr yma’n cydnabod sefydliadau sy'n rhoi gwaith ystyrlon a phwrpasol wrth wraidd eu strategaeth. Y gobaith yw y bydd seremoni wobrwyo arbennig yn cael ei chynnal yn Llundain yn ddiweddarach eleni.

Mae yna wobrau hefyd i ddathlu gwaith rhagorol ym meysydd amrywiaeth a chynhwysiant, buddion gweithwyr, iechyd a lles, rheoli talent a dysgu a datblygu, yn ogystal â gwobrau sy'n cydnabod y gwaith eithriadol sy'n cael ei wneud gan gyflenwyr.

Meddai Rob Moss, golygydd Personnel Today: “Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn her enfawr i AD ac rydyn ni wrth ein boddau gyda’r creadigrwydd a gwydnwch mae'r sawl sydd wedi'u henwebu wedi eu dangos eleni.

“Llongyfarchiadau enfawr i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ac edrychwn ymlaen at ddathlu eich gwaith caled a'ch arloesedd ym mis Tachwedd.”

Mae Cynllun Prentisiaethau’r Cyngor wedi bod ar waith ers mis Medi 2012. Yn ystod y cyfnod yma, mae'r Cyngor wedi cyflogi dros 300 o brentisiaid mewn llawer o wahanol feysydd gwasanaeth.

Ym mis Tachwedd 2018, enillodd Cyngor Rhondda Cynon Taf wobr Cyflogwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru am ei gynllun Prentisiaethau rhagorol, gan ddod i'r brig eto yn 2021.

Yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru eleni, cyrhaeddodd tri phrentis Cyngor Rhondda Cynon Taf y rhestr fer, a chafodd yr awdurdod lleol ei goroni’n Facro-gyflogwr y Flwyddyn.

Dyma'r eildro i Gyngor Rhondda Cynon Taf ennill gwobr Macro-gyflogwr y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru. Cafodd y Cyngor ganmoliaeth am y ffordd y rhoddodd gymorth i'w Brentisiaid yn ystod pandemig y coronafeirws i barhau â'u hastudiaethau. Cafodd ganmoliaeth hefyd am y ffordd roedd wedi rhyddhau Prentisiaid o’u hadrannau i gefnogi gwasanaethau hanfodol yn y gymuned, megis gweithio gyda'r GIG ar ddata gwarchod y coronafeirws a dosbarthu parseli bwyd.

Enillodd prentis Sophie Williams o Hirwaun wobr Doniau’r Dyfodol, ac enillodd Bethany Mason o Lantrisant wobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn. Roedd Owen Lloyd hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol y gwobrau yng nghategori Prentis y Flwyddyn.

Mae Cynllun Prentisiaethau’r Cyngor ar gael i unrhyw un 16 oed ac yn hŷn, a does dim terfyn oedran uchaf. Yn ystod prentisiaethau, mae unigolion yn gweithio gyda chydweithwyr profiadol, ac yn magu gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd. Mae'n gymysgedd o hyfforddiant 'yn y gwaith' a dysgu 'ystafell ddosbarth', sy'n rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i ddilyn llwybr gyrfa penodol a fydd hefyd yn arwain at gymwysterau sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol.

Rhagor o wybodaeth am Gynllun Prentisiaethau Cyngor Rhondda Cynon Taf

Wedi ei bostio ar 30/07/21