Skip to main content

Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned – Yr Wybodaeth Ddiweddaraf

Ydych chi'n bwriadu mynd i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned dros y penwythnos?

Wrth i'r haf ddechrau o'r diwedd a'r heulwen yn tywynnu ar Rondda Cynon Taf, bydd llawer o drigolion RhCT wrthi'n clirio eu garejys, twtio'u gerddi a'u lleoe mannau eraill gyda'r hwyr a thros y penwythnosau. 

Ar hyn o bryd, mae'r holl Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ledled Rhondda Cynon Taf ar agor.

Mae rheolau COVID-19, sydd ar waith i ddiogelu staff a thrigolion, yn cyfyngu ar nifer y cerbydau sy'n cael mynd i mewn i'r safle ac mae uchafswm o 10 munud fesul pob cerbyd i gael gwared ar eitemau.   Yn ystod cyfnodau eithriadol o brysur, mae modd i giwiau dyfu'n gyflym ac rydyn ni'n gofyn i drigolion fod yn amyneddgar a dod yn ôl i'r safle ar adeg arall os oes modd iddyn nhw wneud hynny.

Ar hyn o bryd mae chwe Chanolfan Ailgylchu yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf:

  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Tŷ Amgen, Llwydcoed, Aberdâr, CF44 0BX
  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Glynrhedynog, Heol y Gogledd, Glynrhedynog, CF43 4RS
  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Dinas, Heol y Cymer, Dinas, CF39 9BL
  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Tŷ Glantaf, Heol Ffynnon Taf, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, CF37 5TT
  • Canolfan Ailgylchu 100% Llantrisant, Ffordd Pant-y-Brad, ger Heol-y-Sarn, Ystad Ddiwydiannol Llantrisant, CF72 8YT
  • Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Treherbert, Ystad Ddiwydiannol Treherbert, Treherbert, CF42 5HZ 

Bydd yr holl ganolfannau hyn yn diwallu eich anghenion o ran ailgylchu gwastraff, gan gynnwys nwyddau gwynion, cardfwrdd, dillad, plastig, hen oleuadau, pren, gwydr, metel, olew injan, tiwbiau fflworolau, plastrfwrdd, hen deganau, paent, teiars, hen setiau teledu a llawer yn rhagor.

Mae staff wrth law ym mhob un o'r canolfannau ac mae'r cynorthwywyr yn hapus i roi cyngor i drigolion am ailgylchu. Serch hynny, o dan ganllawiau COVID-19 does dim modd iddyn nhw helpu i godi eitemau ac rydyn ni'n atgoffa trigolion i gadw pellter cymdeithasol o 2 fetr ar bob adeg ar y safle.

Mae'r ddwy siop ail-ddefnyddio 'The-Shed ' bellach yng Nghanolfannau Ailgylchu Treherbert a Llantrisant bellach wedi ailagor i'r cyhoedd ar gyfer pori a rhoddion, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn 9.30am-4pm.

Dylech chi roi unrhyw hancesi papur, clytiau glanhau neu bersonol, mygydau wyneb, menig, citiau profion llif unffordd (LFTs) neu unrhyw Gyfarpar Diogelu Personol eraill yn rhan o'ch gwastraff bin du, gan nad yw'r rhain y ncael eu derbyn yn y Canolfannau Ailgylchu yma - os oes gan unrhyw un yn eich aelwyd symptomau'r Coronafeirws, dylech chi roi'r eitemau yma mewn dau fag a'u rhoi allan ar ôl 72 awr.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth:

“Mae ein Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn helpu i ddarparu mynediad dyddiol at wasanaethau ailgylchu i’n trigolion ac mae’n wych gweld bod ein trigolion yn parhau â’u hymdrechion ailgylchu.

“Mae'r canolfannau bob amser yn boblogaidd adeg yma'r flwyddyn, a hyd yn oed yn fwy eleni. Byddwn i'n gofyn i drigolion fod yn amyneddgar gan fod y staff yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gynorthwyo pawb yn ddiogel.” 

I gael rhagor o wybodaeth am y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned a'r rheolau presennol sydd ar waith, ewch i www.rctcbc.gov.uk/RheolauCanolfannauAilgylchu.

Wedi ei bostio ar 01/07/21