Skip to main content

Gwaith atgyweirio hanfodol i Bont Ynysmeurig yn Abercynon i ddechrau

Ynys Meurig Bridge 1 - Copy

Mae'r Cyngor yn awyddus i atgoffa trigolion o'r gwaith sydd ar ddod yn Abercynon sy'n ei gwneud yn ofynnol i gau'r B4275 ar Bont Ynysmeurig. Bydd trefniadau dros dro ar gyfer llwybrau’r bysiau lleol hefyd yn dod i rym pan fydd y cynllun yn cychwyn ddydd Mercher.

Yn ystod mis Mehefin, rhoddodd y Cyngor rybudd ymlaen llaw o'r gwaith, sy'n gofyn am gau'r briffordd a gweithredu  dargyfeiriad sylweddol i yrwyr a’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaethau bws. Mae hi bellach wedi ei chadarnhau bydd y gwaith yn dechrau ar ddydd Mercher, 21 Gorffennaf a bydd y contractwr Walters UK Ltd ar y safle am chwe wythnos tan 1 Medi. Mae'r gwaith wedi'i drefnu yn ystod gwyliau haf yr ysgol er mwyn achosi cyn lleied o anghyfleustra â phosibl.

Mae'r strwythur yn cynnal y B4275 ger Rhes yr Afon. Yn rhan o'r gwaith bydd angen ailosod parapetau'r bont, atgyweirio difrod i'r piler canolog sydd wedi'i achosi gan erydiad ac ail-bwyntio'r ategwaith a'r piler canolog. Hefyd, bydd raid ail-bwyntio ac ailadeiladu rhannau o wal yr afon sy'n cynnal Rhes yr Afon, yn ogystal â chlirio llystyfiant ymhellach i lawr yr afon o'r bont.

Bydd llwybr amgen i draffig o Heol yr Orsaf, Stryd Margaret, Stryd Edward, Heol Ynysmeurig, Heol Abercynon, Heol Penrhiwceibr, Heol Meisgyn, Pont Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm, yr A4059, Cylchfan Abercynon, yr A472, Cylchfan Fiddler's Elbow, yr A4054 a'r B4275 i Bont Ynysmeurig.

I'r cyfeiriad arall, bydd y llwybr o'r B4275, yr A4054, yr A472, Cylchfan Abercynon, yr A4059, Pont Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm, Heol Meisgyn, Heol Penrhiwceibr, Heol Abercynon a Heol Ynysmeurig i Bont Ynysmeurig.

Mae map manwl sy'n dangos y rhan o'r ffordd fydd ar gau ar gael ar wefan y Cyngor.

Mae'r Cyngor yn gofyn i yrwyr ddefnyddio'r llwybrau yma sydd wedi’u cytuno lle bo hynny'n bosibl. Mae llwybrau lleol eraill ar gael, ond bydd defnydd helaeth o'r llwybrau yma'n cael effaith negyddol ar y strydoedd preswyl cyfagos.

Bydd mynediad i gerddwyr yn parhau. Fydd y gwaith ddim yn effeithio ar gludiant rhwng y cartref a'r ysgol oherwydd y bydd yn digwydd yn ystod gwyliau'r ysgol. Fydd dim modd caniatáu mynediad ar gyfer y gwasanaethau brys. Bydd mynediad i gerbydau i eiddo Rhes yr Afon ac i gefn Teras Gwendoline a Theras Glancynon.

Trwy gydol y cyfnod bydd y ffordd ar gau, ni fydd modd i wasanaethau Stagecoach 60 a 61 (Aberdâr i Bontypridd, dydd Llun i ddydd Sadwrn) na gwasanaeth 600 Grŵp NAT (Merthyr Tudful i Gaerdydd, dydd Sul) wasanaethu eu llwybrau arferol.

Byddan nhw'n gweithredu yn ôl yr arfer o Aberdâr i Gloc Abercynon, ac yna'n teithio o amgylch y system unffordd yn ôl i'r A4059. Yna bydd y gwasanaethau'n ymuno â'r A470 i Bontypridd. Bydd y llwybr yma hefyd yn cael ei ddilyn i'r gwrthwyneb.

Mae modd gweld amserlen ar gyfer gwasanaethau Stagecoach yma.

Oherwydd cyfyngiadau amser, ni fydd yr arosfannau bysiau yn yr Imperial Abercynon, Parc Hen Lofa'r Navigation, na safle Parcio a Theithio yng Ngorsaf Reilffordd Abercynon, yn cael eu gwasanaethu i'r naill gyfeiriad na'r llall. Dylai trigolion sydd am gael mynediad i'r gwasanaeth ddefnyddio'r arosfannau bysiau agosaf ger Cloc Abercynon ac ar Heol yr Orsaf.

Hoffai'r Cyngor ailadrodd ei ddiolch i drigolion lleol a defnyddwyr y ffyrdd am eu cydweithrediad cyn y cynllun. Bydd y gwaith cynnal a chadw yma, sydd o'r flaenoriaeth uchaf, i'r strwythur pwysig sy'n cynnal y briffordd trwy Abercynon yn sicrhau fod modd ei defnyddio am flynyddoedd i ddod.

Wedi ei bostio ar 19/07/21