Bydd rhagor o leoedd ar gael bob dydd yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty. Bydd modd cadw'r lleoedd ychwanegol yn sesiynau dydd Gwener (23 Gorffennaf) o ddydd Iau (22 Gorffennaf).
Hyd yn oed gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol, mae dros 5,000 o leoedd eisoes ar gael bob wythnos yn Lido Ponty. Serch hynny, mae galw mawr wedi bod am leoedd y tymor yma.
Mae'r newidiadau'n golygu y bydd 160 o leoedd ychwanegol ar gael bob dydd yn Lido Ponty. Bydd 10 o leoedd ychwanegol ym mhob un o'r sesiynau nofio ben bore, a 20 o leoedd ychwanegol ym mhob un o'r sesiynau eraill. *
Mae newidiadau diweddar i reoliadau'r coronafeirws wedi caniatáu i ni gynyddu nifer y bobl yn Lido Ponty, er taw'r brif flaenoriaeth o hyd yw cadw ymwelwyr yn ddiogel.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth: “Dwi'n falch iawn bod bellach modd inni gynnig rhagor o leoedd bob dydd yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty.
“Mae'r galw am leoedd yn Lido Ponty wedi bod yn eithriadol o uchel eleni, ond mae gofynion cadw pellter cymdeithasol wedi golygu bod Lido Ponty wedi gorfod lleihau nifer y bobl ym mhob sesiwn.
“Drwy gydol y cyfnod yma, mae’r Cyngor wedi gweithio’n ddiflino i gynnig y nifer uchaf posibl o leoedd. Hyd yma, mae 5,000 o leoedd ar gael bob wythnos.
“Dwi'n gwybod y bydd preswylwyr wrth eu bodd bydd Lido Ponty yn cynnig 160 o leoedd ychwanegol y dydd. Wrth i reoliadau'r coronafeirws newid, byddwn ni'n ystyried sut bydd modd inni gynnig rhagor o leoedd mewn modd diogel. Byddwn ni'n ystyried awydd pobl i gael hwyl yn Lido Ponty law yn llaw â diogelu iechyd preswylwyr ac ymwelwyr.”
Hyd yma, does dim modd i Lido Ponty gynnig tocynnau munud olaf ar gyfer sesiynau i'w casglu wrth y dderbynfa. Rhaid cadw lle ar-lein, ymlaen llaw. Os does dim modd ichi fynd i sesiwn mwyach, rhowch wybod i Lido Ponty – bydd yna fodd inni ailwerthu'ch tocyn ar ein system.
*Bydd y lleoedd ychwanegol, ar gyfer gweddill y tymor, ar gael ar ein system cadw lle o ddydd Iau, 22 Gorffennaf.
Mae hyn yn golygu, am 7.30am ddydd Iau, 22 Gorffennaf, bydd y 160 o leoedd ychwanegol ar gyfer dydd Gwener (23 Gorffennaf) ar gael i'w cadw. Mae pob lle yn y sesiynau yma wedi'i gadw erbyn hyn.
Mae hyn hefyd yn berthnasol ar gyfer y sesiynau hyd at a chan gynnwys dydd Mercher, 29 Gorffennaf. Erbyn hyn, mae pob lle yn y sesiynau yma hefyd wedi'i gadw.
Am 7.30am ddydd Iau, 22 Gorffennaf, bydd modd ichi gadw un o'r 160 o leoedd ychwanegol sydd ar gael bob dydd ar gyfer dydd Gwener, 23 Gorffennaf hyd at ddydd Mercher, 28 Gorffennaf. Mae hyn yn ogystal â'r lleoedd arferol sydd ar gael ar gyfer dydd Iau, 29 Gorffennaf.
Felly, os ydych chi am fachu lle ar gyfer yr wythnos nesaf, bydd cyfle arall i brynu rhai o'r lleoedd ychwanegol am 7.30am ddydd Iau, 22 Gorffennaf.
O hynny ymlaen, yr un drefn fydd hi o ran cadw lle. Bydd lleoedd ar gyfer pob sesiwn yn cael eu rhyddhau am 7.30am bob dydd ar gyfer y dydd cyfatebol wythnos yn ddiweddarach. Fydd dim byd yn newid o ran cadw lle, ond fe fydd 160 o leoedd ychwanegol y dydd.
Wedi ei bostio ar 21/07/21