Skip to main content

Pwll Nofio Glynrhedynog

APP strightrr

Mae Carfan Hamdden am Oes Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gael cefnogi Ysgol Gymuned Glynrhedynog wrth iddi ail-agor ei phwll nofio ar ôl gwaith gwella gwerth £1miliwn.

Mae'r pwll ar ei newydd wedd, sydd wedi cael gwelliannau helaeth o safbwynt ei fynediad, goleuadau, gwresogi a'i ystafelloedd newid, ar agor i'r gymuned i gyd ei ddefnyddio.

Mae Hamdden am Oes wedi caniatáu i'r ysgol gael mynediad i'w Ap am ddim i alluogi pobl i wirio'r amserlen a threfnu amser ar gyfer y sesiynau nofio mewn lôn, sesiynau achlysurol a sesiynau i deuluoedd.

Ac hwythau'n arbenigwyr mewn rheoli a diogelwch pyllau nofio - a gweithredu cyfleusterau yn unol â chyfyngiadau Covid-19 - mae staff hamdden hefyd yn cefnogi ac yn cynghori'r rheiny sy'n rhedeg pwll yr ysgol.

Er bod Hamdden am Oes yn cefnogi ei bartneriaid yn Ysgol Gymuned Glynrhedynog, dyw'r pwll ddim yn gyfleuster Hamdden am Oes ac, o'r herwydd, dyw preswylwyr ddim yn cael defnyddio'r pwll fel rhan o'u haelodaeth Hamdden am Oes, ond cân nhw ei ddefnyddio ar sail 'talu-wrth-ddefnyddio'.

Wedi ei bostio ar 01/07/2021