Skip to main content

Calum yn ennill Medal Aur yn y Gemau Olympaidd

Calum-Jarvisgold

Mae nofiwr o Rondda Cynon Taf, Calum Jarvis, wedi ennill Medal AUR yng Ngemau Olympaidd Tokyo yn dilyn cystadlu yn y ras nofio gyfnewid dull rhydd 4 x 200m i ddynion.

Mae Calum, sy'n 29 oed ac yn dod o Ystrad, Rhondda, yn aelod o Garfan Prydain Fawr, ynghyd â’i gyd-Gymro Matt Richards. Nhw yw'r nofwyr cyntaf o Gymru i ennill Medal Aur er 1912.

Meddai'r Cynghorydd Jill Bonetto, Maer Rhondda Cynon Taf: “Llongyfarchiadau i Calum gan bawb yma yn Rhondda Cynon Taf - rwyt ti wedi'n gwneud ni oll yn falch iawn ac rwy'n edrych ymlaen at dy longyfarch di wyneb yn wyneb unwaith y byddi di'n dychwelyd adref.

“Dyma benllanw blynyddoedd o waith caled, ymrwymiad ac ymroddiad yn y pwll ac rydyn ni'n rhannu dy falchder di, dy deulu a'th ffrindiau yn ystod y cyfnod arbennig yma."

Mae Calum, sy'n fab i'w rieni balch, Deborah a John Jarvis, yn hyfforddi yn y Ganolfan Berfformio Genedlaethol yng Nghaerfaddon, a'i hyfforddwyr yw Jol Finck.

Roedd e'n rhan o'r garfan a enillodd fedal aur ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2015 a 2017, yn ogystal â Phencampwriaethau Ewrop 2018. Fe gollodd allan ar Gemau Olympaidd Llundain 2012 a Rio 2016, ond mae wedi cystadlu dros Gymru mewn dwy o Gemau'r Gymanwlad - gan ennill medal arian yn y ras 200 metr yn Glasgow 2014.

Ond ennill y Fedal Aur yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo yw uchafbwynt ei yrfa hyd yma.

Cyn iddo fynd i'r Gemau Olympaidd, dywedodd Calum Jarvis: “Mae’n wych fy mod i'n cael gwisgo’r cit. Wnes i erioed amau'r peth a dweud y gwir - dim ond angen y cyfle oeddwn i. Doedd y pandemig ddim wedi helpu, ond rydw i bellach wedi cyflawni fy nod. "

Wedi ei bostio ar 28/07/21