Bydd y Cyngor yn gwneud gwelliannau i gilfach cwlfer ar Heol Cefnpennar yng Nghwm-bach. Bydd yn defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru i wneud gwelliannau i'r cefnfur a'r leinin i wella gallu'r system i ymdopi â glawiad trwm.
Bydd y gwaith yn cael ei gynnal ychydig i'r gogledd o Glos Maes-y-gwanwyn. Bydd yn dechrau dydd Llun, 12 Gorffennaf a bydd yn para tua phedair wythnos. Mae'r cynllun wedi'i rannu'n ddwy ran - bydd y Cyngor yn gwneud y gwelliannau i'r cefnfur yn y tair wythnos gyntaf a bydd y contractwr, Lanes for Drains Plc, yn gwneud y gwaith i'r leinin yn ystod yr wythnos olaf.
Bydd y gwelliannau i'r cefnfur yn cynyddu cyfaint storio'r gilfach - tra bydd gril newydd sy'n unol â'r safonau dylunio cyfredol yn cael ei osod. Bydd gofyn am fesurau rheoli traffig trwy ddefnyddio byrddau Stop / Go. Bydd mynediad i eiddo a thir ar gael drwy'r amser.
Bydd y gwaith i'r leinin yn dilyn hyn, er mwyn atgyweirio'r rhwydwaith presennol. Bydd angen goleuadau traffig tair ffordd ar gyfer agwedd fach o'r gwaith yma, ond unwaith eto bydd mynediad i eiddo preswyl a thir ar gael.
Mae'r cynllun yma wedi'i flaenoriaethu ar ôl i ddiffygion lluosog gael eu nodi trwy'r rhwydwaith ddraenio ar Heol Cefnpennar - gan gynnwys diffygion yn y cwlfer concrit a nifer o bibellau. Bydd y Cyngor yn defnyddio leinin strwythurol i unioni diffygion, sy'n ddull o gryfhau pibellau tanddaearol. Mae hyn yn achosi llai o anghyfleustra na datguddio'r rhwydwaith i wneud gwelliannau, gan ei fod yn osgoi'r angen i weithio yng ngerddi nifer o breswylwyr mewn nifer o leoliadau.
Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyfraniad cyllid o 85% gan Lywodraeth Cymru i gyflawni'r ddwy elfen o'r cynllun yma a fydd yn costio £50,000.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Y gwaith yma sydd ar ddod yn Heol Cefnpennar yng Nghwm-bach yw cynllun diweddaraf y Cyngor i gyflawni gwelliannau i gwlferi neu systemau draenio sydd wedi'u targedu'n lleol. Diben y cynlluniau yma yw amddiffyn eiddo, adeiladau a phriffyrdd ymhellach yn ystod tywydd gwael. Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid pwysig gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith, wrth iddo barhau i fynd ar drywydd cyllid allanol i ategu ei fuddsoddiad sylweddol ei hun yn y maes yma.
“Mae'n dilyn gwelliannau i gwlferi yn ystod y misoedd diwethaf ar Deras Bronallt yn Abercwmboi, Teras Granville, Heol y Fforest, Stryd Kingcraft a Theras Campbell yn Aberpennar, ynghyd â chynllun peilot i osod system ddraenio gynaliadwy yn Stryd y Felin, Pontypridd. Mae cynllun draenio yn Nhy'n-y-Wern yn Nhonyrefail hefyd ar y gweill, a bydd cynllun tebyg yn dechrau yn Nhrem y Faner yn Ynys-hir yn dilyn penodi contractwr yn ddiweddarach y mis yma.
“Cyhoeddodd y Cyngor yr wythnos diwethaf hefyd fod cynlluniau ychwanegol wedi cychwyn ym Mhentre - gan gynnwys gwella gorchuddion cwteri yn Heol Pentre a thwll archwilio yn Stryd y Gwirfoddolwr - gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru unwaith eto.
“Bydd y cynllun yng Nghwm-bach yn gwella cefnfuriau a leinin dros y pedair wythnos nesaf. Bydd angen rhywfaint o fesurau rheoli traffig lleol oherwydd y lle cyfyngedig ar y rhan yma o Heol Cefnpennar. Bydd y Cyngor yn sicrhau bod yr holl fynedfeydd arferol ar gael wrth iddo gyflawni ei waith. Bydd y contractwr wedyn yn parhau â'r trefniant yma wrth iddo wneud y gwaith i'r leinin i gwblhau'r cynllun."
Wedi ei bostio ar 07/07/21