Skip to main content

Perchennog Ci Anghyfrifol yn cael dirwy o fwy na £370!

Mae perchennog ci anghyfrifol wedi cael dirwy o fwy na £370 am fethu â chydymffurfio â'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO) yn Rhondda Cynon Taf.

Aeth y fenyw o Abercynon â’i chi am dro, ac fe welwyd y ci ar Faes Chwaraeon Abercynon, sy'n ardal dan gyfyngiadau.

Ym mis Hydref 2017 roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn un o'r Awdurdodau Lleol cyntaf i gyflwyno rheolau llym o ran rheoli cŵn, pan roddodd Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar waith. Gan fod y gorchymyn wedi bod mor llwyddiannus, cafodd ei ymestyn ym mis Tachwedd 2020 i barhau i fynd i’r afael â’r mater annymunol yma.

Mae'r mesurau'n cynnwys y canlynol:

  • RHAID i berchnogion cŵn godi baw eu cŵn ar unwaith a chael gwared ar y baw mewn modd addas.
  • RHAID i berchenogion cŵn gario bagiau, neu ryw ddull addas arall, er mwyn cael gwared â'r baw ar bob adeg.
  • RHAID i berchnogion cŵn ddilyn cyfarwyddyd swyddog awdurdodedig i roi ci ar dennyn.
  • Mae cŵn wedi eu GWAHARDD o bob ysgol, man chwarae i blant, a chae chwaraeon sydd wedi'i farcio sy'n cael eu cadw a'u cynnal gan y Cyngor.
  • RHAID cadw cŵn ar dennyn ar bob adeg yn yr holl fynwentydd sy'n cael eu cynnal a'u cadw gan y Cyngor.

Un o'r pryderon allweddol yr aeth y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i'r afael ag ef oedd baw cŵn ar gaeau chwaraeon. Hyd yn oed os yw'r baw yma'n cael ei godi, mae'r gweddillion yn dal i fod ar y glaswellt a'r pridd, sydd nid yn unig yn ffiaidd ac yn anghyfleus, ond hefyd yn gallu achosi problemau iechyd sy'n newid bywydau.

Cafodd y fenyw Hysbysiad Cosb Benodedig o £100, ond methodd ag ymgysylltu â Swyddogion Gorfodi’r Cyngor a chafodd y mater ei gyfeirio at Lys Ynadon Merthyr Tudful. Cafodd ei dyfarnu'n euog a rhaid iddi dalu cyfanswm o £374, sef dirwy gwerth £220, costau gwerth £120 a Gordal Dioddefwr gwerth £34.

Mae neges y Cyngor yn glir - os bydd Swyddog Gorfodi yn dal perchennog ci anghyfrifol yn torri rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, bydd y Cyngor yn gweithredu ac yn cyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig gwerth £100.

Os nad yw'r hysbysiad yn cael ei dalu, bydd modd i hyn arwain at achos llys, a dirwy llawer yn fwy - mae'r fenyw dan sylw bellach wedi sylweddoli hyn. Bydd manylion yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor ac ar sianeli'r Cyfryngau Cymdeithasol hefyd.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth:

“Mae’r euogfarn ddiweddaraf yn dangos ymrwymiad y Cyngor i fynd i’r afael â materion baeddu cŵn - os ydy perchennog ci anghyfrifol yn torri rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus byddwn ni'n gweithredu ac yn rhoi dirwy o £100. Os byddwch chi'n methu â thalu'r ddirwy yma, mae'n bosibl y byddwch chi'n wynebu achos llys ac yn derbyn dirwy mwy yn ogystal â chofnod troseddol, fel y mae'r perchnogion cŵn anghyfrifol yma newydd ddysgu.

“Cafodd rheolau'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus eu cyflwyno ar ôl i drigolion ddweud wrth y Cyngor eu bod am weld camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â pherchnogion cŵn anghyfrifol. Roedd hyn yn cynnwys meysydd fel ardaloedd chwarae sy'n cael eu defnyddio gan blant a lleiniau wedi’u marcio lle mae trigolion yn mwynhau chwarae chwaraeon.

“Byddai’n well gan y Cyngor weld Bwrdeistref Sirol lân a cherddwyr cŵn yn ymddwyn yn gyfrifol yn hytrach na rhoi dirwyon - byddai wedi bod modd osgoi dirwyon pe bai'r unigolyn yma wedi ymddwyn yn gyfrifol ac wedi dilyn y rheolau.”

Yn ystod y tair wythnos ddiwethaf mae'r Cyngor wedi rhoi bron i 30 o Hysbysiadau Cosb Benodedig i'r rhai sydd wedi'u dal yn torri'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus, neu'n ymgymryd â thipio anghyfreithlon yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r holl arian sy'n cael ei dderbyn yn sgil yr hysbysiadau cosb benodedig yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen er mwyn gwella ein Bwrdeistref Sirol ac ymateb i'r materion sy'n flaenoriaeth i'n trigolion.

I gael rhagor o wybodaeth am y rheolau baeddu cŵn yn Rhondda Cynon Taf ymwelwch www.rctcbc.gov.uk/bawcwn

Hefyd, mae gyda ni restr o lefydd y mae modd i chi fynd â'ch chi am dro yn Rhondda Cynon Taf - yn ogystal â lle mae wedi'i wahardd. Ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/EnvironmentalHealthandPollution/Dogs/WherecanIwalkmydog.aspx am ragor o fanylion.

Wedi ei bostio ar 29/07/21