Mae cofeb ingol i ddioddefwyr trychineb mwyngloddio Aberfan gan yr arlunydd Nathan Wyburn wedi'i gosod yn Nhaith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda.
Rydyn ni'n annog ymwelwyr i'r atyniad arobryn i fynd i weld y gofeb drawiadol, 21.10.1966 144 9.13AM, 2021, a myfyrio a gwerthfawrogi ei harwyddocâd.
Mae'r gwaith celf wedi'i wneud o goncrit a dur ac yn cynnwys 144 o glociau, un am bob un oedolyn a phlentyn a fu farw pan gwympodd gwastraff pwll glo ar gartrefi ac Ysgol Iau Pantglas. Mae pob un o'r clociau wedi'u gosod ar 9.13am, yr union amser y digwyddodd y trychineb ar 21 Hydref 1966.
Fydd neb yn anghofio colledion ofnadwy'r trychineb, gyda'r effaith ar y goroeswyr a chymuned Aberfan yn un hirhoedlog. Mae miloedd ledled Cymru yn tawelu ar 21 Hydref bob blwyddyn er mwyn cofio am Aberfan.
55 mlynedd wedi'r trychineb, mae'n teimlo'n arwyddocaol bod cofeb i'r rhai a fu farw yn cael ei dadorchuddio yn atyniad Taith Pyllau Glo Cymru, sydd wedi'i adeiladu ar hen bwll glo.
Yno, mae modd i ymwelwyr gael eu tywys yn ôl i'r gorffennol a dan y ddaear gan ddynion a fu'n gweithio yn y pwll glo, gan ddysgu am hanes y diwydiant glo drwy atgofion trawiadol a straeon y glowyr yma.
Mae Taith Pyllau Glo Cymru hefyd yn cynnwys arddangosfeydd a gweithgareddau rhyngweithiol sy'n archwilio ymhellach sut beth oedd bywyd yn yr ardal yn ystod cyfnod "aur du" Cwm Rhondda, wrth i'r glo gael ei fewnforio i bedwar ban byd.
Dysgwch am ein cysylltiadau â'r chwyldro diwydiannol a'r Titanic, dysgwch am sut y gwnaeth y diwydiant yng Nghwm Rhondda ysbrydoli enwogion megis George Stephenson ac Isambard Kingdom Brunel a dysgwch sut beth oedd bywyd i'r glowyr, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth: "Fydd neb yn anghofio'r rhai a fu farw yn ystod trychineb Aberfan, a fydd neb yn anghofio effaith y dinistr ar y gymuned hyd heddiw.
“Rydyn ni'n hynod falch fod atyniad Taith Pyllau Glo Cymru wedi'i ddewis yn gartref ar gyfer y gwaith celf arbennig yma am y 12 mis nesaf.
“Mae'r atyniad yn adrodd hanes dylanwad y diwydiant glo. Cafodd ein tirwedd, treftadaeth, diwylliant a chymunedau eu siapio gan ganrifoedd o gloddio am lo, fel y mae tywyswyr ac arddangosfa'r atyniad yn eu dangos i ni.
“Mae gennym hefyd lamp glöwr hardd 6 troedfedd wrth fynedfa’r amgueddfa, sef ein teyrnged i’r glowyr a fu farw yn sgil trychinebau mwyngloddio dros y blynyddoedd.”
Mae atyniad Taith Pyllau Glo Cymru wedi'i leoli yn hen Lofa Lewis Merthyr yn Nhrehafod. Mae modd cyrraedd yr atyniad ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mae modd parcio am ddim ar y safle. Mae Taith yr Aur Du yn cael ei harwain gan ddynion a oedd yn gweithio yn y pyllau glo yn rhannu eu straeon personol.
Mae modd i chi hefyd roi cynnig ar DRAM!, profiad sinematig sy'n cynnwys teithio ar y dram olaf o lo drwy'r pwll glo, ac mae arddangosfeydd rhyngweithiol yn newid yn rheolaidd.
Mae'r Caffe Bracchi ar y safle yn deyrnged i'r ymfudwyr o'r Eidal a heidiodd i'r ardal i fanteisio ar y diwydiant glo, gan agor siopau coffi a pharlyrau hufen iâ o'r enw “bracchis”. Mae nifer ohonyn nhw'n dal i fod ar agor heddiw.
Mae Taith Pyllau Glo Cymru hefyd yn gartref i'r Craft of Hearts arobryn, siop grefftau sy'n gwerthu pob math o bethau.
Mae rhagor o wybodaeth neu dilynwch ni ar Twitter a Facebook.
Wedi ei bostio ar 28/07/2021