Skip to main content

Sialens Ddarllen yr Haf 2021

Wild Hero

Mae'r Cyngor yn cefnogi'r Sialens Ddarllen yr Haf flynyddol i'n darllenwyr iau, ac yn gwneud hynny gan gadw at ganllawiau a rheoliadau COVID-19 cyfredol Llywodraeth Cymru.

Eleni, mae'r Asiantaeth Ddarllen, sy'n trefnu Sialens Ddarllen yr Haf, yn cyd-weithio â WWF ar gyfer Sialens Haf arbennig iawn ar thema natur - Arwyr y Byd Gwyllt.

Mae modd i ddarllenwyr iau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf AM DDIM eleni ymuno ar-lein neu ofyn am fanylion pellach yn eu llyfrgell leol. Bydd y rhai sy'n cwblhau'r Sialens yn llwyddiannus yn derbyn medal a thystysgrif.

Cwrdd ag Arwyr y Byd Gwyllt

Mae holl lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf bellach wedi ailagor i'r cyhoedd, gyda chyfyngiadau ar waith i sicrhau diogelwch staff ac ymwelwyr. Rhaid gwisgo gorchuddion wyneb y tu mewn ac mae pawb yn cael eu hannog i ddefnyddio hylif diheintio dwylo. 

Mae gwasanaeth ar-lein ‘Archebu a Chasglu’ y Cyngor, sydd wedi profi’n hynod boblogaidd ers ei lansio yn 2020, hefyd ar gael i ddarllenwyr brwd ledled y Fwrdeistref Sirol.

Rydyn ni'n annog darllenwyr ifainc i gasglu llyfrau yn ystod y gwyliau ysgol er mwyn cynnal neu wella eu sgiliau llythrennedd.

Y bwriad yw cael plant rhwng 4 ac 11 oed i ddarllen hyd at chwe llyfr yn rhan o Sialens Ddarllen yr Haf ar-lein yn ystod gwyliau'r haf. Mae sgiliau llythrennedd plant yn tueddu i waethygu yn ystod y cyfnod yma.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf 2021 ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol, sydd â chyfrifoldeb dros lyfrgelloedd:

“Rydw i’n falch iawn bod ein llyfrgelloedd ledled y Fwrdeistref Sirol bellach wedi ailagor i’r cyhoedd, gan gynnwys y cyfleuster newydd sbon yn Llys Cadwyn ym Mhontypridd.

“Rydw i hefyd yn falch bod y cyhoedd wedi rhoi croeso mawr i'n gwasanaeth Archebu a Chasglu ar-lein ac felly bydd yn parhau ar hyn o bryd.

“Mae gwyliau ysgol yr haf yn gyfle pwysig i'n dysgwyr ifainc i ymlacio ar ôl cyfnod anodd iawn. Er hyn, mae hi'r un mor bwysig eu bod nhw'n cynnal eu sgiliau llythrennedd ac yn parhau i'w gwella.

“O'r herwydd, mae'r Sialens Ddarllen yr Haf flynyddol yn parhau i fod yn fenter bwysig a difyr sy'n rhedeg trwy gydol gwyliau'r ysgol, gyda chymorth staff ein llyfrgelloedd a'r Asiantaeth Ddarllen.

"Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn annog ein pobl ifainc i godi llyfr mewn cyfnod pan fyddan nhw ddim o reidrwydd yn ei wneud, yn enwedig pan fo'r tywydd yn braf a byddai'n well gyda nhw wneud rhywbeth arall. Mae hefyd yn ffordd wych o gyflwyno pobl ifainc i lenyddiaeth ac i ehangu eu dychymyg."

Bydd darllenwyr ifainc yn cael eu cludo i dref ffuglennol Wilderville, lle cŵl lle mae modd i Arwyr y Byd Gwyllt wneud eu tref hyd yn oed yn well i'r bobl a'r anifeiliaid sy'n byw yno.

Ymunwch ag Arwyr y Byd Gwyllt ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf 2021 a darganfyddwch sut mae modd i chi hefyd wneud gwahaniaeth i'r amgylchedd a'r lle rydych chi'n byw.

Mae Arwyr y Byd Gwyllt yn cynnwys llyfrau anhygoel, gwobrau gwych, a digon o syniadau ar gyfer gofalu am ein hamgylchedd.

Sialens Ddarllen yr Haf yw'r rhaglen 'darllen er pleser' mwyaf i blant yn y DU. Cafodd y Sialens Ddarllen yr Haf gyntaf ei chynnal yn 1999 ac mae'n fenter flynyddol â thema wahanol bob blwyddyn.

Mae'r rhaglen yn cael ei chynnal gan yr Asiantaeth Ddarllen, ar y cyd â llyfrgelloedd cyhoeddus, cyhoeddwyr ac ysgolion ledled y DU ac mae'n cael ei chefnogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf.

Cofrestrwch AM DDIM er mwyn ymuno â Sialens Ddarllen yr Haf

#ArwyrYBydGwyllt #WildWorldHeroes

 

Wedi ei bostio ar 13/07/21