Mae Hamdden am Oes wedi lansio cynnig crasboeth dros yr haf i fyfyrwyr dan 18 a'r rheini mewn addysg uwch llawn amser.
Bydd modd i chi brynu mynediad diderfyn i'r gampfa, i'r pwll nofio ac i ddosbarthiadau cadw'n heini ar hyd 10 Canolfan Hamdden am Oes am £8.
Neu, brynwch docyn chwe wythnos am £32 i'ch cadw i fynd dros yr haf - am £32, byddwch chi'n derbyn pythefnos am ddim!*
Mae'n gynnig delfrydol i'r rheini sydd adref o'r brifysgol neu'r coleg am yr haf neu i rai dan 18 oed sy'n chwilio am ffordd i gadw'n heini a chael eich difyrru trwy gydol y gwyliau ysgol.
Mae modd i chi brynu cymaint o docynnau £8 ag y dymunwch trwy gydol yr egwyl chwe wythnos a'u defnyddio yn unrhyw un o'n 10 canolfan hamdden:
- Pwll Nofio a Champfa Bronwydd, Porth
- Canolfan Chwaraeon Abercynon
- Canolfan Chwaraeon Sobell, Aberdâr
- Canolfan Hamdden Llantrisant **
- Canolfan Hamdden Tonyrefail
- Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, Ystrad ***
- Canolfan Hamdden Rhondda Fach, Tylorstown
- Canolfan Hamdden Llanilltud Faerdref
- Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen, Rhydfelen
- Hamdden am Oes yn Llys Cadwyn
Does dim angen i chi ddefnyddio eich tocyn bob dydd. Pan fyddwch chi’n prynu tocyn saith diwrnod, mae modd i chi ddewis pa ddiwrnodau a pha ganolfan i'w defnyddio. Ar ôl i chi ddefnyddio'ch tocyn saith diwrnod, mae modd i chi brynu tocyn arall.
Mae modd prynu'r tocyn chwe wythnos ymlaen llaw a'i ddefnyddio fel aelodaeth ddiderfyn yn ystod y gwyliau - mae'n gynnig gwych i'r rhai sydd fel arfer yn astudio oddi cartref.
Dylai'r rhai sy'n mwynhau eu profiad Hamdden am Oes dros yr haf fwrw golwg ar yr opsiynau ar gyfer ymaelodi.
Mae aelodaeth Hamdden am Oes Iau ac aelodaeth ratach (i fyfyriwr) tua £5 yr wythnos ac, unwaith eto, mae'n cynnwys mynediad diderfyn i gampfa, pwll nofio a dosbarthiadau cadw'n heini unrhyw un - neu bob un! - o'r canolfannau hamdden uchod.
Ar gyfer y rhieni sydd wedi bod yn ystyried ymuno â Hamdden am Oes, mae modd i chi edrych ar yr opsiynau aelodaeth yma: www.rctcbc.gov.uk/aelodaethhamdden
Cofiwch edrych ar yr opsiynau aelodaeth rhatach i weld a ydych chi'n gymwys i elwa o gost aelodaeth ratach ac, wrth gwrs, edrychwch ar y busnesau, y sefydliadau a'r carfanau sy'n rhan o'n haelodaeth Hamdden am Oes Gorfforaethol.
Os ydych chi'n gweithio i unrhyw un ohonyn nhw, neu'n aelod o un, mae modd i chi elwa o aelodaeth gorfforaethol am £28.50 y mis (ac mae modd i ni ychwanegu aelod arall am yr un pris hefyd!)
* O gymharu tocyn chwe wythnos am £32 â phrynu chwe thocyn saith diwrnod am gyfanswm o £48 (£8 yr un)
** Mae Canolfan Hamdden Llantrisant yn ganolfan brechu torfol felly mae nifer y sesiynau yn y gampfa, yn y pwll nofio a'r dosbarthiadau cadw'n heini yn gyfyngedig.
*** Mae Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda yn ganolfan brechu torfol felly mae nifer y sesiynau yn y gampfa a'r dosbarthiadau cadw'n heini yn gyfyngedig.
Wedi ei bostio ar 21/07/2021