Bydd y Cyngor yn dechrau ar waith pellach i wella draenio mewn dau leoliad ym Mhentre o ddydd Mercher, gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru a sicrhawyd yn gynharach eleni i gwblhau cyfres o gynlluniau yn dilyn Storm Dennis.
Bydd trigolion yn siŵr o sylwi ar waith ychwanegol ar Heol Pentre a Stryd y Gwirfoddolwr o Ddydd Mercher, 30 Mehefin ymlaen. Mae'r cynlluniau yma'n rhan o welliannau cyffredinol y Cyngor a gwaith cynnal a chadw ar raddfa fach sy'n cael ei wneud ledled y pentref er mwyn gwella'r rhwydwaith yn ystod glaw trwm.
Bydd y cynllun ychwanegol yn Heol Pentre yn cynnwys gosod gorchuddion cwteri newydd, gosod draeniau syth ym mhen uchaf y ffordd a gosod dwy siambr cwteri mawr. Ar Stryd y Gwirfoddolwr, bydd y twll archwilio presennol ym mhen gogleddol y stryd yn cael ei ailgyflunio a'i uwchraddio i leihau llwytho'r orsaf bwmpio.
Bydd y gwaith ym mhob lleoliad yn cael ei wneud gan gontractwr y Cyngor, sef Peter Simmons Construction. Does dim angen i'r contractwr gau'r ffordd, ond efallai y bydd angen rhywfaint o fesurau rheoli traffig ac mae'n bosib y bydd y gwaith yn tarfu ar fannau parcio arferol y trigolion lleol. Mae disgwyl i'r gwaith bara tua thair wythnos.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Rwy’n falch y bydd y cynlluniau draenio ychwanegol yma ar Heol Pentre a Stryd y Gwirfoddolwr ym Mhentre yn cychwyn ddydd Mercher, gan ddefnyddio cyllid pwysig a sicrhawyd gan y Cyngor wrth Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2021.
“Mae'n bwysig nodi bod y gwaith yma'n ychwanegol at y prif waith parhaus i wella cwlfer Heol Pentre yn dilyn Storm Dennis. Mae'r gwaith parhaus hwnnw'n datblygu'n dda ar y safle. Dros y tair wythnos nesaf, bydd y Cyngor yn dechrau cyflawni gwelliannau pellach i'r cwteri ar Heol Pentre ac yn gwella tyllau archwilio Stryd y Gwirfoddolwr. Yn y cyfamser, mae gwaith i drydydd lleoliad, Stryd Hyfryd, yn sgil y cyllid ychwanegol yma'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
“Hoffwn ddiolch i drigolion Pentre am eu cydweithrediad parhaus yn ystod y gwaith ychwanegol yma. Mae'r cynlluniau wedi'u rhoi ar waith ar fyr rybudd oherwydd argaeledd y contractwr, a byddan nhw'n gwneud y gwelliannau sylweddol yma cyn gynted â phosibl er budd y gymuned."
Wedi ei bostio ar 29/06/21