Skip to main content

Y cam cyntaf o waith atgyweirio'r Bont Wen, Pontypridd, ar gychwyn

Berw Road White Bridge 3

Bydd gwaith cychwynnol i atgyweirio Pont Heol Berw, Pontypridd, yn dechrau ddydd Llun, a hynny yn dilyn penodi contractwr. Mae'n bosibl y bydd modd ailagor y bont dros dro yn ystod yr haf, cyn i'r Cyngor fwrw ymlaen â'r rhaglen atgyweirio lawn y flwyddyn nesaf.

Mae cwmni Kaymac Marine and Civil Engineering Cyf wedi'i benodi i atgyweirio'r argloddiau, yn ogystal â chynnal gwaith ar y pier ac ymyl yr afon. Bydd y gwaith yma'n cael ei gynnal o fewn yr afon.  Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun, 7 Mehefin ac mae disgwyl iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Gorffennaf. Yn ystod yr wythnos gyntaf, bydd y contractwr yn cludo peiriannau a deunyddiau i'r safle gan ddefnyddio trac mynediad oddi ar Heol Berw.

Efallai y bydd hyn yn aflonyddu rhywfaint ar ddefnyddwyr y briffordd, ond y bwriad yw cludo nwyddau i'r safle ar adegau llai prysur, er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl arnoch chi. Cyn bo hir, bydd y contractwr yn anfon llythyr at breswylwyr lleol er mwyn amlinellu natur ac amserlen y gwaith. Bydd y contractwr yn defnyddio ymyl y ffordd sydd gyferbyn â'r bont, ble mae preswylwyr fel arfer yn parcio'u ceir, i gael mynediad i'r safle.

Unwaith fydd y gwaith wedi'i gwblhau, caiff archwiliad manwl o'r bont ei gynnal er mwyn gweld p'un a oes modd ei hailagor i draffig dros dro. Byddai angen rhoi cyfyngiad pwysau ar waith nes bod modd cynnal atgyweiriadau pellach y flwyddyn nesaf.

Cafodd y Bont Wen ei difrodi'n ddifrifol yn ystod Storm Dennis ym mis Chwefror 2020, ac mae wedi bod ar gau er hynny er diogelwch y cyhoedd. Mae'r bont restredig wedi bod dan ofal cwmni ymgynghori Redstart, ac mae'r Cyngor wedi gweithio gyda Cadw er mwyn trefnu'r caniatâd priodol ar gyfer cyflawni'r gwaith atgyweirio. Ystyriaeth bwysig arall sy'n cymhlethu'r cynllun ymhellach yw'r brif bibell nwy sy'n rhan o'r bont.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: "Hoffwn ddiolch i'r trigolion am eu cydweithrediad parhaus tra bo'r bont wedi bod ar gau ac wrth i ni weithio'n galed i lunio rhaglen adfer gymhleth. Rydyn ni wedi ymgynghori â nifer o randdeiliaid pwysig, ac mae'r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo yn yr afon a'r bibell nwy sydd ynghlwm â'r bont wedi cymhlethu pethau ymhellach.

"Mae'r Cyngor yn deall arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol y bont restredig yma, yn ogystal â'i phwysigrwydd i deithwyr - yn enwedig ar adegau prysur yn ystod y bore a chyda'r nos. Rydw i'n siŵr y bydd preswylwyr lleol yn falch iawn o glywed y bydd y gwaith yma'n dechrau ddydd Llun - ac mae hyn yn dystiolaeth o ymrwymiad y Cyngor i atgyweirio'r bont.

"Mae hefyd yn amlygu ymdrechion parhaus y Cyngor i gynllunio gwaith atgyweirio yn dilyn Storm Dennis ym mis Chwefror 2020, yn ogystal â sicrhau cyllid ar gyfer y gwaith yma a'i gyflawni. Egluron ni fod y difrod yn sylweddol, ac felly, y byddai angen cynnal y gwaith atgyweirio dros nifer o flynyddoedd. Mae'r gwaith ar y Bont Wen yn nodi cam pwysig yn ein rhaglen atgyweirio, ac yn ogystal â hynny, mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar wal yr afon yn Heol Blaen-y-Cwm.

"Yn dilyn y gwaith cychwynnol, bydd y bont yn cael ei harchwilio'n fanwl er mwyn gweld a oes modd ailagor y ffordd dros dro yn ystod yr haf. Mae'r Cyngor eisoes wedi nodi y bydd cynllun atgyweirio llawn yn dilyn yn 2022, a bydd angen cau'r bont eto am gyfnod unwaith i ni gael caniatâd i wneud hynny. Rydyn ni'n dal ati i weithio tuag at hyn."
Wedi ei bostio ar 04/06/21