Mae’r Cyngor wedi lansio ei drafodaeth ddiweddaraf am yr hinsawdd - Dewch i Ni Siarad am Flodau Gwyllt, ac mae angen i CHI’r cyhoedd gymryd rhan a dweud eich dweud yr haf yma.
Mae cannoedd o drigolion a busnesau lleol eisoes wedi ymuno yn ein sgwrs ar-lein 'Dewch i Siarad - Newid yn yr Hinsawdd RhCT' ers iddi gael ei lansio, gan roi eu barn ar bethau fel sut y mae modd i'r Cyngor lunio ei gynlluniau 'Gwyrdd' ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys datblygu isadeiledd Gwefru Cerbydau Trydan ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol.
Yn rhan o'r sgwrs barhaus yma am Newid yn yr Hinsawdd, rydyn ni nawr yn gofyn i drigolion a busnesau lleol awgrymu lleoliadau y dylen ni eu hystyried i fod yn rhan o'n rhaglen rheoli blodau gwyllt. Rydyn ni angen eich syniadau a'ch ffotograffau er mwyn helpu'r Cyngor i gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf a thu hwnt.
Dewch i Ni Siarad am Flodau Gwyllt
Meddai'rCynghorydd Rhys Lewis, Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol a Chadeirydd Grŵp Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd: "Rydyn ni yma'n Rhondda Cynon Taf yn falch iawn o'n tirwedd gyfoethog ac amrywiol yn ogystal â'n hanes a'n treftadaeth gref.
“Mae'n denu twristiaid o bob cwr o'r byd, yn ogystal â llawer o gwmnïau teledu sy'n cael eu syfrdanu gan ein hamgylchedd trawiadol ac sy'n awyddus i'w ddefnyddio yn eu cynyrchiadau teledu a sinema amrywiol.
"Mae'n hamgylchoedd syfrdanol hefyd yn gartref i amrywiaeth cyfoethog o blanhigion, ffyngau, pryfed ac anifeiliaid. Mae ein glaswelltiroedd yn gallu chwarae rhan fawr wrth ddal a storio carbon, a dyna pam mae eu rheoli a'u cadw yn fater mor bwysig i bob un ohonon ni.
"Mae nifer o bobl eisoes yn trafod Newid yn yr Hinsawdd yn rhan o ymgyrch Dewch i Siarad RhCT. Serch hynny, bydd clywed eich barn chi am flodau gwyllt yn help mawr i ni o ran diogelu'r blaned.
"Yn ogystal â dal ati i drafod Newid yn yr Hinsawdd, mae hi bellach hefyd yn bryd i ni weithredu yn y maes yma. Os ydych chi wir yn poeni am ardal brydferth Rhondda Cynon Taf, rydyn ni’n eich annog chi i ymuno â ni wrth i ni 'Siarad am Newid yn yr Hinsawdd RhCT'.
“Mae mwy na 240,000 o bobl yn byw yn Rhondda Cynon Taf a gyda'n gilydd gallwn ni chwarae ein rhan wrth wneud gwahaniaeth i'r byd rydyn ni'n byw ynddo. Ymunwch â ni yr haf yma a Dewch i Ni Siarad am Flodau Gwyllt."
Mae llawer o ffyrdd y mae modd i chi gymryd rhan, gan gynnwys llenwi ein harolygon, rhannu ffotograffau o flodau gwyllt rydych chi wedi'u gweld yn ddiweddar, a hefyd trwy awgrymu lleoliadau i'w hystyried yn rhan o Raglen Rheoli Blodau Gwyllt y flwyddyn nesaf.
Mae amrywiaeth helaeth o flodau gwyllt brodorol ledled Rhondda Cynon Taf yn aros i gael eu darganfod. Edrychwch amdanyn nhw yng nglaswellt ein parciau, cefn gwlad, mynwentydd, tiroedd ysgolion ac ymylon ffyrdd.
Yn RhCT, rheolir tua 130 hectar o dir ar gyfer blodau gwyllt (10ha yn fwy na'r llynedd). Mae hynny tua'r un maint â 136 o gaeau pêl-droed neu rygbi. Y gobaith yw y bydd rhagor yn cael eu hychwanegu yn y flwyddyn nesaf.
Mae’r Cyngor yn defnyddio dau fath o reolaeth - pori cadwraethol a dull ‘torri gwair’. Mewn ardaloedd addas, mae nifer fach o dda byw, gwartheg fel arfer, yn pori'r caeau am ran o'r flwyddyn. Ar ymylon ffyrdd a pharciau, mae'r glaswellt yn cael ei dorri yn yr hydref a chaiff y toriadau eu casglu.
Wedyn, caiff y toriadau yma eu defnyddio i greu pentyrrau cynefin (‘eco piles’), sy'n cael eu defnyddio yn ddiweddarach gan ymlusgiaid a mamaliaid bach. Lle dydy hyn ddim yn bosibl, mae'r glaswellt sydd wedi'i dorri yn cael ei gludo i'r ganolfan ailgylchu werdd agosaf. Mae'r ddau fath o reolaeth yn gweddu i'n blodau gwyllt, gan ganiatáu iddyn nhw flodeuo a gosod hadau, a chael gwared ar rywfaint o'r glaswellt sy'n cystadlu gyda nhw ac yn eu mygu.
Ein nod yw sicrhau bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn Garbon Niwtral erbyn 2030 a bod y Fwrdeistref Sirol mor agos â phosibl at fod yn Garbon Niwtral erbyn hynny hefyd.
Pan fydd yn ddiogel inni wneud hynny, byddwn ni'n mynd o gwmpas yn ein cymunedau ac yn siarad â chi am sut y mae modd i bob un ohonon ni wneud gwahaniaeth a chyflawni ein nodau ar gyfer 2030.
Tan hynny, byddwn ni’n falch iawn o’ch cymorth i ddod o hyd i ffyrdd gwell o chwarae ein rhan yn ogystal â dweud wrth bawb am y pethau gwych mae ein pobl a'n cymunedau eisoes yn eu gwneud yn y Fwrdeistref Sirol.
Cymerwch ran ac ymunwch â'n trafodaeth am yr hinsawdd -
Dewch i Siarad am Flodau Gwyllt
Wedi ei bostio ar 04/06/21