Rhaid cau ffyrdd am dri dydd Sul yn olynol yng nghanol tref Pontypridd er mwyn bod modd parhau â gwaith dymchwel yr hen neuadd Bingo yn ddiogel. Bydd yn rhaid cau'r ffyrdd am y tro cyntaf y penwythnos yma (13 Mehefin).
Dechreuodd y contractwr, Walters, y broses dymchwel yr hen neuadd Bingo a chlwb nos Angharad ym mis Mawrth er mwyn i'r Cyngor ailddatblygu canol y dref ar ôl sawl blwyddyn o fod yn adfail. Ein gobaith yw y bydd y gwaith yma'n trawsnewid canol y dref yn yr un modd y mae Llys Cadwyn wedi trawsnewid hen safle Dyffryn Taf.
Bydd preswylwyr ac ymwelwyr i ganol y dref wedi sylwi ar y cynnydd da a wnaed, yn enwedig yn yr wythnosau diwethaf, wrth i rannau o'r hen adeiladau gael eu dymchwel. Yn ddiweddar, mae Walters wedi cludo peiriant dymchwel sy'n cyrraedd mannau uchel i'r safle, ac er mwyn cyrraedd canol y dref yn ddiogel, bydd yn rhaid cau ffyrdd ar ddyddiau Sul o 7.30am ar 13, 20 a 27 Mehefin.
Bydd busnesau Canol Tref Pontypridd yn aros AR AGOR yn ôl yr arfer a bydd mynediad i gerddwyr yn parhau.
Dyma'r ffyrdd bydd rhaid eu cau ar y tri dydd Sul: Stryd y Taf (o'i chyffordd ogleddol â Stryd y Farchnad hyd at y Stryd Fawr), Stryd y Felin (rhwng rhif 1 ac 11a), y Stryd Fawr (yn gyfan gwbl) a Stryd y Farchnad (rhwng Stryd yr Eglwys a'i chyffordd deheuol â Stryd y Taf). Bydd arwyddion yn dargyfeirio gyrwyr drwy Stryd Traws y Nant, Heol Gelliwastad, Stryd Catrin a Heol Sardis.
Bydd mynediad i gerbydau i ganol y dref ond cyn belled â chyffordd ogleddol Stryd y Taf a Stryd y Farchnad. Yna bydd modd i yrwyr fynd trwy Stryd y Farchnad a Stryd yr Eglwys, ond fydd ddim modd iddyn nhw barhau ar Stryd y Taf. Noder - bydd mynediad ar gyfer y gwasanaethau brys yn parhau. Fydd bysiau ddim yn cael eu heffeithio gan nad oes yna unrhyw wasanaethau'n rhedeg trwy ganol y dref ar ddydd Sul beth bynnag.
Bydd y gwaith o ddymchwel yr adeiladau i lefel y stryd wedi'i gwblhau erbyn diwedd haf 2021. I ddechrau, derbyniodd y Cyngor arian Llywodraeth Cymru i brynu'r safle, ac mae bellach wedi derbyn cymorth ychwanegol gan fenter Trawsnewid Trefi i gwblhau'r broses ddymchwel.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i drigolion, busnesau lleol ac ymwelwyr i ganol tref Pontypridd am eu hamynedd a'u cydweithrediad yn ystod y cyfnod yma o gau ffyrdd ar ddydd Sul tra bod y gwaith yma'n parhau i fynd yn ei flaen.
Wedi ei bostio ar 10/06/2021