Mae'r Cyngor yn rhoi rhybudd ymlaen llaw bod angen cau rhan o Ffordd Osgoi Aberdâr (yr A4059) er mwyn cynnal gwaith draenio parhaus. Mae hyn yn cynnwys cau'r rhan drwy'r dydd ar ddydd Sul ac yna'i chau drwy'r nos am bedair noson yn olynol.
Ym mis Mawrth, cychwynnodd y gwaith ar gynllun sylweddol gwerth £500,000, wedi'i ariannu gan Grant Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru. Mae'n targedu rhan 400 metr o'r A4059 rhwng Cylchfannau Asda a Tinney. Mae'r rhan yma o'r ffordd wrth ymyl Afon Cynon ac, yn y gorffennol, mae wedi bod yn agored i lifogydd.
Mae'r cynllun yn cynnwys codi lefel a phroffil y ffordd gerbydau, tynnu cyrbau a chyflwyno claddfeydd bas wrth ochr y ffordd. Nod y gwaith yw gwneud y ffordd gerbydau yn llai agored i lifogydd ac, os bydd yna lifogydd, sicrhau bod dŵr yn gwasgaru o'r briffordd yn gyflymach.
Bydd y gwaith sydd ar y gweill dros y penwythnos (12-14 Mehefin), ynghyd â gwaith dros 4 noson (14-18 Mehefin) yn canolbwyntio ar godi lefel y ffordd gerbydau. Oherwydd natur y gwaith, bydd angen i'r contractwr Centregreat UK gau'r ffordd o:
- Dydd Sadwrn, 12 Mehefin (9pm), tan ddydd Llun, 14 Mehefin (6am) – gan gynnwys drwy'r dydd ddydd Sul (13 Mehefin)
- Dydd Llun, 14 Mehefin (8pm), tan ddydd Mawrth, 15 Mehefin (6am)
- Dydd Mawrth, 15 Mehefin (8pm), tan ddydd Mercher, 16 Mehefin (6am)
- Dydd Mercher, 16 Mehefin (8pm), tan ddydd Iau, 17 Mehefin (6am)
- Dydd Iau, 17 Mehefin (8pm), tan ddydd Gwener, 18 Mehefin (6am)
Yn ystod yr amseroedd yma, bydd yr A4059 yn cau rhwng Cylchfannau Asda a Tinney, gyda llwybr arall wedi'i arwyddo'n glir. Bydd llwybr arall i fodurwyr trwy Gylchfan Cwmbach, Heol y Gamlas, Heol Cwmbach, Cylchfan Abernant, Cylchfan yr Ynys a'r A4059 (neu'r llwybr yma am yn ôl).
Dylai gyrwyr cerbydau uchel (sy'n fwy na 12 troedfedd) fod yn effro i'r bont isel wrth ymyl Gorsaf Reilffordd Aberdâr. Dylen nhw, felly, fynd o Gylchfan Abernant i Gylchfan Stryd Wellington a Chylchfan Stryd Meirion, cyn parhau ar hyd y llwybr amgen ar hyd yr A4059 – neu'r llwybr yma am yn ôl.
Fydd mynediad ddim yn cael ei gynnal ar gyfer cerddwyr na cherbydau'r gwasanaethau brys trwy gydol cyfnod cau'r ffordd, ond fydd gwasanaethau bysiau ddim yn cael eu heffeithio.
Bydd y llwybr troed o Stryd yr Orsaf Is, sy'n croesi'r A4059, ar gau yn ystod cyfnod cau'r ffordd. Mae llwybr amgen i gerddwyr ar gael ar hyd Heol Caerdydd, Heol y Parc, Stryd Davis a'r bont droed sy'n arwain at Lan yr Afon.
Rydyn ni'n atgoffa gyrwyr bydd y terfyn cyflymder dros dro o 30mya rhwng cylchfannau Asda a Tinney yn parhau er diogelwch y cyhoedd a'r gweithlu.
Mae'r cynllun yma'n cael ei gyflawni trwy grant Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru. Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid sylweddol o'r cynllun yma yn ddiweddar. Yn 2020/21, derbyniodd £4.9miliwn ar gyfer cynlluniau draenio priffyrdd mewn 16 lleoliad yng Nghwm Rhondda a Chwm Cynon – gan gynnwys gwaith arwyddocaol ar Ffordd Liniaru'r Porth (yn Ynys-hir) a'r A4059 (o Ben-y-waun i Drecynon).
Yn dilyn hyn, cafodd y Cyngor £2.75miliwn ychwanegol o'r grant yn ystod mis Mawrth 2021, er mwyn bwrw ymlaen â gwaith draenio wedi'i dargedu mewn 19 o leoliadau yn ardaloedd Cwm Rhondda a Chwm Cynon.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i breswylwyr a defnyddwyr ffyrdd am eu cydweithrediad yn ystod y gwaith yma. Bydd y gwaith yma'n helpu i sicrhau gwelliannau draenio sylweddol mewn lleoliad prysur sydd, yn y gorffennol, wedi bod yn agored i lifogydd yn sgil glaw trwm.
Wedi ei bostio ar 04/06/2021