Skip to main content

Teyrngedau i'r Cynghorydd Clayton Willis

ClaytonWillisTynynantCropped500x500

Mae'r Cynghorydd Clayton Willis, Aelod Etholedig Cyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer Ward Tyn-y-Nant, wedi marw. 

Mae'r Cynghorydd Willis wedi cynrychioli ward Tyn-y-Nant ar Gyngor Rhondda Cynon Taf ers i'r Cyngor ddod i fodolaeth ym 1995/96, a bu hefyd yn Aelod Cabinet rhwng 2004 a 2014 o'r blaen. 

Arweiniodd Maer cyfredol Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Jill Bonetto, sawl teyrnged i'r Cynghorydd Willis. 

Meddai Maer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Bonetto: “Mae'n ddrwg iawn gennym glywed am farwolaeth y Cynghorydd Clayton Willis yn ddiweddar. 

“Roedd yn ŵr bonheddig iawn a oedd yn falch o gynrychioli ei gymuned am bum mlynedd ar hugain. Roedd yn gynrychiolydd arbennig ar gyfer ward Tyn-y-Nant ar Gyngor Rhondda Cynon Taf a gwasanaethodd ei gymuned ag angerdd. 

“Ar ran holl Aelodau Etholedig Rhondda Cynon Taf, hoffwn estyn fy nghydymdeimlad diffuant i deulu a ffrindiau Clayton ar yr adeg yma. Bydd pawb yn colli ei synnwyr digrifwch, ei gynhesrwydd a’i haelioni.”

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Roedd y Cynghorydd Clayton Willis yn aelod etholedig rhagorol ar gyfer Ward Tyn-y-Nant am nifer o flynyddoedd, ac mae ei holl gydweithwyr yma yn Rhondda Cynon Taf yn galaru amdano.

“Roedd e'n Gynghorydd ac yn ymgyrchydd angerddol, roedd yn poeni’n fawr am ei gymuned a’r holl bobl hynny a oedd yn byw ac yn gweithio yno. Ag yntau'n Aelod Etholedig hirsefydlog dros ei ardal, roedd y Cynghorydd Willis bob amser yn ymdrechu i gynrychioli preswylwyr a sicrhau bod ei lais yn cael ei glywed ar ran ei gymuned.

“Ar ôl iddo wasanaethu fel Aelod Cabinet am nifer o flynyddoedd, yn ogystal â bod yn Aelod Etholedig ers sefydlu Cyngor Rhondda Cynon Taf, byddaf bob amser yn ddiolchgar am ei gymorth a'i gefnogaeth. Rwy'n meddwl am ei deulu ar yr adeg anodd yma."

Cafodd y Cynghorydd Willis ei eni a'i fagu yn Nhŷ-nant, a bu farw ei wraig Wendy ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae'n gadael ei ddwy ferch, sef Sarah a Ruth, a'r teulu.

Wedi ei bostio ar 08/06/21