Skip to main content

23 Mawrth - Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod

Yellow Heart

Rydyn ni'n annog trigolion i ymuno â ni i gofio'r nifer fawr o fywydau a gollwyd yn lleol i'r Coronafeirws ers dechrau’r cyfnod cyntaf cenedlaethol o gyfyngu ar symudiadau ar 23 Mawrth 2020.

Bydd nifer o dirnodau allweddol, gan gynnwys Theatr y Parc a'r Dâr a'r Colisëwm, yn cael eu goleuo gyda'r hwyr ar 23 Mawrth i barchu anwyliaid ac unigolion a gollwyd i Covid-19 dros y deuddeg mis diwethaf.

Dywedodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol a'r Dirprwy Arweinydd, Maureen Webber: “Mae'r Cyngor yn bwriadu goleuo nifer o dirnodau allweddol ar draws Rhondda Cynon Taf i goffáu'r cyfnod cyntaf cenedlaethol o gyfyngu ar symudiadau ar 23 Mawrth 2020 a'r bywydau niferus a gollwyd yn Rhondda Cynon Taf dros y deuddeg mis diwethaf o ganlyniad i'r feirws.

“Trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol bydd y Cyngor yn annog trigolion i nodi’r pen-blwydd yma yn eu ffordd bersonol eu hunain, efallai trwy gynnau cannwyll neu arddangos poster, i gofio anwyliaid neu i barchu'r unigolion hynny sydd, yn anffodus, wedi colli eu bywydau. Trwy wneud hyn, byddwn ni fel cenedl yn cydnabod colled bersonol y deuddeg mis diwethaf.

“Rydyn ni'n trafod effaith Covid yn ddyddiol gan edrych ar niferoedd ac ystadegau, ond y tu ôl i'r ffigyrau yma, mae effeithiau personol diamheuol rydyn ni'n bwriadu eu cydnabod ar y cyd ar 23 Mawrth eleni ac yn y dyfodol.

“Mae'r Cyngor yn gwybod bod nifer o fentrau, sy'n ceisio symboleiddio cydymdeimlad y cymunedau, yn cael eu cynllunio ar hyn o bryd ledled Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys gweithgareddau unigol gan ein Cynghorau Cymuned. Rydyn ni'n awyddus i gefnogi neu gynorthwyo unrhyw gynlluniau sydd gan y trigolion er mwyn sicrhau ein bod ni i gyd yn nodi'r diwrnod yma mewn ffordd ystyrlon."

Wedi ei bostio ar 23/03/2021