Mae mangre drwyddedig wedi cael Hysbysiad Cosb Benodedig o £1,000 am dorri rheoliadau Covid-19.
Dyfarnwyd i Glwb Gweithwyr Llanharry dorri'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) sydd mewn grym i reoli, lleihau ac atal y risg o ddod i gysylltiad â COVID-19.
Daeth swyddogion a aeth i'r adeilad o hyd i gasgliad o bobl yno, ar adeg pan oedd hi'n ofynnol i fangreoedd trwyddedig gau, oni bai bod eu trwydded yn caniatáu iddyn nhw werthu alcohol i'w yfed oddi ar y safle.
Cefnogwyd Swyddogion y Cyngor gan Heddlu De Cymru yn ystod yr arolygiad.
Wedi ei bostio ar 29/03/2021