Skip to main content

Gwobrau Dinasyddion Da y Maer 2021

Mayor

Bydd naw o 'Ddinasyddion Da' neu grŵp o ddinasyddion da yn Rhondda Cynon Taf yn derbyn cydnabyddiaeth arbennig am eu gwaith yn eu cymunedau a'r effaith y maen nhw wedi'i chael ar gynifer o fywydau, yn enwedig yn ystod 12 mis diwethaf y pandemig byd-eang.

Mae'r Cyngor yn gofyn i chi enwebu pobl ar gyfer Gwobrau Dinasyddion Da Maer Rhondda Cynon Taf.

Meddai Maer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Susan Morgans: “Mae COVID-19 wedi effeithio ar bob un ohonom ni yn ystod y 12 mis diwethaf ac yn anffodus mae dros 5,000 o bobl yng Nghymru wedi colli eu bywydau.

“Dydyn ni heb weld cyfnod tebyg, a hoffem nawr ddangos ein gwerthfawrogiad yn gyhoeddus i'r rhai sydd wedi mynd yr ail filltir gan gydnabod ac anrhydeddu unigolion a grwpiau sydd wedi gwneud gwahaniaeth go iawn yn eu cymunedau gydag ymdrechion a chyfraniadau bach a mawr.

"Mae gyda ni gynifer o bobl hyfryd yn y Fwrdeistref Sirol yma sy'n gwneud llawer iawn o bethau da ar ran eu cymunedau. Hoffwn i ddiolch i bob un ohonyn nhw. Edrychaf ymlaen at dderbyn eich enwebiadau."

Categorïau Gwobrau Dinasyddion Da Maer Rhondda Cynon Taf 2021 yw:

  •  Gwobr Dinesydd Da y Flwyddyn - Cydnabod gwaith / cyfraniadau pobl yn y Fwrdeistref Sirol lle mae'r unigolyn wedi mynd yr ail filltir i helpu preswylydd neu breswylwyr yn y gymuned. Mae yna dri chategori oedran: Gwobr Dinasyddion Iau (11 oed ac iau); Gwobr Dinasyddion Ifainc (12-18 oed); Gwobr Dinasyddion sy'n Oedolion (18 oed a hŷn).
  • Gwobr Prosiect Eithriadol yn y Gymuned - Cydnabod prosiect sydd wedi'i gyflawni yn y gymuned, sydd wedi bod o fudd i drigolion y gymuned leol neu'r Fwrdeistref Sirol gyfan.
  • Gwobr Cyflawniad Oes - Cydnabod y gwaith eithriadol y mae unigolyn neu grŵp wedi'i wneud er budd eraill am gyfnod sylweddol.
  • Gwobr Gwasanaethu Elusen - Cydnabod y gwaith anhunanol sy'n cael ei wneud ar ran sefydliadau elusennol.
  • Gwobr Creadigrwydd yn y Gymuned - Cydnabod unrhyw brosiect creadigol gan bobl, sy'n cynnwys y celfyddydau yn y gymuned, ysgrifennu, darllen a cherddoriaeth, a defnydd creadigol o dechnoleg neu'r cyfryngau cymdeithasol.
  • Gwobr Entrepreneur - Cydnabod y cyfraniadau at fenter/cyflogaeth yn y Fwrdeistref Sirol.
  • Hyrwyddwr Materion Newid yn yr Hinsawdd - Cydnabod gweithredoedd i ddiogelu'r amgylchedd o'n cwmpas a hyrwyddo newid cynaliadwy yn eu cymunedau.

Cynigiwch enwau ar-lein ar gyfer Gwobrau Dinasyddion Da'r Maer 2021 - Enwebiadau bellach wedi cau

Bydd enwebiadau yn agor ddydd Llun 29 Mawrth (12pm) ar gyfer pob un o'r categorïau uchod yng Ngwobrau Dinasyddion Da Maer Rhondda Cynon Taf. Bydd tudalen bwrpasol ar wefan y Cyngor, sy'n cynnwys ffurflen fer i gyflwyno'ch enwebiad, yn cael ei hyrwyddo ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ddydd Llun.

Helpwch ni i sicrhau y bydd eleni yn flwyddyn arbennig iawn wrth i ni gydnabod pawb sydd wedi gweithio mor galed er budd eu cymunedau lleol a'r Fwrdeistref Sirol. Maer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Susan Morgans, a phanel dethol fydd yn ystyried pob cais.

Nodwch: rhaid cyflwyno enwebiadau cyn y dyddiad cau, sef Dydd Llun, 12 Ebrill (12pm).

Bydd Gwobrau Dinasyddion Da Maer Rhondda Cynon Taf yn dathlu cyflawniadau pawb gafodd eu henwebu a bydd yr achlysur i gyhoeddi enillwyr pob categori yn cael ei gynnal ar ffurf rithwir.

Wedi ei bostio ar 26/03/21