Skip to main content

Cais cynllunio wedi'i gyflwyno ar gyfer Porth Gogledd Cwm Cynon, yr A465

Cynon-Gateway-Environmental-Map-WELSH

Mae'r Cyngor wedi cyflwyno cais cynllunio ar gyfer cynllun fydd yn cael ei gwblhau yn y dyfodol, sef yr A465, Porth Gogledd Cwm Cynon (ffordd gyswllt yr A465) - a dyma garreg filltir bwysig yn dilyn yr Ymgynghoriad Cyn Cyflwyno Cais a ddigwyddodd yn ystod hydref 2020.

Bydd y cynllun arfaethedig yn ymestyn yr A4059 1.2km, o fan rhwng Trecynon a Hirwaun tua'r gogledd i greu cysylltiad newydd â Ffordd Blaenau'r Cymoedd, yr A465. Bydd yn cael ei gwblhau ar y cyd â chynllun Llywodraeth Cymru i ddeuoli'r A465 o Hirwaun i Dowlais Top, gan gysylltu â rhan newydd o’r A4059 wrth gyffordd newydd yng Nghroesbychan.

Bydd gan yr A465, Porth Gogledd Cwm Cynon fuddion rhanbarthol a lleol sylweddol - trwy wella cysylltedd rhwng Rhondda Cynon Taf ac ardal Blaenau'r Cymoedd fydd yn hyrwyddo gweithgaredd economaidd. Bydd diogelwch ar y ffyrdd yn cael ei wella a bydd traffig trwy Lwydcoed yn cael ei leihau o ganlyniad i gynllun deuoli'r A465. Bydd amser teithio i gymudwyr lleol hefyd yn cael ei leihau.

Cliciwch yma i weld fersiwn mawr o'r map uchod

Cynhaliodd y Cyngor Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais dros bedair wythnos ym mis Hydref a mis Tachwedd 2020, er mwyn gwneud preswylwyr yn effro i'r cynllun arfaethedig ac er mwyn derbyn eu hadborth arno. Roedd modd i breswylwyr weld tudalen we ymgynghori bwrpasol a oedd yn cynnwys taith fideo rithwir o'r ffordd newydd. Roedd y broses hefyd yn cynnwys arolwg, ynghyd â chyfarfod cyhoeddus ar-lein gyda Swyddogion.

Cafodd y garreg filltir ddiweddaraf ei chyrraedd ar gyfer y cynllun ddydd Gwener, 26 Chwefror, pan gyflwynwyd cais cynllunio yn ffurfiol - i'w ystyried gan Bwyllgor Cynllunio a Datblygu'r Cyngor yn ystod y misoedd nesaf.

Bydd y cyflwyniad ar gael ar Borth Cynllunio'r Cyngor i aelodau'r cyhoedd ei weld yn fanwl a rhoi sylwadau arno - gan gynnwys adroddiad yr Ymgynghoriad Cyn Gwneud Cais a luniwyd yn dilyn y cyfnod ymgysylltu.

Yn dilyn yr adborth a gafwyd gan ymgynghorwyr, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wella'r rhwydwaith teithio llesol presennol sy'n cael ei ddefnyddio'n aml gan y cymunedau cyfagos. Bydd hyn yn cynnwys ail-wynebu a chynnal gwaith draenio ar hyd hen dramffordd (Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol 46) ac ailosod Pont Savannah. Bydd rhagor o fanylion am y cynllun yn cael eu darparu wrth i'r cynllun fynd yn ei flaen.

Yn ogystal â hyn, yn dilyn trafodaethau â Cadw, bydd y Cyngor yn cynhyrchu cynllun rheoli yn y dyfodol ar gyfer Traphont y Gamlyn (cofadail hynafol). Ar y cyfan, mae'r ymateb i'r datblygiad wedi bod yn gadarnhaol, gyda chefnogaeth gan y cyhoedd ac ymgynghorwyr eraill.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae'r Cyngor yn parhau i ymrwymo i adeiladu Porth Gogledd Cwm Cynon i wella'r cysylltedd rhwng rhan uchaf Cwm Cynon a rhanbarth Blaenau'r Cymoedd. Bydd preswylwyr sy'n byw mewn cymunedau cyfagos yn elwa o amseroedd teithio llai o lawer, a fydd hefyd yn cael sgil-effaith o wella diogelwch ar y ffyrdd trwy Lwydcoed yn ogystal â llai o allyriadau carbon.

“Dyma gynllun seilwaith priffyrdd mawr diweddaraf y Cyngor, ar ôl cwblhau Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm, Aberpennar ym mis Hydref 2020. Bydd Porth Gogledd Cwm Cynon yn parhau i gael ei ddatblygu ochr yn ochr â Ffordd Osgoi Llanharan a'r gwaith o ddeuoli'r A4119 o Goed Elái i Ynysmaerdy - sydd i gyd yn dod yn eu blaenau'n dda a byddan nhw'n cael eu cwblhau mewn blwyddyn ariannol yn y dyfodol.

“Roedd yn braf gweld yr adborth cyffredinol cadarnhaol ar Borth Gogledd Cwm yn ystod y broses ymgysylltu yn yr hydref. Mae'r Cyngor wedi ystyried yr adborth, gan gynnwys adborth gan ymgynghorwyr statudol, ac wedi cynnwys nifer o gamau yn y cais cynllunio - megis ymrwymiadau mewn perthynas â Theithio Llesol, strwythurau hanesyddol a'r amgylchedd lleol.

“Ym mis Medi 2020, rhoddodd Aelodau o’r Cabinet awdurdod i swyddogion fwrw ymlaen â nifer o agweddau'r cynllun, gan gynnwys cwblhau Gorchymyn Prynu Gorfodol a chyflwyno cais cynllunio - ac mae cyflawni hyn ddydd Gwener yn gam mawr tuag at waith sy’n cychwyn ar y safle.”

Wedi ei bostio ar 02/03/21