Mae Aelodau’r Cabinet wedi cytuno i gynnal adolygiad manwl o ysgolion arbennig Rhondda Cynon Taf – gyda’r bwriad o gyflwyno cynigion buddsoddi yn y dyfodol i wella’r ddarpariaeth gyfredol ac ateb y galw cynyddol.
Cyflwynodd adroddiad i'r Cabinet ar 25 Chwefror,wybodaeth o ymarfer casglu data diweddar, ac argymhellodd y dylid cynnal adolygiad i fynd i'r afael â'r galw am leoedd ychwanegol mewn ysgolion arbennig. Byddai'r broses hefyd yn cydnabod dyletswyddau statudol y Cyngor i adolygu darpariaeth arbenigol ac i gyflawni gofynion Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, y disgwylir iddi gael ei gweithredu o fis Medi 2021.
Mae'r sector ysgolion arbennig wedi gweld twf yn nifer y disgyblion yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ym mis Ionawr 2020, roedd 577 o ddisgyblion yn mynychu pedair ysgol arbennig leol –- Ysgol Arbennig Maesgwyn ac Ysgol Arbennig Park Lane yn Aberdâr, Ysgol Hen Felin yn Ystrad ac Ysgol Tŷ Coch yn Nhon-teg (ynghyd â Buarth-y-Capel, is-safle Ysgol Tŷ Coch).
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y twf yn nifer yr ysgolion arbennig dros gyfnod o 7 mlynedd. Roedd cyfanswm o 480 o ddisgyblion yn mynychu ysgolion arbennig yn Rhondda Cynon Taf yn 2012/13. Roedd hyn wedi cynyddu i 577 erbyn 2019/20. Mae Ysgol Tŷ Coch wedi gweld cynnydd o 26% yn y nifer o ddisgyblion ers 2016/17 ac mae cynnydd o 10% yn y disgyblion sy'n mynychu Ysgol Hen Felin bellach. Mae'r adroddiad hefyd yn dadansoddi'r pedwar safle ysgol cyfredol - gan amlinellu eu cyfyngiadau, buddsoddiad diweddar a'u potensial i ehangu.
Mewn ymateb i'r pwysau cyfredol ar y capasiti, mae'r Cyngor wedi cymryd nifer o gamau i fynd i'r afael â'r mater yma a lleihau'r galw am leoliadau y tu allan i'r sir. Mae hyn wedi cynnwys ymestyn adeiladau, partneru â Choleg y Cymoedd, ail-ddosbarthu ystafelloedd dosbarth arbenigol a datblygu darpariaeth oddi ar y safle. Mae'r adroddiad yn ychwanegu ei bod hi'n anochel y bydd nifer y disgyblion yn parhau i dyfu dros y 5 i 10 mlynedd nesaf o ystyried anghenion cynyddol gymhleth disgyblion sy'n mynychu ein lleoliadau ysgol arbennig.
Mae ymrwymiad i addysgu plant yn eu hysgolion cymunedol lleol lle bo hynny'n bosibl. Yn 2019/20, roedd 95 o blant yn mynychu ysgolion arbennig y tu allan i'r sir neu ysgolion annibynnol am gost o £2.4 miliwn. Mae'r adroddiad yn dod i'r casgliad y gallai rhywfaint o'r cyllid yma gael ei ddefnyddio'n well i wella'r ddarpariaeth ysgolion arbennig yn Rhondda Cynon Taf.
Ar ôl ystyried argymhellion yr adroddiad ddydd Iau, cytunodd Aelodau'r Cabinet fod buddion sylweddol i'w cael o gynnal adolygiad o holl ysgolion arbennig y Fwrdeistref Sirol. O'r herwydd, bydd adroddiad pellach yn cyflwyno canlyniad yr adolygiad yma, gan gynnwys argymhellion ar gyfer buddsoddiad posibl yn y dyfodol, yn cael ei gyflwyno i gyfarfod Cabinet yn y dyfodol.
Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: “Mae'r Cabinet wedi ystyried yr adroddiad gan y Swyddogion, sy'n rhoi mewnwelediad inni o nifer y disgyblion sy'n mynychu ein hysgolion arbennig ar hyn o bryd - yn ogystal â thueddiadau diweddar sy'n awgrymu ei bod hi'n debygol y bydd twf pellach yn y galw yn y dyfodol. Mae hefyd yn amlinellu cyfyngiadau cynyddol ein safleoedd ysgolion presennol, a'u potensial i fanteisio ar fuddsoddiad a chael eu datblygu ymhellach.
“Nod y Cyngor yw cynnig darpariaeth o'r safon uchaf sy'n diwallu anghenion pob plentyn a pherson ifanc, sy'n gallu darparu ar gyfer yr ystod eang o anghenion arbenigol ar gyfer disgyblion lleol ac osgoi'r risg y bydd plant yn mynychu darpariaeth y tu allan i'r Fwrdeistref Sirol. Bwriad y nodau yma yw gwella canlyniadau addysg ein holl blant a phobl ifainc – gan adeiladu ar y gwaith gwych sy'n digwydd ar hyn o bryd yn ein hysgolion arbennig presennol.
“Yn y cyd-destun ehangach, mae newidiadau sylweddol hefyd ar y gweill yng Nghymru i gyflwyno dyletswyddau statudol gwell ar gyfer Awdurdodau Lleol, er mwyn sicrhau bod gofynion Anghenion Addysgol Arbennig ac Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael eu bodloni. Mae disgwyl bydd hyn yn dod i rym yn ddiweddarach eleni drwy'r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
“Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd, cytunodd y Cabinet fod yr amser yn iawn i gynnal adolygiad ac archwilio cynigion ar gyfer newid - i wella ein darpariaeth arbenigol yma yn Rhondda Cynon Taf. O dan y dull yma, byddai cyfleoedd i gael cyllid Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cael eu ceisio ar gyfer unrhyw fuddsoddiad. Mae gan y Cyngor hanes cryf iawn o wneud ceisiadau llwyddiannus. Rydw i'n edrych ymlaen at weld deilliannau'r adolygiad yn cael eu hadrodd yn ôl i'r Cabinet maes o law.”
Wedi ei bostio ar 04/03/21