Skip to main content

Ysgol yn Lansio Prosiect 'Big Bocs Bwyd'

BigBocs3

Mae ysgol yn Rhondda Cynon Taf wedi lansio prosiect dosbarthu bwyd cymunedol sydd nid yn unig yn dysgu disgyblion am fwydydd iach, ond sydd hefyd yn darparu man lle mae modd i deuluoedd gael gafael ar nwyddau am ddim neu am bris gostyngol.

Mae staff a disgyblion yn Ysgol Gynradd y Santes Fererid Eglwys Gatholig Rhufain yn Aberdâr yn cymryd rhan ym Mhrosiect Big Bocs Bwyd (BBB), sy'n helpu plant i ddatblygu dealltwriaeth gynnar o ddewisiadau bwyd iach wrth ddarparu bwyd am bris fforddiadwy i deuluoedd yn y gymuned.

Mae'r prosiect yn ceisio lleihau gwastraff bwyd ac effeithio'n gadarnhaol ar gynaliadwyedd gan gysylltu'n agos iawn â datblygu pedwar pwrpas y cwricwlwm newydd.

Caiff Prosiect Big Bocs Bwyd ei gefnogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae elusennau, fel FareShare, sy'n ceisio lleihau tlodi bwyd trwy ailddosbarthu bwyd dros ben o ansawdd sy'n cael ei gynhyrchu gan y diwydiant bwyd, hefyd yn rhan o'r cynllun llwyddiannus.

Mae Ysgol Gynradd y Santes Fererid Eglwys Gatholig Rhufain yn un o nifer o ysgolion yng Nghymru i elwa o'r Prosiect Big Bocs Bwyd, sydd eisoes â chefnogaeth gan gadwyn o archfarchnadoedd mawr yn Aberdâr.

Mae yna gynlluniau hefyd i ddatblygu prosiect Big Bocs Bwyd ymhellach yn Ysgol Gynradd y Santes Fererid Eglwys Gatholig Rhufain, unwaith y bydd cyfyngiadau COVID-19 yn caniatáu, gan gynnwys agor cyfleuster siop goffi a gardd gymunedol.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: “Rwy’n falch iawn bod Ysgol Gynradd y Santes Fererid Eglwys Gatholig Rhufain yn cefnogi’r Prosiect Big Bocs Bwyd, a fydd yn siŵr o ddod â llawer o fuddion i’r ysgol, staff, disgyblion a’r gymuned leol.

“Mae datblygu mwy o lythrennedd bwyd ymhlith plant yn gwbl allweddol i fagu hyder ynghylch sut i brosesu a choginio gwahanol fwydydd, a bydd yr adnoddau dysgu sy'n cael eu cynnig yn eu helpu i ddeall a gwerthfawrogi'r cysylltiadau rhwng bwyd, natur a'r economi.

“Ond mae Prosiect Big Bocs Bwyd hefyd yn bwysig wrth gynnig cynnyrch da i deuluoedd lleol am ddim neu am brisiau fforddiadwy a fydd o fudd i’w hiechyd a’u lles.”

Wedi ei bostio ar 05/03/2021