Mae Gwasanaeth Lluoedd Arfog y Cyngor yn lansio Grŵp Rhithwir newydd i Gyn-filwyr AM DDIM yn ardal Pontypridd ym mis Mawrth, ac mae'n agored i bobl sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog yn y gorffennol ac yn gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ar hyn o bryd.
Dyma'r trydydd grŵp o'i fath yn Rhondda Cynon Taf. Bydd yn gyfle delfrydol i bobl o'r un anian â llwybrau gyrfa tebyg ddod at ei gilydd o ddiogelwch eu cartrefi eu hunain i gwrdd ar-lein â hen ffrindiau a gwneud rhai newydd.
Meddai Dirprwy Arweinydd y Cyngor a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber:
“Yn sgil y pandemig byd-eang, mae hi wedi bod yn 12 mis anodd iawn i bawb, yn enwedig i’n cymuned y Lluoedd Arfog. Mawr yw ein dyled iddyn nhw.
“Fyddwn ni byth yn anghofio popeth maen nhw wedi’i wneud i ni a nawr ein tro ni yw bod yno i gynnig cymorth iddyn nhw.
“Bydd y Boreau Coffi Rhithwir yma'n ffordd wych i bawb gwrdd trwy eu ffonau symudol a'u cyfrifiaduron ac ymlacio a rhannu eu straeon a'u profiadau ag eraill.
"Mae nifer o'n cyn-filwyr yn teimlo'n ddiymadferth ac yn ynysig a dydyn nhw ddim yn gwybod lle i droi am gymorth ar ôl gorffen eu cyfnod gyda'r Lluoedd Arfog. Mae'r Cyngor yn hynod falch o'i gysylltiadau cryf â'n Lluoedd Arfog, gyda milwyr sy'n gwasanaethu heddiw ac wedi gwasanaethu yn y gorffennol, ac rydw i'n gobeithio y bydd y Bore Coffi Rhithwir newydd yma'n llwyddiant ysgubol.
"Mae'n bwysig nad ydyn ni byth yn anghofio dewrder ein holl bersonél y Lluoedd Arfog, o'r gorffennol i'r presennol, gartref a thramor. Dyma pam mae'r Cyngor yn parhau i ymestyn ei wasanaethau cyngor a chymorth i'w helpu i bontio i fywyd bob dydd."
Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i gytuno i Gyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012, a chadarnhawyd yr ymrwymiad yma yn 2018.
Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog
Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr
Mae Bore Coffi Rhithwir i Gyn-filwyr Pontypridd yn lansio am 11am ddydd Gwener 5 Mawrth, a bydd yn cael ei gynnal bob dydd Gwener. Mae modd i gyn-filwyr ymuno trwy ddolen Zoom. Bydd raid i chi ofyn am y manylion yma. Er mwyn cofrestru i gymryd rhan, ffoniwch 07747 485619 neu e-bostiwch GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk
Mae Gwasanaeth Cyn-filwyr y Cyngor yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd, cymorth a gwybodaeth AM DDIM i gymuned y Lluoedd Arfog - unigolion sy'n gwasanaethu heddiw ac sydd wedi gwasanaethu yn y gorffennol.
Mae dau grŵp arall o gyn-filwyr yn Rhondda Cynon Taf sy'n cwrdd ar-lein:
Mae Grŵp Cyn-filwyr Cwm Cynon yn cwrdd ar-lein bob dydd Mercher am 11am. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch David Warner ar 07960 411039.
Mae GrŵpCyn-filwyr y Cymoedd yn cwrdd ar-lein bob dydd Iau am 11am. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Paul Bromwell ar 07939 928177.
Mae modd i chi ymuno AM DDIM. Mae Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr y Cyngor yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd a phwrpasol am ddim i aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys ystod o feysydd gan gynnwys Budd-daliadau, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Cyllid, Cyflogaeth a Thai.
Wedi ei bostio ar 09/03/2021