Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd MELYN fydd yn effeithio ar rannau o Rondda Cynon Taf o 9pm nos Fercher (10 Mawrth) tan 3pm ddydd Iau (11 Mawrth). Mae gwyntoedd cryfion hyd at 55 mya i'w disgwyl yn ogystal â chawodydd o law trwm.
Dylai modurwyr sy'n gwneud teithiau hanfodol gymryd gofal ychwanegol a gyrru yn unol â'r amodau tywydd gwael, gan ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer teithiau.
Bydd y Cyngor yn monitro'r tywydd yn agos trwy gydol cyfnod rhybudd y Swyddfa Dywydd ac yn ymateb i unrhyw faterion sy'n codi, yn ôl y gofyn.
Os bydd unrhyw broblemau'n codi y tu allan i oriau swyddfa arferol, ffoniwch rif ffôn y Cyngor mewn argyfwng y tu allan i oriau arferol ar 01443 425011.
Wedi ei bostio ar 10/03/2021