Mae cynnydd rhagorol yn parhau i gael ei wneud o ran darparu ystod o welliannau cyffrous i Barc Gwledig Cwm Dâr, gyda gwaith ar Barc Beiciau Disgyrchiant i deuluoedd bron wedi'i gwblhau.
Mae Parc Beiciau Disgyrchiant i deuluoedd yn rhan o'r buddsoddiad ehangach o £1.5 miliwn sy'n cynnwys cyllid gan Gyngor RhCT a rhaglen Parc Rhanbarthol y Cymoedd Llywodraeth Cymru, gyda Pharc Gwledig Cwm Dâr yn un o'r Safleoedd Porth Darganfod dynodedig, sy'n hyrwyddo ac yn dathlu harddwch naturiol eithriadol a mannau agored epig yng Nghymoedd de Cymru.
Fel Safle Porth Darganfod, mae'r Parc Gwledig yn cael ei ystyried yn gyrchfan gwych ar gyfer ymwelwyr a'u denu i ymweld â gweddill y rhanbarth a'r hyn sydd gan y rhanbarth i'w gynnig.
O ganlyniad i'r buddsoddiad, bydd y Parc Gwledig yn gallu cynnig y cyfleuster Parc Beiciau Disgyrchiant cyffrous i deuluoedd, a fydd yn caniatáu i bobl o bob oed feicio i lawr Mynydd Penrhiwllech ar lwybrau beicio mynydd newydd, a gallu stopio wrth y tri thrac ar hyd y ffordd.
Bydd gwasanaeth i gludo beicwyr i ben y mynydd at ddechrau'r llwybrau. Mae modd i ymwelwyr ddod â'u beiciau a'u hoffer eu hunain gyda nhw neu eu llogi o'r ganolfan beicio mynydd ar y safle.
Cafodd y Parc Beiciau ei gynllunio i ddarparu'n benodol ar gyfer teuluoedd a beicwyr o bob oed a gallu ac mae disgwyl iddo agor pan fydd cyfyngiadau sy'n gysylltiedig â COVID yn caniatáu.
Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth: “Mae Parc Gwledig Cwm Dâr wedi bod yn lleoliad arbennig i ymwelwyr o bell ac agos, ac yn cynnig diwrnod gwych i'r teulu.
“Mae yna rywbeth i bawb - gan gynnwys maes chwarae antur sydd wedi'i adnewyddu'n ddiweddar yn arbennig i blant a theithiau cerdded epig o amgylch yr ardal wledig a’r mynyddoedd cyfagos. Mae pobl sy'n hoff o fyd natur yn heidio i'r Parc i weld yr hebog tramor a bywyd gwyllt arall - mae ganddo apêl eang.
“Bydd Parc Beiciau Disgyrchiant i deuluoedd yn ychwanegu dimensiwn newydd i'r Parc Gwledig, gan ddarparu cyfle i bobl o bob oed feicio mynydd mewn amgylchedd hyfryd. Mae'r llety ar y safle a'r cyfleusterau carafanau wedi'u moderneiddio, felly mae'n lle gwych i'r teulu cyfan ddod am benwythnos - neu'n hirach, unwaith y bydd y cyfyngiadau COVID-19 yn caniatáu.
“Gyda Zip World Tower yn agor ar Fynydd y Rhigos eleni, gan ychwanegu at Daith Pyllau Glo Cymru, Distyllfa Wisgi Penderyn a Phrofiad y Bathdy Brenhinol, mae Rhondda Cynon Taf yn parhau i sicrhau ei safle fel lleoliad sy'n boblogaidd ymhlith twristiaid gyda llawer o leoedd i ymwelwyr, teuluoedd a grwpiau eu mwynhau. Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at weld Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty yn ailagor unwaith y bydd y cyfyngiadau'n caniatáu.”
Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn parhau i sicrhau ei fod yn un o atyniadau gorau de Cymru, gan gynnig:
- Mynedfa a pharcio am ddim.
- Parc Beiciau Disgyrchiant i deuluoedd, gan gynnwys gwasanaeth codi a chludo ('rhoi lifft'), llwybrau, traciau pwmp a gwasanaeth llogi beiciau (prisiau i'w cadarnhau).
- Maes chwarae antur enfawr wedi'i foderneiddio gydag offer newydd a hygyrch ynghyd ag ardal chwarae arbennig i blant iau.
- Safle carafanau gyda chyfleusterau cawod sydd wedi'u hadnewyddu.
- Llety newydd wedi'i adnewyddu ar y safle - sy'n cynnwys ystafelloedd i deuluoedd, ystafelloedd hygyrch i gadeiriau olwyn ac ystafelloedd sy'n caniatáu cŵn.
- Caffi Black Rock ar ei newydd wedd, sy'n gwerthu dewis da o brydau bwyd, byrbrydau, salad, pitsas a llawer rhagor.
- Teithiau cerdded a llwybrau trwy'r ardal wledig a theithiau mynydd.
- Lleoliad achrededig Awyr Dywyll Cymru - mae'n lleoliad delfrydol ar gyfer edrych ar y sêr.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch Barc Gwledig Cwm Dâr ar Facebook.
Wedi ei bostio ar 18/03/21