Mae Aelodau'r Cabinet wedi derbyn y diweddaraf ar gynnydd y Cyngor wrth gaffael tir yn Nhrecynon a Gwaelod-y-garth, y bwriedir eu defnyddio i gefnogi Metro De Cymru yn y dyfodol.
Mewn dau adroddiad eithriedig ar wahân i gyfarfod y Cabinet ddydd Iau, 29 Ebrill, trafododd yr Aelodau'r ddau gaffaeliad – sy’n ymwneud â thir a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyfer safle hen Ffatri Cyw Iâr Mayhew yn Nhrecynon, yn ogystal â thir ac adeiladau yn Heol Rhyd-yr-helyg yng Ngwaelod-y-garth.
Safle hen ffatri Cyw Iâr Mayhew, Trecynon
Mae'r safle wedi'i leoli ger Ffordd Osgoi Aberdâr, a gallai hwyluso datblygiad posibl ar gyfer gorsaf drenau ar ochr arall yr afon. Gallai ddarparu trefniadau parcio a theithio a mynediad i gerddwyr i'r orsaf. Mae'n safle strategol, wrth i astudiaethau sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru archwilio'r posibilrwydd o ymestyn gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr o Aberdâr i Hirwaun.
Heol Rhyd-yr-helyg, Gwaelod-y-garth
Mae'r safle'n cynnwys tir ac adeiladau ar hyd Heol Rhyd-yr-helyg, ac mae'n cynnig y potensial i ddarparu arhosfan wedi'i hadleoli i gymryd lle'r arhosfan bresennol yn Nhrefforest sydd wedi'i lleoli 0.4 milltir i'r gogledd. Byddai hyn yn gwella'r cynnig trafnidiaeth gyhoeddus sy'n cysylltu ag Ystad Ddiwydiannol Trefforest.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Cytunodd y Cabinet ag argymhellion y ddau adroddiad ar wahân yn y cyfarfod ddydd Iau, mewn perthynas â chaffael tir yn Nhrecynon a Gwaelod-y-garth. Yn ystod y drafodaeth, mynegodd yr Aelodau eu bod yn cefnogi'r Cyngor i brynu buddiant rhydd-ddaliad y ddau safle strategol.
“Bydd y caffaeliadau hyn yn diogelu'r tir i'w ddefnyddio yn y dyfodol i gefnogi Metro De Cymru - yn benodol, estyniad posibl i linell reilffordd Aberdâr i Hirwaun, a darpariaeth well i wasanaethu Ystad Ddiwydiannol Trefforest. Bydd hyn yn sicrhau buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i'r ddwy ardal dan sylw.”
Wedi ei bostio ar 12/05/2021