Skip to main content

Dewch i Siarad am Wefru Cerbydau Trydan

Think-Climate-logo-270px-x-270px

Yn rhan o'n sgwrs newydd a chyffrous am yr hinsawdd - 'Dewch i Siarad RhCT - Newid yn yr Hinsawdd', hoffai'r Cyngor gael eich cymorth i lywio darpariaeth mannau gwefru cerbydau trydan ar gyfer y dyfodol ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae nifer y bobl sy’n defnyddio cerbydau trydan yn cynyddu bob blwyddyn ac mae'n bwysig bod modd i'r Cyngor asesu'r galw am seilwaith gwefru cerbydau trydan yn Rhondda Cynon Taf yn y dyfodol. Mae rhagamcanion yn nodi y bydd trigolion Rhondda Cynon Taf yn berchen ar oddeutu 8,000 o gerbydau trydan erbyn 2030.

Mae 'Dewch i Siarad am Wefru Cerbydau Trydan' yn annog trigolion a busnesau lleol i ymuno yn y ddadl i roi eu barn a rhannu syniadau ar sut mae modd i ni lywio'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol: “A ninnau'n Gyngor, rydyn ni'n cydnabod bod angen i ni arwain y ffordd a chynorthwyo'n trigolion, busnesau ac ymwelwyr sy'n teithio yn y Fwrdeistref Sirol y mae angen seilwaith addas arnyn nhw i wefru eu cerbydau tra yn y gwaith, yn siopa neu wrth fynd i lefydd eraill fel canolfannau hamdden.

“Mae'n bosibl y bydd angen darparu mannau gwefru mewn meysydd parcio cyhoeddus, wrth ymyl y ffordd, yn ein canolfannau hamdden, ar safleoedd y mae twristiaid yn ymweld â nhw, ynghyd â safleoedd eraill sy'n hygyrch i aelodau'r cyhoedd, er mwyn bodloni'r galw uwch yn y dyfodol.

“Dyma pam mae angen i ni ymgysylltu â'r cyhoedd nawr ar fater mor bwysig yn rhan o'n menter Dewch i Siarad RhCT / Dewch i Siarad RhCT – Newid yn yr Hinsawdd. Mae eich barn chi'n bwysig i ni, felly rydw i'n annog pawb i fynd i'r wefan a dweud eich dweud.”

Ein nod yw i Gyngor Rhondda Cynon Taf fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030 ac i'r Fwrdeistref Sirol fod mor agos â phosibl at fod yn Garbon Niwtral erbyn hynny hefyd.

Dewch i Siarad am Wefru Cerbydau Trydan

Mae modd i chi roi'ch adborth a'ch barn i ni ar ddefnyddio cerbydau trydan a mannau gwefru ledled Rhondda Cynon Taf yn ein harolwg byr ar-lein. Hoffen ni hefyd glywed am eich profiadau personol chi o fod yn berchen ar gerbyd trydan neu ei ddefnyddio a'n helpu i ddewis lleoliadau a fyddai'n addas ar gyfer unedau gwefru, yn eich barn chi.

Mae angen eich help arnon ni - Ymunwch â'n Sgwrs am yr Hinsawdd

Dewch i Siarad RhCT – Newid yn yr Hinsawdd

Wedi ei bostio ar 01/06/2021