Bydd y gwaith o adeiladu croesfan newydd i gerddwyr ar Heol Aberhonddu yn Hirwaun yn cychwyn ddydd Llun. Mae'r cynllun yn rhan o waith Llwybrau Diogel yn y Gymuned y Cyngor - gwaith sydd wedi elwa o fuddsoddiad Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Bydd y man croesi diogel newydd ar gyfer y gymuned wedi'i leoli ger cyffordd Heol Aberhonddu a Stryd y Groes er mwyn creu ardal fwy diogel i gerddwyr sy'n dymuno croesi'r briffordd. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys gosod goleuadau stryd, palmant ac ymylon newydd i wella'r ardal yma.
Mae'r groesfan i gerddwyr yn cael ei hariannu gan y Cyngor i gyd-fynd â chyfleusterau Ysgolion yr 21ain Ganrif newydd gwerth £10.3 miliwn yn Ysgol Gynradd Hirwaun. Roedd y cyfleusterau'n fuddsoddiad ar y cyd â Llywodraeth Cymru.
Mae'r ysgol bellach wedi elwa o gael adeilad newydd sbon o'r radd flaenaf, ynghyd â gwelliannau allanol gan gynnwys dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd, cae chwaraeon glaswellt, iard a maes parcio. Llwyddodd contractwr y project, Morgan Sindall, orffen y cynllun cyfan erbyn diwedd mis Ebrill 2021.
Bydd y gwaith o osod y groesfan i gerddwyr yn cychwyn Ddydd Llun, 17 Mai, a bydd angen goleuadau traffig dros dro ar hyd Heol Aberhonddu rhwng 9am a 5pm bob dydd trwy gydol y cynllun. Mae disgwyl i'r gwaith bara pedair wythnos.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Rhan bwysig o fuddsoddiad y Cyngor yn Ysgolion yr 21ain Ganrif yw ei hymrwymiad i wella'r llwybrau lleol i'r ysgolion a sicrhau eu bod yn ddiogel, a hynny er budd rhieni a disgyblion sy'n defnyddio'r cyfleusterau newydd, a hefyd at ddefnydd y gymuned ehangach.
“Y gwaith arfaethedig yn Hirwaun yw’r enghraifft ddiweddaraf o’r math yma o fuddsoddiad ar y briffordd. Mae gwaith tebyg eisoes wedi'i gyflawni yng Nghwmaman, Tonypandy, Tonyrefail a Threorci ar ôl i’r ardaloedd hynny elwa o brosiectau Ysgolion yr 21ain Ganrif yn 2018/19. Cafodd cynlluniau llwybrau diogel nad oedden nhw'n gysylltiedig â buddsoddiad ysgolion eu cyflawni yn Abercynon a Llwynypia yn 2020, ac mae cynlluniau hefyd ar waith yng Nghilfynydd a Llantrisant yn 2021.
“Bydd y groesfan newydd i gerddwyr ar Heol Aberhonddu yn cymryd tua phedair wythnos i’w chwblhau, a bydd angen goleuadau traffig i sicrhau diogelwch. Bydd y Cyngor yn gweithio mor gyflym â phosibl i orffen y prosiect, er mwyn ategu'r cyfleusterau newydd rhagorol a fydd o fudd i deuluoedd lleol yn Hirwaun am flynyddoedd i ddod."
Wedi ei bostio ar 14/05/21