Skip to main content

Y Diweddaraf am y Llyfrgelloedd

Oherwydd y camau parhaus sy'n cael eu cymryd yn Rhondda Cynon Taf, mae tair o lyfrgelloedd y Cyngor yn mynd yn ôl i'w horiau agor amser llawn gwreiddiol, gyda changhennau eraill yn anelu at wneud hynny'n fuan iawn.

O ddydd Llun, 17 Mai, bydd llyfrgelloedd Aberdâr, Treorci a Phontypridd yn symud i'w horiau agor gwreiddiol yn rhan o gamau graddol y Cyngor o ailagor  gwasanaethau yn dilyn pandemig byd-eang COVID-19. Bydd mwy o ganghennau yn symud yn ôl i'w horiau agor arferol cyn Covid-19 ym mis Mehefin, os bydd yr amgylchiadau'n caniatáu.

Serch hynny, bydd y Cyngor yn parhau â'i wasanaeth poblogaidd 'Archebu a Cashlu', a ddechreuwyd y llynedd, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru yn dilyn adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr llyfrgelloedd.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Lles a Gwasanaethau Diwylliannol:

“Rwy’n falch iawn, gyda phob cam gofalus, ein bod bellach mewn sefyllfa i agor tair llyfrgell i’r cyhoedd unwaith yn rhagor.

“Mae hyn oherwydd gwaith anhygoel cymaint o bobl sydd wedi helpu yn y frwydr yn erbyn Covid-19 – ac yn yn anad neb, y cyhoedd sydd wedi bod yn gweithio gyda ni a Llywodraeth Cymru i helpu i gadw rheolaeth ar y feirws.

“Mae hefyd yn wych cael adborth mor gadarnhaol gan ddefnyddwyr ein llyfrgelloedd sydd wedi gofyn inni barhau gyda'n gwasanaeth 'Archebu a Chasglu', sydd wedi bod yn boblogaidd iawn ym mhob un o'n cymunedau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae dychwelyd i oriau agor cyn-Covid-19 yn llyfrgelloedd Treorci, Aberdâr a Phontypridd yn garreg filltir enfawr i ni i gyd wrth inni ddod allan o'r pandemig yng Nghymru gan bwyll, sy'n ddiolch i'r gwaith a'r ymrwymiad gwych a ddangoswyd gan ein holl staff. wrth gyflawni hyn. ”

Mae ail-agor llyfrgelloedd Treorci, Aberdâr a Phontypridd yn garreg filltir enfawr i ni i gyd wrth inni ddod allan o'r pandemig yng Nghymru gan bwyll, sy'n ddiolch i'r gwaith a'r ymrwymiad gwych a ddangoswyd gan ein holl staff. wrth gyflawni hyn. ”

Er budd diogelwch y cyhoedd yn 2020, caewyd holl lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf i'r cyhoedd, gyda staff yn cael eu symud i gefnogi meysydd gwasanaeth allweddol yn y Cyngor wrth i'r Awdurdod Lleol ymateb i'r argyfwng cenedlaethol.

Ond diolch i gefnogaeth preswylwyr a busnesau ledled y Fwrdeistref Sirol, ynghyd â gwaith rhagorol y rhaglen frechu, mae gwasanaethau bellach yn dechrau cael eu hailgyflwyno, gan gadw at ganllawiau a chyfyngiadau Llywodraeth Cymru ar yr un pryd.

O ganlyniad i hyn, bydd y tair llyfrgell nawr yn cynyddu'r oriau maen nhw ar agor i'r cyhoedd, gyda niferoedd cyfyngedig yn cael pori'r llyfrau ar unrhyw un adeg. Dyma'r oriau agor ar gyfer llyfrgelloedd Aberdâr, Treorci a Phontypridd:

Dydd Llun (9am i 6pm); Dydd Mawrth (9am i 7pm); Dydd Mercher (9am i 6pm); Dydd Iau (9am i 6pm); Dydd Gwener (9am i 5pm); Dydd Sadwrn (9am i 1pm).

Wrth ddod i'r tair llyfrgell, gwisgwch orchudd wyneb bob amser y tu mewn i'r adeilad a dilynwch yr arwyddion sydd yn eu lle. Parchwch bobl eraill bob amser a chadw at y rheol 2 fetr. Bydd hylif golchi dwylo ym mhob adeilad a bydd sgriniau amddiffynnol er diogelwch defnyddwyr a staff y llyfrgell.

Oherwydd y galw o du'r cyhoedd, bydd gwasanaeth 'Archebu a Chasglu' y Cyngor hefyd yn parhau ym mhob cangen llyfrgell, gyda defnyddwyr yn dewis llyfrau o'u dewis ar-lein, neu'n gofyn i staff llyfrgelloedd ddewis detholiad yn seiliedig ar ddiddordebau personol a'u hoff genres.

Wedyn, bydd staff y llyfrgell yn trefnu apwyntiad i chi ddod i gasglu'r llyfrau o'r llyfrgell rydych chi wedi'i dewis. Bydd modd benthyca'r llyfrau am dair wythnos yn ôl yr arfer, a bydd angen eu dychwelyd i'r llyfrgell lle daethoch chi i'w nôl nhw yn y lle cyntaf.

Catalog Llyfrau Ar-lein

 

 

Wedi ei bostio ar 20/05/21