Skip to main content

Llysgenhadon Strydoedd Diogel RhCT

Bydd Llysgenhadon Strydoedd Diogel newydd y Cyngor yn nhrefi Rhondda Cynon Taf dros benwythnos Gŵyl y Banc yn cynnig cyngor a thawelwch meddwl i ddalwyr trwydded a chwsmeriaid wrth i gyfyngiadau COVID-19 gael eu llacio.

Mae lletygarwch awyr agored, gan gynnwys tafarndai, clybiau a bwytai, bellach wedi cael caniatâd i ailagor yn Rhondda Cynon Taf ac yng Nghymru gyfan. Mae modd hefyd cynnal derbyniadau priodas awyr agored ar gyfer hyd at 30 o bobl.

Wrth i'r cyfyngiadau gael eu lacio, bydd Llysgenhadon Strydoedd Diogel y Cyngor yn cynnig cyngor cyfeillgar mewn trefi. Bydd modd eu hadnabod trwy eu gwisgoedd glas sy'n cynnwys festiau â chamerâu corff. Byddan nhw'n siarad ag aelodau'r cyhoedd gan gynnig tawelwch meddwl, cymorth ac arweiniad, yn ogystal ag atgoffa pobl o'r rheoliadau cadw pellter cymdeithasol.

Ar y cyd â Heddlu De Cymru, bydd y Llysgenhadon Strydoedd Diogel hefyd yn gweithio'n agos gyda busnesau â thrwydded er mwyn annog pawb i fwynhau Gŵyl y Banc mewn modd diogel.

Meddai'rCynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol: “Ar ôl blwyddyn heriol iawn i ni i gyd, rydw i'n falch bod cyfyngiadau bellach yn cael eu llacio ledled ein Bwrdeistref Sirol a Chymru gyfan wrth i ffigyrau COVID-19 barhau i ostwng.

“Hefyd, mae'n wych gweld y rhaglen frechu'n mynd rhagddi'n dda yn ein hardal. Mae hyn yn dyst i bawb oedd yn rhan o'r rhaglen, a hynny gyda'r awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd a'i bartneriaid.

“O ganlyniad i'r ymdrechion anhygoel yma, mae'r sector lletygarwch awyr agored bellach ar agor ar gyfer penwythnos Gŵyl y Banc. Does dim amheuaeth y bydd nifer yn edrych ymlaen at fynd allan eto, ond bydd nifer yn teimlo'n bryderus.

“Mae ein Llysgenhadon Strydoedd Diogel wrth law i helpu a chynnig cymorth a thawelwch meddwl, gan hyrwyddo mesurau diogelwch mewn ffordd gadarnhaol yng nghanol ein trefi.”

Bydd Llysgenhadon Strydoedd Diogel y Cyngor hefyd yn monitro llefydd bwyd a chludfwyd, yn ogystal â mannau agored ac ardaloedd o gwmpas parciau cyhoeddus. Byddan nhw'n chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi ac annog perchnogion busnesau, trigolion ac ymwelwyr i gadw'n ddiogel wrth fod allan yn gymdeithasol.

Does dim pwerau cyfreithiol gan Lysgenhadon Strydoedd Diogel, a'u rôl yw cynnig cyngor yn unig. Byddan nhw'n gweithio bob penwythnos ac rydyn ni'n annog busnesau lleol a'r cyhoedd i gydweithio â nhw i sicrhau bod y broses o lacio cyfyngiadau symud yn cael ei rheoli'n ddiogel yn Rhondda Cynon Taf.

Wedi ei bostio ar 13/05/2021