Mae Rhybudd Tywydd MELYN gan y Swyddfa Dywydd yn dod i rym ar draws Rhondda Cynon Taf o 3pm ddydd Iau (20 Mai) hyd at 9pm ddydd Gwener (21 Mai). Mae hyn oherwydd gwyntoedd sy'n cyrraedd 60mya.
Mae'r rhagolygon yn ein rhybuddio rhag oedi posibl ar yr heolydd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae'n bosibl bydd difrod i strwythurau dros dro yn yr awyr agored, a choed. Y cyngor yw i yrwyr a cherddwyr fod yn fwy gofalus yn ystod y cyfnod hwn o dywydd garw.
Bydd y Cyngor yn monitro'r tywydd yn ofalus tra bydd rhybudd y Swyddfa Dywydd mewn grym, a bydd yn ymateb i unrhyw broblemau sy'n codi.
Os bydd unrhyw broblemau'n codi y tu allan i oriau swyddfa arferol, ffoniwch Wasanaeth Brys y Cyngor y Tu Hwnt i Oriau ar 01443 425011.
Wedi ei bostio ar 20/05/2021