Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer adeiladu cyfleuster 3G arall yn ardal gogledd Cwm Rhondda Fawr, ar safle Cae Baglan ym Mhenyrenglyn, Treherbert.
Wedi cwblhau'r gwaith, bydd 14 o gyfleusterau 3G gyda Rhondda Cynon Taf ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol sy'n golygu bydd y Cyngor wedi gwireddu'r uchelgais o sicrhau bod cyfleuster o'r fath o fewn 3 milltir i gartref pob trigolyn.
Bydd y cyfleuster yn gyfagos i Ysgol Gynradd Penyrenglyn a bydd yn darparu cae pêl-droed 3G maint llawn yn ogystal â 3 chae 5-bob-ochr. Bydd y cae maint llawn yn cyrraedd Haen 3 sy'n golygu bydd modd chwarae pêl-droed Cynghrair Undebol De Cymru, Cynghrair Cymru South a Chynghrair Adran yno. Bydd hefyd gyfleuster pad trawiad Rygbi fel bod modd i dimau rygbi hefyd hyfforddi yno. Yn ogystal â chael ei ddefnyddio gan y gymuned, bydd y cyfleuster hefyd yn gaeau chwarae i Ysgol Gynradd Penyrenglyn.
Mae'r gwaith dichonoldeb a chynllunio wedi'u cwblhau ac mae gan y Cyngor ymgynghorydd yn gweithio i ddarparu'r cynllun. Cam nesaf y prosiect bydd ei dendro a bydd dechrau'r gwaith ymarferol ar y safle yn ddibynnol ar argaeledd contractwr.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Rwy'n falch o gyhoeddi cynlluniau'r Cyngor i ddarparu'i gae 3G rhif 14 yn Rhondda Cynon Taf.
"Bydd datblygu'r cyfleuster yma yng Nghae Baglan, Treherbert yn gwireddu addewid y Cyngor i sicrhau bod cyfleuster 3G o fewn 3 milltir i gartref pob trigolyn yn Rhondda Cynon Taf.
"Dyma brosiect blaenllaw fydd yn darparu 3 chae 5-bob-ochr, yn ogystal â chae pêl-droed maint llawn Haen 3 sy'n golygu bydd modd cynnal gemau'r Gynghrair Undebol a'r cynghreiriau uchod yno.
"Yn ddiweddar es i i gwrdd â chynrychiolwyr o Gymdeithas Bêl-droed Cymru a chael trafodaethau cadarnhaol ynglŷn â gweledigaethau strategol ar gyfer dyfodol pêl-droed llawr gwlad yng Nghymru. Rwy'n falch iawn bod y Cyngor yn gwireddu ein hymrwymiad i ddarparu cyfleusterau chwaraeon awyr agored o'r radd flaenaf er mwyn annog trigolion i gymryd rhan mewn chwaraeon yn lleol."
Wedi ei bostio ar 10/11/21