Skip to main content

Y Cyngor yn helpu banc bwyd lleol i ddod o hyd i gartref newydd

Pontypridd foodbank - Cllr Lewis, Amanda Haydon-Hall and Cllr Webber

Y Cynghorydd Lewis, Amanda Haydon-Hall ac y Cynghorydd Webber

Mae'r Cyngor wedi helpu Banc Bwyd Pontypridd i ddod o hyd i gartref parhaol newydd er mwyn iddo barhau â'i waith amhrisiadwy yn helpu pobl mewn angen. Bydd y banc bwyd yn symud i adeilad canolfan oriau dydd nad oedd bellach yn cael ei ddefnyddio.

Nod yr elusen gofrestredig, sy'n rhan o Rwydwaith Banc Bwyd Ymddiriedolaeth Trussell, yw darparu gwerth tri diwrnod o fwyd i bobl mewn sefyllfa argyfyngus. Mae'r elusen yn derbyn cefnogaeth gan nifer o grwpiau lleol, gan gynnwys eglwysi, capeli, ysgolion a busnesau, ynghyd â derbyn rhoddion gan unigolion.

Yn ystod pandemig Covid-19, roedd Banc Bwyd Pontypridd wedi'i leoli dros dro yng Nghanolfan Gymunedol Ilan yn Rhydyfelin. Fodd bynnag, roedd yr angen gan y gymuned am y cyfleuster wedi parhau ar ôl i'r cyfyngiadau lacio.

Gan weithio gyda Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Maureen Webber, ac Aelod o'r Cabinet, y Cynghorydd Rhys Lewis, ceisiodd y Cyngor ddod o hyd i gartref newydd i'r grŵp yn lleol. Yn dilyn newid diweddar yng ngwasanaeth y Cyngor, roedd Canolfan Oriau Dydd Glan-yr-Afon yn Stryd y Nîl yn Nhrefforest ar gael.

Mae'r Cyngor wedi gweithredu'n gyflym i drefnu trwydded dros dro i Fanc Bwyd Pontypridd allu symud i'r adeilad, gyda'r bwriad o sicrhau trwydded barhaol yn y dyfodol. Cafodd y grŵp yr allweddi i’r adeilad ar 22 Hydref, ac maen nhw wedi bod yn glanhau ac addurno er mwyn paratoi i agor yr adeilad.

Aeth y Cynghorydd Webber a'r Cynghorydd Lewis i weld y banc bwyd yn ei gartref newydd ar 1 Tachwedd. Bu'n gyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o'r grŵp, gan gynnwys cydlynydd y banc bwyd, Amanda Haydon-Hall.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: “Rwy’n falch iawn bod y Cyngor wedi gallu helpu Banc Bwyd Pontypridd i ddod o hyd i gartref parhaol yn lleol. Mae'r grŵp yn gwneud gwaith rhagorol yn y gymuned, gan helpu pobl mewn amgylchiadau personol anodd drwy ddarparu bwyd iddyn nhw pan fydd ei angen arnyn nhw fwyaf.

“Mae hefyd yn newyddion gwych ein bod ni wedi gallu defnyddio hen adeilad Canolfan Oriau Dydd Glan-yr-Afon yn gartref newydd i Fanc Bwyd Pontypridd. Bydd yr adeilad unwaith eto yn gaffaeliad rhagorol i'r gymuned.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol: “Mae'r adeilad yn lleoliad delfrydol i'r banc bwyd, mewn lleoliad canolog ger Broadway. Mae yna hefyd gyfleusterau parcio ar gael ac mae'n addas ar gyfer derbyn cyflenwadau bwyd. Mae'n dda gweld y Cyngor yn mynd ati mor gyflym i ganiatáu i'r grŵp gael mynediad cychwynnol i'r adeilad gyda thrwydded dros dro.

“Ac mae'n newyddion gwych bod yr ased yma nad yw'n cael ei ddefnyddio gan y Cyngor erbyn hyn, yn cael ei ddefnyddio eto, fel yr ydyn ni wedi'i weld gyda sawl ased diolch i'r prosiect RhCT Gyda'n Gilydd. Hoffwn ddymuno pob hwyl i Fanc Bwyd Pontypridd gyda'i ddyfodol yn ei gartref newydd."

Ychwanegodd Amanda Haydon-Hall, rheolwr prosiect Banc Bwyd Pontypridd: “Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i ni weithio ar y cyd â Chyngor RhCT er mwyn parhau i gefnogi pobl leol sy'n wynebu argyfwng ond hefyd i symud tuag at ddod â'r angen am fanciau bwyd a darpariaeth bwyd am ddim ar gyfer y rhai sy'n wynebu argyfwng i ben. 

"Bydd y lle ychwanegol o fudd mawr i fi a'n gwirfoddolwyr gan ystyried y cynnydd yn y galw." 

Wedi ei bostio ar 05/11/2021