Skip to main content

Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd ar ôl Storm Dennis – Treherbert

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi ei bedwerydd Adroddiad Ymchwilio i Lifogydd Adran 19 ar ôl Storm Dennis y llynedd, a hynny er mwyn nodi'r hyn a achosodd y llifogydd, gan ganolbwyntio ar gymuned Treherbert.

Mae Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (Adran 19) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod Llifogydd Arweiniol Lleol roi adroddiad ffeithiol o'r hyn a ddigwyddodd mewn digwyddiadau llifogydd difrifol. Yn dilyn ei ymchwiliad i 28 lleoliad a effeithiwyd gan Storm Dennis (15-16 Chwefror, 2020), bydd y Cyngor yn llunio cyfanswm o 19 adroddiad.

Mae cyhoeddiad heddiw yn dilyn dau adroddiad cychwynnol a gafodd eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2021 – Adroddiad Trosolwg a oedd yn manylu ac yn dadansoddi'r glawiad, cyrsiau dŵr a lefelau afonydd yn Rhondda Cynon Taf yn ystod Storm Dennis, ynghyd ag adroddiad ar wahân yn canolbwyntio'n benodol ar y llifogydd difrifol ledled ardal Pentre. Yn ystod mis Medi 2021, cyhoeddodd y Cyngor ei drydydd adroddiad ymchwilio i'r llifogydd yng Nghilfynydd.

Mae'r adroddiad diweddaraf, a gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth 16 Tachwedd, wedi canolbwyntio ar ardal Treherbert yng Nghwm Rhondda Fawr (Ardal Ymchwilio i Lifogydd RhCT 27). Mae'n nodi bod 21 eiddo preswyl wedi'u heffeithio gan lifogydd yn y gymuned leol, yn ogystal â dau eiddo masnachol a llifogydd ar y briffordd.

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w weld ar wefan y Cyngor, yma

Mae'r adroddiad wedi cael ei lywio gan arolygiadau a gynhaliwyd gan Garfan Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor yn ystod y dyddiau yn dilyn Storm Dennis, yn ogystal â gwybodaeth a gasglwyd gan drigolion, Carfan Iechyd Cyhoeddus y Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru. Fel y nodir yn yr adroddiad, y Cyngor yw'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol a'r Awdurdod Draenio Tir.

Yn ôl yr adroddiad, prif ffynhonnell y llifogydd oedd y dŵr ffo sylweddol yn llifo dros y tir i lawr o'r llechweddau serth uwchben y pentref. Draeniodd glawiad i dir is trwy gyrsiau dŵr cyffredin. Cafodd sawl un ohonyn nhw eu gorlenwi gyda dŵr a malurion, gan arwain at godi lefel y dŵr ac effeithio ar eiddo.

Nodwyd mai pum cilfach cwlfert oedd ffynonellau'r llifogydd yn yr eiddo – mae pob un ohonyn nhw dan berchnogaeth breifat. Cafodd dwy gilfach, yn rhan o rwydwaith Stryd Abertonllwyd, eu gorlwytho'n hydrolig yn ystod y storm. Nodwyd nad ydyn nhw'n bodloni safonau dylunio presennol. Roedd gan y tri chwlfert arall amddiffyniad digonol hyd at ddigwyddiad storm bob 1,000 o flynyddoedd gyda gallu digonol i reoli llif y dŵr. Serch hynny, roedd hyn yn llai o ganlyniad i rwystrau.

Mae'r Cyngor, ac yntau'n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, wedi cynnal 13 cam gweithredu mewn ymateb i'r llifogydd, ac wedi cynnig cynnal chwe arall. Mae'r rhain yn cynnwys gwaith clirio wedi'i gynnal ar y cilfachau cwlfert a gafodd eu nodi'n ffynonellau llifogydd. Yn ogystal â hyn, cynhaliwyd arolygon, gwaith glanhau ar tua 800 metr o'r rhwydwaith cwrs dŵr cyffredin yn ardal yr ymchwiliad.

Mae hefyd wedi dechrau prosiect Gwrthsefyll Llifogydd ar gyfer Eiddo dros dro, gan gynnig gatiau llifogydd mae modd eu hehangu i'r eiddo hynny sydd mewn perygl uchel o lifogydd cyrsiau dŵr cyffredin a dŵr wyneb. Mae'n datblygu cynllun ar gyfer llwybrau llifogydd ar hyd yr A4061 (Stryd Abertonllwyd) i reoli dŵr ffo.

Mae'r Cyngor hefyd wedi arwain gwaith datblygu Ystafell Rheoli Argyfyngau, gan ddod â'i Ganolfan Alwadau a gweithrediadau TCC at ei gilydd er mwyn darparu ymateb amlasiantaeth, cynhwysfawr a gwybodus yn ystod stormydd yn y dyfodol.

Bydd hefyd yn ceisio deall y dalgylch o gwmpas Treherbert yn well trwy ddatblygu Achos Busnes Amlinelliad Strategol er mwyn cynnig argymhellion ar gyfer mesurau rheoli addas. Bwriad hyn yw lliniaru'r perygl o lifogydd cyrsiau dŵr cyffredin, dŵr wyneb a dŵr daear yn lleol yn y dyfodol.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod y tywydd yn ystod Storm Dennis yn eithafol, ac mae'n annhebygol y byddai modd atal pob achos o lifogydd o dan amgylchiadau tebyg. Mae'n nodi bod yr Awdurdodau Rheoli Risg wedi cyflawni eu swyddogaethau yn foddhaol mewn ymateb i'r llifogydd. Mae mesurau pellach wedi cael eu cynnig i wella'r parodrwydd a'r ymateb yn y dyfodol.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae'r Cyngor bellach wedi cyhoeddi ei bedwerydd adroddiad Adran 19 yn dilyn llifogydd Storm Dennis. Mae hyn yn dilyn Adroddiad Trosolwg ac adroddiad ar wahân mewn perthynas ag ardal Pentre a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2021, yn ogystal ag adroddiad arall sy'n canolbwyntio ar ardal Cilfynydd a gyhoeddwyd ym mis Medi. Unwaith eto, mae'r adroddiad diweddaraf ar gyfer Treherbert yn ddogfen fanwl a chwbl hygyrch ar wefan y Cyngor.

“Mae'r adroddiad wedi ymchwilio i nifer o ffactorau, gan gynnwys yr hyn a achosodd y llifogydd, cyflawniad y seilwaith, ymateb a chamau gweithredu'r Cyngor, a gweithgareddau wedi'u cynllunio i wella ein parodrwydd o dan amgylchiadau tebyg yn y dyfodol. Daw'r adroddiad i'r casgliad bod y Cyngor, fel yr Awdurdod Lleol Arweiniol, wedi cyflawni ei ddyletswyddau mewn ffordd foddhaol.

“Mae cynnal prosiectau lliniaru llifogydd ledled y Fwrdeistref Sirol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i'r Cyngor, yn enwedig yn ardaloedd sy'n wynebu perygl uwch. Byddwn ni'n parhau i geisio cyllid allanol i ategu ein buddsoddiad sylweddol yn y maes yma er mwyn amddiffyn ein cymunedau rhag effeithiau niwed yn yr hinsawdd.”

Wedi ei bostio ar 16/11/21