Skip to main content

Ymweliad y Gweinidog Addysg ag Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Nhonyrefail a Hirwaun

The Ecucation Minister for Wales has visited Hirwaun Primary School and Tonyrefail Community School

Rhoddodd staff a disgyblion groeso cynnes i Weinidog Addysg Cymru pan ymwelodd â'u hysgolion yn Nhonyrefail a Hirwaun i weld cyfleusterau gwych Ysgolion yr 21ain Ganrif sydd wedi'u darparu gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Ymwelodd Jeremy Miles AS ag Ysgol Gymunedol Tonyrefail ac Ysgol Gynradd Hirwaun ddydd Iau, 4 Tachwedd, lle mae staff a disgyblion bellach yn mwynhau cyfleusterau newydd rhagorol a'r cyfleoedd maen nhw'n eu darparu bob dydd. Cafodd y prosiectau eu cyflawni gan y Cyngor gan ddefnyddio buddsoddiad sylweddol Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.

Agorodd Ysgol Gymunedol Pob Oed Tonyrefail ym mis Medi 2018 gydag adeilad newydd o'r radd flaenaf ar gyfer disgyblion oed cynradd ac adeilad pwrpasol newydd ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar. Cafodd adeilad newydd sbon ei agor yng ngwanwyn 2019 ar gyfer disgyblion oed uwchradd, yn ogystal ag ailfodelu adeilad rhestredig yr hen Ysgol Ramadeg o Oes Fictoria. Roedd y datblygiad ehangach yn cynnwys maes parcio a chaeau chwarae ar ôl dymchwel adeiladau'r ysgol gyfun a oedd yn weddill.

Cafodd y datblygiad ei gyflawni'n rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £44 miliwn ar gyfer y gymuned ym meysydd Addysg a Hamdden. Roedd hyn hefyd yn cynnwys cyfleusterau addysgu arbenigol yng Nghanolfan Hamdden Tonyrefail a chae chwaraeon 3G 'pob tywydd' newydd.

Roedd Ysgol Gynradd Hirwaun wedi elwa ar ysgol newydd sbon gwerth £10.2 miliwn ym mis Tachwedd 2020. Cafodd y datblygiad ehangach ei gwblhau ym mis Ebrill 2021, a oedd yn cynnwys dymchwel hen adeiladau'r ysgol, creu dwy Ardal Gemau Aml-ddefnydd, cyfleuster Dechrau'n Deg y Blynyddoedd Cynnar, maes parcio i'r staff, cae chwaraeon glaswellt a lleoedd allanol.

Ymwelodd Gweinidog Addysg Cymru â'r ddwy ysgol ddydd Iau i weld yr amgylcheddau dysgu gwych a ddaeth i fodolaeth diolch i'r buddsoddiad gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Cafodd ei groeso gan y penaethiaid Heather Nicholas (Ysgol Gymunedol Tonyrefail) a Bethan Hill (Ysgol Gynradd Hirwaun).

Cafodd y Gweinidog ei dywys o amgylch pob ysgol yn ystod ei ymweliad, gan fanteisio ar y cyfle i ymweld â'r staff a'r disgyblion mewn nifer o wersi. Mae ei ymweliad yn nodi agoriad swyddogol y cyfleusterau newydd yn y ddwy ysgol.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant a oedd wedi mynd i Ysgol Gynradd Hirwaun gyda'r Gweinidog ddydd Iau: "Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog Addysg am ymweld â Rhondda Cynon Taf ddydd Iau, i gwrdd â staff a disgyblion o ddwy ysgol sydd wedi elwa o gyfleusterau Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ystod y blynyddoedd diwethaf, diolch i gymorth Llywodraeth Cymru.

"Mae'r ysgolion yn ardal Tonyrefail a Hirwaun yn enghreifftiau gwych o sut mae'r cyllid yma wedi creu amgylchedd dysgu bywiog, sydd o fudd i'r bobl ifainc ac sy'n eu hysgogi nhw bob dydd yn yr ysgol.

“Mae'r datblygiadau yma yn Nhonyrefail a Hirwaun yn ddim ond dau o lawer o brosiectau sydd wedi'u cwblhau ac sy'n mynd rhagddyn nhw i gyflawni Ysgolion yr 21ain Ganrif ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Yr haf yma, dechreuodd y gwaith yn Ysgol Rhydywaun ym Mhen-y-waun ac YGG Aberdâr yng Nghwm Dâr i gyflawni prosiectau gwerth £12.1 miliwn a £4.5 miliwn. Byddan nhw'n darparu cyfleusterau newydd a rhagor o leoedd yn y ddwy ysgol i fodloni'r galw am ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg.

“Mae'r Cyngor hefyd yn symud ymlaen â'r buddsoddiad ar y cyd o fwy na £55 miliwn ledled ardal ehangach Pontypridd, a fydd yn darparu cyfleusterau newydd sbon yng Nghilfynydd, y Ddraenen Wen, Rhydfelen a'r Beddau erbyn 2024. Mae'r Cabinet wedi cytuno'n ddiweddar ar gynlluniau cychwynnol ar gyfer buddsoddiad pellach gwerth £85 miliwn ar gyfer prosiectau sylweddol yn Llanhari, y Cymer, Glyn-coch, Pen-rhys, Llanilltud Faerdref a Thonysguboriau, ynghyd ag ysgol arbennig newydd ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.

“Rydyn ni hefyd yn datblygu prosiectau Model Buddsoddi ar y Cyd trwy lwybr refeniw Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, ac ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn ymgynghori â thrigolion ynghylch y cynlluniau ar gyfer adeiladau ysgol newydd yn Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref ac Ysgol Gynradd Penygawsi erbyn 2023.

“Roedd y cyfleusterau a brwdfrydedd y disgyblion a welodd y Gweinidog yn Nhonyrefail a Hirwaun wedi creu argraff fawr arno ddydd Iau. Dylai'r ddwy ysgol fod yn falch iawn. Hoffwn i hefyd ddiolch i'r penaethiaid a staff ehangach yr ysgol am ein croesawu, ac hefyd am eu hymrwymiad parhaus bob dydd yn wyneb heriau'r pandemig."

Dywedodd Jeremy Miles AS: "Roedd hi'n hyfryd ymweld â'r ddwy ysgol yma yn ardaloedd Tonyrefail a Hirwaun yn Rhondda Cynon Taf.

"Mae ysgolion wrth galon ein cymunedau, ac mae'n wych gweld bod yr ysgolion yma'n darparu amgylchedd dysgu o safon ar gyfer plant oed ysgol, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i bobl o bob oed, o'r ddarpariaeth Dechrau'n Deg ar gyfer plant ifainc i gyfleusterau chwaraeon ar gyfer oedolion.

“Rydw i'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r prosiectau yma yn rhan o'n Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif."

Mae crynodeb o holl brosiectau cyfredol Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â'r rheiny sydd wedi'u cwblhau ers 2011, ar gael yma: www.rctcbc.gov.uk/ysgolion21ainganrif.

Wedi ei bostio ar 05/11/21