Mae cwmni Persimmon Homes wedi ailgyflwyno cynlluniau ar gyfer ysgol gynradd newydd i wasanaethu datblygiad tai Llanilid yn y dyfodol, gan weithio gyda'r Cyngor tuag at ei gyflawni. Bellach, mae modd i drigolion fwrw golwg ar y cynigion a rhoi sylwadau arnyn nhw.
Mae'r cwmni adeiladu tai eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer 1,850 o gartrefi ar hen safle glo brig Llanilid. Dyma gam cyntaf yr hyn sy'n debygol o fod yn ddatblygiad mwy yn y lleoliad yma gan fod potensial i adeiladu o leiaf 3,000 o gartrefi eraill ar y safle. Mae darpariaeth addysg newydd yn cael ei datblygu er mwyn gwasanaethu'r gymuned yma sy'n tyfu.
Ym mis Gorffennaf 2019, ar ôl cynnal ymgynghoriad â'r cyhoedd, cytunodd Aelodau Cabinet y Cyngor ar gynigion ar gyfer ysgol newydd. Cafodd ei gytuno hefyd y byddai'r adeilad newydd yn estyniad o Ysgol Gynradd Dolau i ddechrau, wedi'i reoli gan gorff llywodraethu ac uwch dîm arwain yr ysgol.
Bydd yr ysgol newydd yn cael ei hadeiladu gan gwmni Persimmon Homes, a bydd y costau cyfalaf yn cael eu talu trwy ei gyfrifoldebau Ardoll Seilwaith Cymunedol mewn perthynas â'r datblygiad tai. Felly, fydd dim cost cyfalaf i'r Cyngor. Serch hynny, mae Swyddogion y Cyngor yn parhau i weithio'n agos gyda'r cwmni i sicrhau y caiff yr ysgol ei hagor ar amser.
Bellach, mae modd i drigolion weld y cynlluniau diweddaraf ar gyfer yr ysgol ar borth cynllunio'r Cyngor, drwy'r ddolen yma.
Bydd gyda'r ysgol newydd gyfanswm o 540 o leoedd addysg gynradd – gan gynnwys meithrinfa i 60 o blant – a fydd yn ehangu'r ddarpariaeth addysg drwy'r Gymraeg a'r Saesneg yn ardaloedd Llanharan a Brynna yn sylweddol. Bydd llwybr diogel i gerddwyr yn cysylltu'r adeilad newydd ag adeiladau presennol Ysgol Gynradd Dolau.
Bydd Pwyllgor Cynllunio a Datblygu'r Cyngor yn ystyried cynlluniau'r cwmni tai pan maen nhw'n cael eu cyflwyno'n ffurfiol maes o law. Os caiff caniatâd cynllunio ei gymeradwyo, byddai'r ysgol yn agor erbyn Medi 2024.
Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: “Mae'r Cabinet eisoes wedi cytuno i gymeradwyo’r cynlluniau pwysig ar gyfer ysgol gynradd newydd i 540 o blant, sy'n ofynnol o ganlyniad i ddatblygiad tai mawr cwmni Persimmon Homes sydd wedi'i glustnodi ar gyfer hen safle glo brig Llanilid. Mae'n bosibl y byddai hyd at 5,000 o dai yn cael eu hadeiladu yn y pen draw, sy'n golygu y byddai raid cynyddu'r ddarpariaeth addysg gynradd leol yn sylweddol.
“Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda chwmni Persimmon Homes i gyflawni'r gwaith o adeiladu'r ysgol yn ôl safonau uchel iawn ein rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif. Mae dysgwyr mewn cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol bellach yn mwynhau cyfleusterau modern ac amgylchedd dysgu sy'n eu hysgogi, gan gynnwys y rheiny mewn adeilad ysgol newydd gwerth £10.2 miliwn yn Ysgol Gynradd Hirwaun.
“Yn ddiweddar, mae'r Cabinet hefyd wedi cytuno i'r Cyngor ddatblygu cynigion cychwynnol ymhellach mewn perthynas â rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif, gan ddefnyddio cyllid ychwanegol gwerth £85 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys prosiectau yn Llanhari, Y Cymer, Glyn-coch, Pen-rhys, Llanilltud Faerdref a Thonysguboriau, ynghyd ag ysgol arbennig newydd. Mae hyn yn ychwanegol at y nifer o brosiectau Band B eraill sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Mae gwaith ar ddau o'r prosiectau yma, yn Ysgol Rhydywaun ac YGG Aberdâr, bellach ar y gweill ar y safle.
“Mae llawer o waith pwysig wedi digwydd y tu ôl i'r llenni yn ddiweddar i sicrhau bod modd adeiladu ac agor yr ysgol gynradd yma yn Llanilid, ac mae'n garreg filltir bwysig wrth i'r cwmni adeiladu gyflwyno'i gynlluniau. Mae'n dilyn estyniad i'r cyfnod ymgynghori ag ymgynghorwyr statudol, gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, a gafodd ei gytuno arno gan y Cabinet ym mis Gorffennaf 2021.
“Bellach mae croeso i drigolion weld y cynlluniau, ynghyd â gwybodaeth fanwl bellach, ar wefan y Cyngor. Mae hefyd yn wych gallu gweld darlun arfaethedig o'r ysgol orffenedig. Mae wir yn rhoi syniad i chi o ba mor gyffrous yw'r datblygiad posibl yma. Bydd y Cyngor yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf â thrigolion am gynnydd y cynlluniau, gan gynnwys cam nesaf y broses sef eu trafod yn ffurfiol gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu.”
Wedi ei bostio ar 10/11/21