Mae Carfan Llywio Cabinet Materion Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor wedi derbyn diweddariad ar y cynnydd a'r camau gweithredu sydd wedi bod tuag at y strategaeth Cerbydau Allyriadau Isel Iawn (ULEV) ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Yn y cyfarfod ddydd Mercher, 10 Tachwedd, trafododd y Garfan Llywio adroddiad ynglŷn â'r sefyllfa ddiweddaraf. Cafodd Cenex - sefydliad sy'n arbenigo mewn ymchwil ac ymgynghoriaeth cerbydau allyriadau isel - ei gomisiynu i baratoi'r Strategaeth. Diweddarwyd y strategaeth cyn iddi gael ei thrafod gan y Bwrdd Awdurdod Trafnidiaeth Ranbarthol.
Mae Cenex wedi paratoi Strategaeth ULEV Metro Plus a Strategaeth Dacsi ULEV sydd wedi'u canmol. Mae bellach yn cynnal astudiaeth debyg er mwyn gwneud cynigion ar gyfer newid trafnidiaeth ysgol i drafnidiaeth net-sero. Bydd y camau nesaf yn cynnwys astudiaeth ynglŷn â'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.
Cyngor Merthyr Tudful yw'r prif awdurdod sy'n rheoli'r cyllid ar gyfer y Trawsnewidiad ULEV ar gyfer y Rhanbarth, ac mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn rheoli'r modd y caiff y rhaglen, sydd wedi'i nodi gan yr Awdurdod Trafnidiaeth Ranbarthol, ei darparu.
Yn 2020/21, dyfarnwyd cyllid o tua £3.2miliwn i'r prif awdurdod i brynu'r tacsis trydanol, yn rhan o ddarpariaeth isadeiledd gwefru'r tacsis, partner cyflenwi ULEV, a sesiwn ymgysylltu gyda'r fasnach. Yn 2021/22, dyfarnwyd £4,814,095 pellach i Gyngor Merthyr Tudful ar sail cynnig rhanbarthol a gyflwynwyd i ddarparu'r cynlluniau canlynol erbyn 31 Mawrth 2022:
- Isadeiledd gwefru tacsis – £1.25miliwn.
- Y Rhaglen Beilot Tacsis Allyriadau Isel– £573,594 yn 2021/22.
- ULEV at ddefnydd y cyhoedd (ar y stryd, meysydd parcio a chanolfannau trafnidiaeth) – £2.87miliwn.
- Partner Cyflenwi ULEV – £50,000.
- Sioe deithiol cerbydau trydan – £70,000.
Mae'r adroddiad yn amlineellu'r gwaith sydd wedi digwydd hyd yn hyn yn defnyddio'r cyllid, gan gynnwys:
- Darpariaeth manau gwefru tacsis. Erbyn hyn, mae 34 o fannau gwefru yn cael eu gosod mewn 31 o leoliadau a ddewiswyd gan Awdurdodau Lleol, a bydd 10 o'r lleoliadau yn barod i'w defnyddio erbyn 30 Tachwedd, 2021 a'r 21 o safleoedd eraill i'w cwblhau'n fuan. Dewiswyd SWARCO i wneud y gwaith - mae'r contract yn crybwyll cytundeb consesiwn sy'n cynnwys cynnal a chadw'r manau gwefru a chyflenwi'r consesiwn dros gyfnod o 5 mlynedd gydag opsiwn ymestyn yn flynyddol am 3 blynedd pellach. Mae'r consesiwn yn cynnwys dychwelyd rhan o'r elw at y PRC ar ddiwedd yr ail flwyddyn.
- Darpariaeth UVEP i dacsis - Cynllun Profi Cyn Prynu. Prynodd brosiect peilot 3-blynedd 44 o gerbydau trydan sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn yn 2020/21. Mae 'Days Rental' wedi derbyn y contract i reoli'r cynllun peilot a fydd yn cael ei lansio yn niwrnod rhanbarthol COP26.
- Darpariaeth isadeiledd gwefru at ddefnydd y cyhoedd. Mae 159 o safleoedd wedi'u dewis ar hyd a lled y Rhanbarth ac mae'r broses dyfarnu'r contract eisoes ar waith. Bydd y contract yn cynnwys tua 640 o fanau gwefru deuol 7 a 22KW ar strydoedd, mewn meysydd parcio ac mewn canolfannau trafnidiaeth.
- Darpariaeth isadeiledd gwefru bysiau ULEV Mae 15 o safleoedd wedi'u dewis ar hyd a lled y Rhanbarth a'u costio mewn canolfannau trafnidiaeth.
Mae gwaith pellach eisoes yn digwydd i drafod ymestyn y rhaglen beilot tacsis i gynnwys daroariaeth cerbydau i'w llogi'n breifat. Mae cynllun peilot tebyg hefyd yn cael ei ddatblygu ar gyfer rhaglen clwb ceir rhanbarthol.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Hyrwyddwr Materion Newid yn yr Hinsawdd Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Derbyniodd aelodau Carfan Llywio’r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd Cyngor ddiweddariad hynod o ddefnyddiol yng nghyfarfod ddydd Mercher. Roedd y diweddariad yn rhoi manylion sefyllfa'r Strategaeth ULEV ar draws 10 Ardal Awdurdod Lleol yn De Ddwyrain Cymru, ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd.
"Mae'r diweddariad yn dangos y gwaith sy'n digwydd eleni yn defnyddio £4.8 miliwn o Gronfa Drawsnewid ULEV. Mae'r gwaith yn amrywio o osod manau gwefru tacsis, i ddewis safleoedd i'w defnyddio gan y cyhoedd a bysiau yn y dyfodol. Mae'r cyllid yno i roi cymorth i Lywodraeth Cymru wrth drawsnewid y rhwydwaith trafnidiaeth i ULEV a chyrraedd y targed dim allyriadau gan fysiau a thacsis erbyn 2028.
“Roedd yr adroddiad yma ynghylch Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn un nifer a gafodd eu trafod gan y Garfan Llywio ddydd Mercher. Edrychodd adroddiad ar wahân i'r cyfarfod ar sut mae'r Cyngor yn datblygu strategaeth ar gyfer Gwefru Cerbydau Trydan yn Rhondda Cynon Taf yn rhan o'i ymrwymiad i faterion newid yn yr hinsawdd.”
Wedi ei bostio ar 12/11/2021