Skip to main content

Gwelliannau i dir y cyhoedd yng Nghanol Tref Aberpennar

Public realm improvements have been delivered at Rhos Square in Mountain Ash

Mae'r Cyngor wedi cwblhau cyfres o welliannau yn y maes parcio sy gyfagos â Sgwâr Rhos, Aberpennar. Mae'r gwaith wedi cynyddu nifer y lleoedd parcio yng nghanol y dref ac wedi gwella gwedd gyffredinol yr ardal.

Dechreuodd y prosiect yn gynt eleni yn rhan o gynlluniau gwella Sgwâr Rhos, neu Sgwâr Guto fel mae'r bobl leol yn ei alw. Roedd y cynlluniau yn rhan o'r Fframwaith Adfywio Canol Tref Aberpennar ehangach. Roedd y cynlluniau wedi'u cefnogi gan gronfa Llywodraeth Cymru trwy'r Grant Adfywio Trawsnewid Trefi Wedi COVID.

Er mwyn trawsnewid yr ardal, roedd rhaid dymchwel dau adeilad (37 a 39 Stryd Rhydychen) yn ogystal â'r darn o dir diffaith wrth y toiledau i'r cyhoedd. Mae'r gwaith dymchwel yma wedi golygu bod modd cynyddu nifer y lleoedd parcio ym Maes Parcio Gogledd Stryd Henry trwy ddarparu mannau parcio arhosiad byr ac anabl ychwanegol.

Mae'r gwaith ehangach wedi cynnwys tirlunio a gweithio ar y wal gynnal yn y lleoliad. Rydyn ni hefyd wedi creu mynedfa newydd i Neuadd y Gweithwyr. Mae canopi wedi'i osod ym mynedfa'r adeilad. Roedd y gwaith yn cynnwys gosod socedi pŵer trydanol ar Sgwâr Guto er mwyn bod modd cynnal achlysuron yng nghanol y dref a'r farchnad wythnosol.

Daeth gwaith y prif gynllun i ben ddydd Sul, 14 Tachwedd ond mae'n bosib bydd pobl sy'n ymweld â chanol y dref yn sylwi ar ychydig o waith ychwanegol yn digwydd yno.

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: "Rwy'n hapus iawn bod y gwaith yma yn Sgwâr Guto, Aberpennar wedi'i gwblhau. Rydyn ni wedi gweld yr ardal yn trawsnewid dros yr wythnosau a misoedd diwethaf. Rydyn ni wedi dymchwel dau adeilad gwâg a chael gwared ar ardal ddiffaith o dir, gan ein galluogi i ymestyn y maes parcio a chyflawni nifer o welliannau eraill.

“Bwriad y gwaith ar Sgwâr Guto oedd gwella gwedd canol y dref a sicrhau bod modd defnyddio'r ardal ar gyfer achlysuron yn y dyfodol a'r farchnad wythnosol. Mae modd parcio am ddim yn Aberpennar ac mae modd defnyddio'r mannau ychwanegol ym Maes Parcio Gogledd Stryd Henry yn ogystal â phob un o feysydd parcio eraill y Cyngor yn y dref.

“Mae prosiect Sgwâr Guto yn rhan o Fframwaith Adfywio Canol Tref Aberpennar ehangach y Cyngor, yn ogystal â sawl prosiect mawr arall gan gynnwys Hwb yn y Gymuned, Canolfan Pennar sydd wedi bod yn hynod o fuddiol ers agor yn 2019. Mae'r Ganolfan Gofal Sylfaenol newydd, ac ailddatblygiad adeiladau 1-4 Stryd Rhydychen hefyd yn brosiectau sy'n rhan o'r Fframwaith.

"Hoffwn ddiolch i'r trigolion, ymwelwyr canol y dref a'r busnesau lleol am eu hamynedd a chydweithrediad wrth inni gynnal y gwaith er mwyn cyflawni'r gwelliannau pwysig yma gyda chymorth Llywodraeth Cymru."

Wedi ei bostio ar 17/11/2021