Skip to main content

Marc Ansawdd wedi'i ddyfarnu i Wasanaeth Ieuenctid y Cyngor

Mae'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru wedi'i ddyfarnu i Wasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) y Cyngor.

Mae'r Marc Ansawdd yn dathlu'r ystod o fathau o ddarpariaeth a sut maen nhw'n cael eu cyflenwi. Mae'r Wobr Efydd a gafodd ei chyflwyno i'r Gwasanaeth yn cydnabod ei waith o ran rheoli cyflawniad, ansawdd ymarfer ei waith gyda phobl ifainc a'u dysg a'u datblygiad.

Bob blwyddyn, mae'r Gwasanaeth yn cefnogi dros 10,000 o bobl ifainc rhwng 11 a 25 oed sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf i wella eu lles a'u cydnerthedd trwy gefnogaeth uniongyrchol a gwaith grŵp. Mae'r Gwasanaeth hefyd yn cynnig ystod o ddarpariaeth i bobl ifainc, gan gynnwys clybiau ar ôl ysgol, yn ystod gwyliau'r ysgol a gyda'r nos drwy gynnal clybiau ieuenctid a gwaith gyda phobl ifainc ar y stryd.

Mae'r Gwasanaeth yn helpu pobl ifainc i ddod o hyd i leoliadau addysg, cyflogaeth a hyfforddiant addas, yn sicrhau bod gyda nhw fynediad at wybodaeth, cyngor ac arweiniad dibynadwy, ynghyd â hyrwyddo eu hawliau a'u galluogi i ddod yn aelodau gweithgar o'u cymuned.

Meddai'rCynghorydd Christina Leyshon, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Plant: “Rwy’n falch iawn bod Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid y Cyngor wedi ennill y Marc Ansawdd, sydd wedi'i gysylltu'n uniongyrchol â'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.

“Mae’n cydnabod yr holl waith gwaith y mae'r Gwasanaeth yn ei wneud, yn enwedig yn ystod y deunaw mis diwethaf, sydd wedi bod mor anodd i ni i gyd.

“Mae'r Gwasanaeth yn darparu cefnogaeth amhrisiadwy i nifer fawr o bobl drwy'r flwyddyn, gan gyrraedd miloedd o bobl ifainc sy'n byw yn ein Bwrdeistref Sirol. Daeth gwaith y Gwasanaeth hyd yn oed yn bwysicach pan gaeodd clybiau ieuenctid ac ysgolion, ond roedd ei ymateb yn wych. Aeth ati i ddarparu cefnogaeth, cyngor ac arweiniad gwerthfawr, yn ogystal ag adloniant.

Mae'r Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru yn darparu fframwaith ar gyfer sicrhau ansawdd. Ei nod yw darparu cymorth, gan helpu â gwaith datblygu i roi cyfleoedd i sefydliadau gwaith ieuenctid fel y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid fynegi, asesu a gwella ei waith o fewn fframwaith â strwythur.

Mae'r Gwasanaeth bellach yn gweithio tuag at ennill y Wobr Arian.

Wedi ei bostio ar 08/11/21