Skip to main content

Cynnydd sylweddol o ran Bioamrywiaeth yn RhCT

Mae bioamrywiaeth wedi dod yn rhan sylfaenol ac allweddol o'r hyn rydyn ni'n ei wneud  i leihau ein hôl troed carbon wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Y newyddion gwych yw bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud ledled Rhondda Cynon Taf er mwyn annog, gwella a datblygu bioamrywiaeth yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae adroddiad manwl, a gyflwynwyd i Grŵp Llywio ar Faterion yr Hinsawdd (CCSG) Cyngor RhCT, yn amlinellu sut mae'r newidiadau wedi gwneud gwahaniaeth yn lleol a sut maen nhw wedi arwain at ddarganfod poblogaeth heb ei darganfod o'r blaen o lygod pengron y dŵr. Dyma un o famaliaid mwyaf prin Cymru ac maen nhw i'w gweld yn ffynnu yng nghynefinoedd ucheldiroedd gwlyb RhCT – diolch i brosiect 'Mawndiroedd Coll'. Mae'r prosiect yn bartneriaeth rhwng Cyngor RhCT a Chyngor Castell-nedd Port Talbot, wedi'i ariannu gan gais llwyddiannus i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Roedd gostyngiad difrifol ym mhoblogaeth llygod pengron y dŵr yn eu hardaloedd arferol, sef iseldiroedd, o ganlyniad i golli cynefinoedd a chael eu hela gan fincod.

Mae prosiect wedi'i ariannu gan Bartneriaeth Natur Leol hefyd wedi bod yn olrhain patrymau ymfudo gweilch y nos, rhywogaeth brin arall sy'n nythu yn RhCT. Mae gwerth mawndiroedd ar gyfer storio dŵr a charbon wedi'i gydnabod yn fwy eang yn ddiweddar, ac mae gan y prosiect yma botensial i ddangos esiampl o ran adfer mawnogydd yn RhCT ac yn fwy eang.

Mae hyn oll yn ychwanegol at bolisi rheoli glaswellt y Cyngor sy'n bwriadu annog blodau gwyllt i dyfu a denu peilliadau.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol, a'r Hyrwyddwr Materion Newid yn yr Hinsawdd:

“Fel Cyngor rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein mannau gwyrdd ac i storio carbon drwy ddefnyddio dulliau naturiol, megis y rheiny sy'n ymwneud â choed, mawnogydd, glaswelltir corsiog a chynefinoedd naturiol eraill ledled y Fwrdeistref Sirol i wella ansawdd aer a lleihau effaith nwyon tŷ gwydr.

“Trwy waith swyddogion y Cyngor a phenderfyniadau'r Grŵp Llywio ar Faterion yr Hinsawdd (CCSG), rydyn ni'n gobeithio y bydd modd i ni wneud gwahaniaeth yn lleol, ac yn fyd-eang. Bydd pob newid syml rydyn ni i gyd yn ei wneud yn gwneud gwahaniaeth mawr o ran ein cynllun i ddod yn Gyngor ac yn Fwrdeistref Sirol Carbon Niwtral erbyn 2030.”

Mae Partneriaeth Natur Leol RhCT wedi sicrhau buddsoddiad o dros £232,000 i gynnwys y gwaith canlynol:

  • Gwella natur ar o leiaf 70 hectar o ddolydd blodau gwyllt, gwlyptiroedd, mannau agored ac ymylon gwair gan gynnwys 10 hectar o laswelltiroedd, sy'n fach ar y cyfan, glaswelltiroedd trefol neu rai wrth y ffordd sy'n fwy anodd eu cyrraedd gyda pheiriannau traddodiadol.
  • Plannu 350 o goed.
  • Rheoli 210 hectar o laswelltir â blodau gwyllt.
  • Ystafelloedd Dosbarth â Tho Gwyrdd; cynnal 8 ystafell ddosbarth â tho gwyrdd ar safleoedd ysgolion sydd heb fawr o natur neu sydd heb fynediad o gwbl ati.
  • Gadael i Natur Dyfu; Man tyfu cymunedol ym Mharc Coffa Ynysangharad a pheiriant torri a chasglu i ehangu prosiect y llynedd.

Mae'r gronfa yma wedi chwarae rôl sylweddol wrth alluogi RhCT i gyflawni ei bolisi rheoli glaswelltir blodau gwyllt trwy brynu dau beiriant torri a chasglu Amazone dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae hyn wedi golygu bod rhagor o ymylon a mannau glaswelltir wedi'u hychwanegu at y rhestr o safleoedd ar gyfer tyfu blodau gwyllt. Mae'r offer llai yn ychwanegol at beiriant a brynwyd trwy gyllid grant sawl blynedd yn ôl. Prynwyd a phlannwyd dros 300 o goed yn ein parciau, mynwentydd a meysydd chwaraeon ledled RhCT yn 2020. Yn ogystal â hyn, mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar brosiect gardd gymunedol ym Mharc Coffa Ynysangharad ac ar ystafelloedd awyr agored â tho gwyrdd ar gyfer ysgolion heb fawr o fynediad at fannau gwyrdd.

Mae Cabinet y Cyngor wedi dangos ei ymrwymiad trwy gymeradwyo amlinelliad peilot 29 safle yn ddiweddar ar gyfer prosiect 'Living Landscapes'  yn Rhondda Cynon Taf. Mae tirweddau bioamrywiol helaeth RhCT yn ganolbwynt i'r cyfan, ac mae pobl leol yn eu gwerthfawrogi nhw. Maen nhw'n rhan hanfodol o'n hymdeimlad o ddiwylliant, lle a chymuned. Bydd y prosiect yn dangos y potensial am fesurau rheoli tir cynaliadwy gyda chyfranogiad y gymuned. Bydd y peilot cymeradwy yn galluogi'r Bartneriaeth Natur Leol i gynnwys grwpiau diddordeb lleol a chyrff anllywodraethol Gwarchod Natur gwirfoddol mewn prosiectau ymarferol a phrosiectau yn y dyfodol.

Amcan cyffredinol y peilot yw dangos bod modd rheoli tir sy'n eiddo i'r Cyngor mewn ffordd gynaliadwy yn y tymor hir, a hynny ar y cyd â grwpiau cymunedol, yn ogystal â sicrhau buddion o ran bioamrywiaeth, rheoli'r dŵr, gwarchod pridd a storio carbon i fynd i'r afael â'r hinsawdd ac argyfyngau bioamrywiaeth. Os bydd y dull yn llwyddiannus, bydd modd ychwanegu safleoedd eraill at y rhwydwaith wrth i adnoddau ddod ar gael.

Mae bioamrywiaeth wedi dod yn rhan bwysig a thrawsbynciol o waith Cyngor RhCT. Am ragor o wybodaeth am Fioamrywiaeth yn RhCT, ewch i'r dudalen we benodol, yma: https://www.rctcbc.gov.uk/BioamrywiaethRhCT.

Wedi ei bostio ar 08/11/2021