Skip to main content

Cefnogi Wythnos Gwrth-fwlio

One Kind Word Anti-Bullying Week Poster

Mae'r Cyngor unwaith eto'n cefnogi Wythnos Gwrth-fwlio 2021: Un Gair Caredig (15–19 Tachwedd).

Wedi'i chydlynu yng Nghymru a Lloegr gan y Gynghrair Gwrth-fwlio, mae'r fenter wythnos o hyd sydd â'r nod o godi ymwybyddiaeth a dileu pob math o fwlio, yn dechrau gyda Diwrnod Sanau Od ddydd Llun, 15 Tachwedd.

Prif thema Wythnos Gwrth-fwlio eleni yw 'Un Gair Caredig' a'i nod yw codi ymwybyddiaeth ymysg plant am faterion bwlio, yn enwedig yn eu cymdogaeth neu eu cymunedau ysgol eu hunain.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol:

“Fyddwn ni ddim yn goddef bwlio o unrhyw fath yn ein cymdeithas – boed hynny gartref, yn y gweithle, yn ein hysgolion nac ar ein strydoedd. Mae angen i bawb deimlo'n ddiogel, ble bynnag maen nhw.

“Mae unigedd y flwyddyn ddiwethaf wedi gwneud i bob un ohonon ni feddwl sut y gall hyd yn oed y weithred leiaf o garedigrwydd neu ystyriaeth wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pobl.”

Yn dilyn llwyddiant Wythnos Gwrth-fwlio 2020, pan aeth 80% o ysgolion yng Nghymru a Lloegr ati i godi ymwybyddiaeth am y mater drwy'r ymgyrch ,gofynnodd y Gynghrair Gwrth-fwlio i'r cyhoedd beth oedden nhw am ei weld yn ystod Wythnos Gwrth-fwlio eleni. Yr ymateb ysgubol oedd eu bod am i Wythnos Gwrth-fwlio 2021 ganolbwyntio ar obaith, positifrwydd a'r pethau caredig y mae modd i ni i gyd eu gwneud i atal ymddygiad niweidiol yn y fan a'r lle.

Er ei bod yn hwyl gwisgo sanau od, mae neges ddifrifol y tu ôl i Ddiwrnod Sanau Odd, ddydd Llun, 15 Tachwedd. Mae gwisgo sanau od yn dangos ein bod ni i gyd yn unigryw ac yn wahanol. Felly, byddwch yn garedig â'ch gilydd a pharchu bod pob un ohonon ni'n unigolyn. Mewn byd sy'n teimlo ei fod yn llawn pethau negyddol weithiau, mae modd i un gair caredig greu llygedyn o obaith. Gall fod yn drobwynt. Gall newid persbectif rhywun. Gall newid eu diwrnod. Gall newid trywydd y sgwrs a thorri cylch dieflig y bwlio.

Fydd bwlio ddim yn cael ei oddef yn Rhondda Cynon Taf, yn enwedig yn ein hysgolion. Mae gyda'r Cyngor Bolisi a Chanllawiau Gwrth-fwlio ar gyfer Ysgolion.

Cyngor Rhondda Cynon Taf: Polisi a Chanllawiau Gwrth-fwlio ar gyfer Ysgolion

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sy'n gweithio'n agos gyda Heddlu De Cymru, yn cadarnhau'r hawl i bob plentyn fod yn ddiogel i ddysgu ac i ddatblygu perthynas iach ag eraill. Mae angen sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu diogelu ac mae angen rhoi cymorth i fwlis i newid eu hymddygiad a chael cyfle i ddiwallu unrhyw anghenion emosiynol sylfaenol.

Canllawiau Llywodraeth Cymru: Herio Bwlio 

Cefnogwch Wythnos Gwrth-fwlio 2021 os gwelwch yn dda: Un Gair Caredig

Cofiwch –mae un gair caredig yn esgor ar un arall. Byddwch yn garedig i rywun a byddan nhw'n garedig yn ôl. Felly o'r maes chwarae i'r dafarn, os ydych chi ar y ffôn neu yn y tŷ, gyda'n gilydd mae modd i'r hyn rydyn ni'n ei wneud gynnau fflam positifrwydd.

Mae'n dechrau gydag un gair caredig. Mae'n dechrau heddiw.

#WythnosGwrthFwlio

Wedi ei bostio ar 17/11/21