Roedd y staff a'r disgyblion ar ben eu digon pan alwodd y gofodwr, yr Uwchgapten Tim Peake, heibio i Ysgol Gynradd Gwaunmeisgyn.
Roedd Tim, ac yntau'n gyn-beilot Apache, hyfforddwr hedfan a pheilot prawf ac ar hyn o bryd yn ofodwr gydag Asiantaeth Ofod Ewrop, wedi derbyn llythyr gan yr ysgol, yn dweud wrtho am ei phrosiect newydd cyffrous.
Er syndod y disgyblion ifainc yn Ysgol Gwaunmeisgyn, penderfynodd alw heibio yn ystod ei ymweliad â Chymru yr wythnos yma, yn rhan o'i daith o'r DU o'r enw 'My Journey To Space'.
Roedd Sarah Dyer, sy'n athrawes yn yr ysgol, wedi anfon llythyr at yr Uwchgapten Tim Peake i ddweud wrtho am eu prosiect newydd ar 'Y Gofod' gan ei wahodd i alw heibio pryd bynnag roedd e yn y cyffiniau.
Ar ôl darllen y llythyr ac yn dilyn ei sioe yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd y noson flaenorol, a chyn mynd i'w leoliad nesaf, sef Neuadd Brangwyn yn Abertawe, aeth yr Uwchgapten Tim Peake allan o'i ffordd ychydig i ymweld â'r ysgol.
Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant:
“Mae’n hyfryd bod yr Uwchgapten Tim Peake wedi cymryd yr amser i ymweld â'r disgyblion ifainc yn Ysgol Gynradd Gwaunmeisgyn, sydd ar fin dechrau eu prosiect ysgol newydd ar thema’r Gofod.
“Mae cael gofodwr go iawn yn galw heibio i ddweud helo yn ffordd wych o ddechrau eu prosiect newydd. Rwy’n siŵr y bydd gyda nhw ddigon i ysgrifennu a siarad amdano am amser maith.”
Ac yntau'n gyn-filwr gyda 18 mlynedd o wasanaeth milwrol, mae'r Uwchgapten Tim Peake wedi hedfan dros 3,000 awr ar ymgyrchoedd ledled y byd. Ym mis Rhagfyr 2015, ef oedd y gofodwr cyntaf o Brydain i ymweld â'r Orsaf Ofod Ryngwladol ac i gerdded yn y gofod yn ystod ei daith chwe mis. Yn ystod ei amser yn y gofod, cymerodd ran hefyd ym Marathon Llundain ar felin draed yr ISS cyn dychwelyd i'r Ddaear ar 18 Mehefin 2016.
Oherwydd ei daith, cymerodd mwy na dwy filiwn o ddisgyblion/myfyrwyr ran mewn gweithgareddau allanol. Mae'n llysgennad dros Addysg STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg), Ymddiriedolaeth y Tywysog a Chymdeithas y Sgowtiaid a bellach yn awdur llwyddiannus gyda'i hunangofiant Limitless. Mae e hefyd yn denu cynulleidfaoedd helaeth i theatrau ledled y wlad gyda'i daith gyntaf erioed.
Meddai Andrew Llewelyn, pennaeth Ysgol Gynradd Gwaunmeisgyn,
“Roedd hi'n bleser ac yn fraint enfawr i groesawu’r Uwchgapten Tim Peake i’n hysgol ar ei ymweliad annisgwyl. Mae'n ddiwrnod y bydd ein disgyblion a'n staff yn ei gofio am weddill eu hoes – nid bob dydd mae gofodwr go iawn yn dod i'n hysgol!
“Mae'n ysbrydoliaeth wirioneddol i lawer ac roedd ddiddordeb mawr gydag ef yn ein Prosiect Gofod. Rydyn ni'n diolch iddo'n ddiffuant am gymryd yr amser allan o'i amserlen brysur i alw heibio i'n gweld ni i gyd. "
Wedi ei bostio ar 18/11/21