Skip to main content

Gwaith trwsio'r Bont Wen i baratoi ar gyfer y prif gynllun yr haf nesaf

White Bridge (Berw Road Bridge) in Pontypridd - upcoming trial works from November 15

Bydd trigolion a phobl sy'n defnyddio'r ffordd yn sylwi ar waith ar y Bont Wen (Pont Heol Berw) ym Mhontypridd wythnos nesaf. Bydd gweithwyr yn paratoi safle gwaith yno yn barod ar gyfer gwaith trwsio concrit yn ystod y dydd dros gyfnod o bythefnos yn dechrau 15 Tachwedd.

Agorodd y bont i fodurwyr, beicwyr a cherddwyr ym mis Medi yn dilyn gwaith trwsio cychwynnol wedi difrod a achoswyd yn ystod Storm Dennis. Mae asesiadau o strwythur y bont yn cadarnhau bod y bont yn gallu dal llwythau tebyg i'r rheiny y cariodd cyn difrod y storm (7.5T).

Pan ailagorwyd y bont, dywedodd y Cyngor yn glir y byddai angen gwaith trwsio pellach ar y prif strwythur er mwyn llywio'r prif gynllun trwsio ar gyfer haf 2022. Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos â Cadw wrth gwblhau'r gwaith er mwyn diogelu dyfodol y bont.

Bydd y gwaith trwsio yn digwydd ym mis Tachwedd a bydd paratoadau yn dechrau ddydd Llun 8 Tachwedd. Bydd y paratoadau yn cynnwys sefydlu mynediad gwaith i'r strywthur oddi ar Heol Berw a sefydlu safle ar gyfer y peiriannau/offer.

Bydd y gwaith trwsio yn dechrau ddydd Llun 15 Tachwedd,. Bydd raid cau'r bont i fodurwyr a beicwyr ond bydd mynediad i gerddwyr yn parhau. Bydd y gwaith yn digwydd yn ystod oriau'r dydd yn ystod yr wythnos felly ni fydd mynediad i draffig rhwng 9.30am a 3.00pm dydd Llun i ddydd Gwener (am 10 diwrnod) hyd at 26 Tachwedd.

Mae'r Cyngor wrthi'n paratoi'r manylion ar hyn o bryd. Mae'n bosib bydd angen cau lôn ar Y Rhodfa/The Parade er mwyn sefydlu'r safle ar gyfer y peiriannau/offer. Byddwn ni'n rhannu manylion gyda thrigolion lleol unwaith y bydd y manylion wedi'u cadarnhau.Hoffai'r Cyngor ddiolch i'r trigolion am eu cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 04/11/2021