Skip to main content

Arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain

Battle of Britain Exhibition

Mae 'Arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain' swyddogol yr Awyrlu Brenhinol yn cael ei chynnal gan Gyngor Rhondda Cynon Taf yn ei adeilad Llys Cadwyn ym Mhontypridd yr wythnos yma.

Cafodd yr arddangosfa ei hagor yn swyddogol ddydd Llun (15 Tachwedd) gan y Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, a Chomodor yr Awyrlu Brenhinol yng Nghymru, Adrian Williams OBE.

Mae Arddangosfa Cymru a Brwydr Prydain sydd wedi'i threfnu i ddathlu pen-blwydd y frwydr yn 80 oed ar agor bob dydd yn Llys Cadwyn, Stryd Taf, Pontypridd, tan 1pm ddydd Sadwrn, 20 Tachwedd. Mynediad AM DDIM

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: “Rwy’n falch iawn bod modd i ni gynnal yr arddangosfa yma yn ein Bwrdeistref Sirol. Bydd modd i drigolion o bob oed ddysgu rhagor am yr hyn a ddigwyddodd uwch ein pennau dros 80 o flynyddoedd yn ôl, i dalu teyrnged i'r rheiny a fu farw a dangos eu parch i'r rheiny a ddaeth adref i'w teuluoedd yn y pen draw. 

“Roedd Brwydr Prydain, y frwydr awyr fwyaf erioed, yn foment holl bwysig yn ein hanes. Roedd yn drobwynt yn yr Ail Ryfel Byd pan safodd Prydain ar ei phen ei hun yn erbyn pŵer milwrol di-droi'n ôl Hitler. 

“Bydd yr arddangosfa yma'n gyfle perffaith i lawer o bobl Rhondda Cynon Taf gofio arwriaeth yr ychydig a frwydrodd ar ran pawb.” 

Er y bydd yr arddangosfa yn coffáu pawb a oedd yn rhan o'r Frwydr, bydd yn canolbwyntio'n bennaf ar yr awyrlu o Gymru, gan adrodd straeon am ei arwriaeth i gynulleidfa Cymru heddiw. 

MeddaiComodor yr Awyrlu Adrian Williams, Uchel Swyddog yr Awyrlu Brenhinol yng Nghymru,: “Rwy’n falch iawn bod yr arddangosfa yn cael ei chynnal ym Mhontypridd. Bydd yn adrodd hanes Brwydr Prydain o safbwynt Cymru – hanes na chafodd ei adrodd erioed o'r blaen.

“Hoffwn i ddiolch i Gyngor Rhondda Cynon Taf am ein croesawu a gobeithio bod yr holl ymwelwyr yn cael profiad cofiadwy yn yr Arddangosfa.

Yn ystod haf 1940, roedd pobl Prydain yn paratoi eu hunain am ymosodiad milwrol gan yr Almaen, ond yn gyntaf, roedd rhaid i Hitler feddiannu'r awyr. 

Lansiodd y Luftwaffe, a oedd yn cynnwys 2,600 o awyrennau, ymosodiad ar raddfa fawr. Ei fwriad oedd cael gwared ar amddiffynfeydd awyr Prydain, sef 640 o awyrennau Rheolaeth Awyrennau Ymladd y Llu Awyr Brenhinol. 

Amddiffynnodd peilotiaid yr Awyrlu Brenhinol, a ddaeth yn adnabyddus fel 'Yr Ychydig', y wlad yn erbyn ton ar ôl ton o awyrennau ymladd a bomio'r Almaen, gan anfon neges glir at y gelyn na fyddai Prydain byth yn ildio. Roedd 3,000 o beilotiaid yn rhan o Reolaeth Awyrennau Ymladd y Llu Awyr Brenhinol. Ar gyfartaledd, roedden nhw'n 20 oed ac roedd pedwar ohonyn nhw'n byw yn Rhondda Cynon Taf. 

Er bod gan yr Almaen fwy o awyrennau na Rheolaeth Awyrennau Ymladd y Llu Awyr Brenhinol ym mis Gorffennaf 1940, aeth Prydain ati i gynyddu cynhyrchiant yn y ffatrïoedd. Erbyn mis Hydref 1940, roedd maint y Rheolaeth Awyrennau Ymladd yn fwy na'r Luftwaffe. Collodd 17 o'r 68 o beilotiaid o Gymru eu bywydau yn ystod Brwydr Prydain.

Wedi ei bostio ar 18/11/21