Skip to main content

Cyn-filwr Rhyfel Ynysoedd Falkland yn Canmol Cymorth y Cyngor

Paul-Bromwell

Mae Gwasanaeth i Gyn-filwyr y Cyngor ar gael i gynnig help a chymorth i'r sawl sydd eu hangen fwyaf.  Dyma'r pwynt cyswllt cyntaf i lawer o gyn-filwyr a'u teuluoedd sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf.

Roedd Paul Bromwell, Prif Weithredwr Valley Veterans, yn gwasanaethu yn y Gwarchodlu Cymreig ac mae'n effro iawn i'r effeithiau difrifol o ddychwelyd i fywyd sifil ar ôl gadael y gwasanaethau.

Yn byw yn y Rhondda, dywedodd nad oedd unrhyw gymorth proffesiynol ar gael iddo pan ddychwelodd o Ryfel Ynysoedd Falkland yn yr 1980au ac ers hynny mae wedi dioddef gydag Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD) yn dilyn ei gyfnod yn y Lluoedd Arfog. Mae bellach yn gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Cyn-filwyr Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: “Mae’n bwysig bod pob un o’n cyn-filwyr o bob oed yn gwybod bod Gwasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor yno i gynnig help, cymorth ac arweiniad iddyn nhw pan maen nhw ei angen.

“Mawr yw'n dyled ni i'r Lluoedd Arfog, yn y gorffennol a heddiw. Fyddwn ni byth yn anghofio'r aberth maen nhw wedi'i wneud, ac yn parhau i'w wneud.”

Cymorth i'n Lluoedd Arfog

Meddai Paul Bromwell, enillydd Gwobrau cyntaf Pobl Aneurin Bevan y GIG: “Gan fy mod i'n gyn-filwr yn byw yn Rhondda Cynon Taf, rwy’n teimlo mor ffodus heddiw i gael cymorth gan Wasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor. Mae'n gysur gwybod bod gyda ni gyn-filwyr gymorth mor anhygoel y tu ôl i ni.

“Y Cyngor oedd un o'r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i gytuno i Gyfamod y Lluoedd Arfog. Fe osododd hyn y safon i weddill Cymru ei dilyn, ac am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd rwy'n gwybod bod cymorth ar gael i fi ac i aelodau'r grŵp.

“Mae’r cymorth rwy'n ei gael gan Wasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor yn anhygoel. Mae cymaint o help ar gael y dyddiau hyn, ond mae angen i chi wybod ble i droi i gael yr help hwnnw.

“Nid dim ond cyn-filwyr hŷn sy'n rhan o Valley Veterans. Mae nifer o'n haelodau wedi gwasanaethu yn Afghanistan, Irac ac Ynysoedd Falkland. Dynion iau sydd wedi dychwelyd i fywyd sifil ac wedi'u heffeithio gan eu cyfnod yn y gwasanaeth.

“Pan wnes i wasanaethu yn ystod Rhyfel Ynysoedd Falkland, collais 48 o ffrindiau da mewn un digwyddiad ofnadwy. Ni feddyliais erioed y byddai digwyddiadau'r diwrnod hwnnw'n effeithio arnaf gymaint ag y gwnaethant.

“Cefais i drafferth fawr pan ddychwelais i fywyd sifil. Roeddwn i'n dioddef yn dilyn fy mhrofiadau - dim ond 18 oed oeddwn i ar y pryd ac roeddwn i'n gweithio y tu ôl i linellau'r gelyn. Yn sydyn, cyn pen dim, doedd y ffrindiau roeddwn i wedi gwasanaethu gyda nhw ddim yno mwyach.

“Pan fyddwn i'n mynd am dro yn ôl adref, byddwn i'n gweld dynion ifanc yr un oed â fi yn cicio pêl yn y parc, heb unrhyw bryderon. Ond yn fy mhen, roeddwn i'n dal mewn rhyfel a chymerodd amser hir i mi ddelio â hynny.”

Mae Valley Veterans, sydd wedi'i leoli yn Rhondda Cynon Taf, yn sefydliad sydd wedi’i arwain gan gyn-filwyr gyda chymorth gan y Cyngor. Cafodd ei sefydlu dros 10 mlynedd yn ôl yn grŵp cymorth anffurfiol ar gyfer y sawl a oedd yn dioddef o PTSD. Bellach mae'n ganolbwynt bywiog yn y gymuned gyda mwy na 140 o bobl yn cymryd rhan weithredol. Mae'r grŵp yn cynnal Clwb Brecwast y Lluoedd Arfog bob dydd Iau, gan ddenu hyd at 60 o gyn-filwyr bob wythnos.

Roedd Gwobrau cyntaf Pobl Aneurin Bevan y GIG yn cydnabod ac yn dathlu gwaith yr holl arwyr di-glod hynny sy'n cael effaith enfawr ar gymunedau ledled Cymru, a dywedodd Mr Bromwell ei fod yn anrhydedd ac yn falch iawn o dderbyn y wobr.

I gael rhagor o wybodaeth am Valley Veterans, anfonwch e-bost i   enquiries@valleyveterans.org neu ffoniwch 07733 896 128.

Wedi ei bostio ar 26/10/21