*WEDI'I DDIWEDDARU AR 27/10/21: Yn anffodus, dyw contractwr y Cyngor ddim wedi cwblhau'r gwaith yn ôl yr amserlen. Felly, bydd y ffyrdd ar gau o hyd tan ddydd Iau, 28/10, a bydd yr un trefniadau ar waith (gweler isod)
Mae'r Cyngor yn rhoi gwybod i drigolion a defnyddwyr y ffordd o'r gwaith adfer yn Heol Meisgyn, Aberpennar, sy hefyd yn gofyn am gau'r Ffordd Gyswllt yn ystod y dydd. Mae'r gwaith wedi'i drefnu ar gyfer gwyliau’r hanner tymor er mwyn creu cyn lleied o anghyfleustra â phosibl.
Agorodd y Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm yn Aberpennar i fodurwyr, beicwyr a cherddwyr ym mis Hydref 2020, wrth i'r Cyngor gyflawni'r ffordd gyswllt newydd gwerth miliynau o bunnoedd sydd wedi gwella llif traffig yn sylweddol mewn cymunedau lleol.
Bellach mae angen cyflawni cyfres o waith dilynol er mwyn cywiro diffygion yn Heol Meisgyn – gan gynnwys gosod wyneb newydd ar rannau o'r ffordd gerbydau, atgyweirio'r siambr archwilio ac ymylon pafin, ac atgyweirio draeniau'r bont. Bydd y gwaith yn cael ei gynnal gan gontractwr y Cyngor ar gyfer y cynllun cyffredinol, Walters-Sisk – heb unrhyw gost i'r Cyngor.
O ganlyniad, bydd y darn dwyffordd newydd o Heol Meisgyn a'r Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm ar gau o ddydd Llun, 25 Hydref (rhwng 9am a 4.30pm), am oddeutu 3 diwrnod. Mae'r cyfnod cau angenrheidiol wedi'i drefnu yn ystod gwyliau’r ysgol, a thu allan i'r oriau brig, er mwyn creu cyn lleied o anghyfleustra â phosibl.
Bydd llwybr arall i fodurwyr o Heol Meisgyn ar hyd Stryd Rhydychen, Stryd y Fasnach, Stryd Fawr, Heol Llanwynno, Teras y Ddraenen Wen, Stryd Morgannwg, Heol Abercynon a Heol Penrhiwceibr.
O ochr arall y ffordd sydd ar gau, ewch ymlaen ar hyd Ffordd Penrhiwceibr, Heol Abercynon, Stryd Morgannwg, Teras y Ddraenen Wen, Heol Llanwynno, Stryd Fawr, Stryd y Fasnach, Stryd Rhydychen, Stryd Henry a Heol Meisgyn.
I gerbydau sy'n teithio rhwng Heol Meisgyn a'r A4059, bydd llwybr arall ar gael ar hyd Heol Newydd (A4059), Cilgant y Ffrwd, Pont Canol Tref Aberpennar, Stryd y Fasnach, Stryd Fawr, Heol Llanwynno, Teras y Ddraenen Wen, Stryd Morgannwg, Heol Abercynon a Heol Penrhiwceibr.
Bydd mynediad ar gael i'r holl eiddo preswyl trwy gydol y gwaith, a bydd mynediad i gerddwyr ar draws y Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm hefyd ar gael ar bob adeg.
----------
*Mae'r Cyngor bellach wedi cwblhau trefniadau amgen ar gyfer bysiau, a fydd yn rhedeg rhwng 9am a 4.30pm ar y tridiau pan fydd y ffordd ar gau (dydd Llun 25 Hydref tan ddydd Mercher, 27 Hydref).
Tra bydd y ffordd ar gau, bydd Keepings Coaches, gweithredwr newydd Gwasanaeth 3 (Cefnpennar i Benrhiwceiber) dim ond yn gallu teithio rhwng Cefnpennar ac Aberpennar. Bydd Gwasanaethau 60/61 Stagecoach (Aberdâr i Bontypridd) yn dargyfeirio trwy Berthcelyn a bydd Gwasanaeth 95 (Aberdâr i Berthcelyn) yn teithio cyn belled â Gorsaf Reilffordd Aberpennar yn unig ac ni fydd yn gwasanaethu Perthcelyn.
Bydd gwasanaeth bws gwennol am ddim i deithwyr sy'n dymuno teithio rhwng Gorsaf Reilffordd Aberpennar, Meisgyn, Penrhiwceiber (arosfannau'r brif ffordd) a Gorsaf Derminws Perthcelyn, yn cael ei weithredu gan Davies Coaches. Bydd yn gadael yr orsaf reilffordd am 9am, 9.28am, 9.58am ac yna bob 30 munud tan 4.28pm. I'r cyfeiriad arall, bydd yn gadael o Orsaf Derminws Perthcelyn am 9.15am, 9.45am, 10.15am ac yna bob 30 munud tan 4.15pm.
Bydd y bws gwennol yn cwrdd â Gwasanaethau 60/61 yng Ngorsaf Derminws Perthcelyn a gwasanaethau 3 a 95 yng Ngorsaf Reilffordd Aberpennar ar gyfer teithio ymlaen.
Dylai pob gwasanaeth bws ddilyn eu llwybrau arferol cyn ac ar ôl yr amseroedd cau ar y dyddiadau uchod.
----------
Bydd gan y contractwr swyddfeydd wedi'u lleoli yn agos at ei hen safle ar Ystad Ddiwydiannol Cwm Cynon, a gafodd ei ddefnyddio trwy gydol y prif waith adeiladu. Mae croeso i breswylwyr a busnesau gysylltu â Lukeholmes@walters-group.co.uk (07741 265919) neu Alexgordon@walters-group.co.uk (07977 197150) gydag unrhyw gwestiynau.
Bydd Walters-Sisk hefyd yn ysgrifennu at breswylwyr a busnesau yn fuan, i amlinellu manylion pellach am y cynllun sydd ar ddod. Diolch i'r gymuned ymlaen llaw am eich cydweithrediad wrth i'r gwaith adfer angenrheidiol yma gael ei gyflawni.
Wedi ei bostio ar 27/10/21